Beth sy’n digwydd i raddedigion rhaglenni llwybr cyflym gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd wedyn.  Ydyn nhw’n aros?  Beth yw eu hamodau gwaith?  Ydyn nhw’n cael eu dyrchafu? 

Arolwg

Diben y prosiect hwn yw canlyn graddedigion dwy o raglenni llwybr cyflym Lloegr ym maes gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd – Step Up to Social Work a Frontline – i asesu faint sydd mewn gwaith cymdeithasol o hyd a sut mae’u gyrfaoedd yn datblygu.

Mae Adran Addysg San Steffan wedi ariannu’r astudiaeth hon (hyd fis Mawrth 2021) i bwyso a mesur deilliannau tymor hwy carfanau 1-5 Frontline a charfanau 4/5 Step Up.

Roedd y cwestiynau ymchwil fel a ganlyn:

  • Ble mae graddedigion llwybr cyflym rhaglen Step Up neu Frontline yn gweithio a sut mae’u gyrfaoedd wedi datblygu?
  • Faint o bob carfan sydd ym maes gwaith cymdeithasol o hyd?
  • Ydy graddedigion carlam sy’n dechrau ym maes gwaith cymdeithasol yn symud ymlaen i swyddi goruchwylio neu arwain ac, os felly, pa mor gyflym?
  • Beth yw cynlluniau a dyheadau gyrfaol tymor hwy y graddedigion carlam?
  • Pa waith sydd gan yr ymgeiswyr carlam sy’n gadael y rhaglenni cyn eu cwblhau, y rhai sy’n cwblhau’r rhaglenni ond heb ddechrau gwaith cymdeithasol a’r rhai sy’n dechrau gweithio yn y maes ond heb barhau ynddo? Beth yw eu rhesymau dros adael?
  • Pa ffactorau gwthio/tynnu sy’n effeithio ar faint o raddedigion carlam fydd yn aros ym maes gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd?
  • Ydy’r math o lwybrau gyrfa sydd wedi’u datblygu yn yr astudiaethau blaenorol o raglen Step Up yn berthnasol i raddedigion rhaglen Frontline a beth mae’n ei gyfleu am oruchwylio a rheoli’r gweithlu?

Pa strategaethau ymdopi y mae graddedigion carlam yn eu defnyddio? Sut y gallai’r rhain effeithio ar reoli gweithluoedd yn y dyfodol?

Gweithgareddau/Dulliau

Rydyn ni wedi cynnal arolygon blynyddol ac wedi holi is-grŵp o ymatebwyr i’r arolwg, yn ogystal â rhai cyflogwyr. Rydyn ni wedi gwirio a yw’r rhai sydd heb ymateb wedi’u cofrestru’n weithwyr cymdeithasol proffesiynol yn Lloegr.

Canfyddiadau

Sylwad Cyfrinachol

*Nod mae’r Hysbydiad Preifatrwydd dim ond ar gael yn Saesneg.


Person Arweiniol

Prof Ymchwilydd Jonathan Scourfield

Staff Academaidd

Ymchwilydd Nina Maxwell
YmchwilyddNell Warner
YmchwilyddRoger Smith
YmchwilyddJohn Carpenter
YmchwilyddEvgenia Stepanova
YmchwilyddChloe O’Donnell

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ygsolion Cysylltiedig Department of Sociology, Prifysgol Durham
Partneriaid CysylltiedigDepartment for Education