Ysgrifennwyd gan Rachael Vaughan

Mae’r flwyddyn hon yn ben-blwydd 10 mlynedd canolfan ymchwil CASCADE, ond mae hefyd yn 10fed pen-blwydd Grŵp Cynghori Ymchwil Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal Lleisiau CASCADE. A dweud y gwir, rydw i wedi cael gwybodaeth ddibynadwy (gan y rhai a oedd yno) fod grŵp pobl ifanc wedi’i sefydlu cyn y ganolfan ei hun. Eu cyngor a’u harweiniad nhw a gyfrannodd at ei datblygiad, ac mae eu cyngor yn parhau i’n harwain ni heddiw. Mae’r grŵp yn cael ei redeg gyda’n partner parhaus Voices From Care Cymru. Dros 10 mlynedd mae ‘Lleisiau CASCADE’ wedi croesawu a dysgu gan lawer o wahanol bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.  

Rydyn ni wedi dysgu oddi wrth ein gilydd, wedi elwa o fewnwelediadau, profiadau, myfyrdodau a gwybodaeth gyda’n gilydd. Rydyn ni wedi trafod a dylanwadu ar brosiectau ymchwil di-ri, gan wella eu gwaith gyda phobl ifanc a’u herio i feddwl yn wahanol. Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar ffyrdd o wella ymchwil, gyda’r nod bob amser o ddylanwadu ar ganlyniadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Er bod y pynciau ymchwil yn gallu bod yn anodd yn aml, rydyn ni’n dal i lwyddo i chwerthin, cael hwyl a bwyta tunnell o Pizza!  

Ni fydda i byth yn gallu anghofio: 

  • Sesiynau torri iâ sydd wedi methu ac yn gorffen â chwerthin. 
  • Creu ac arddangos celf protest. 
  • Byth yn gallu cael y dechnoleg i weithio heb gymorth gan y grŵp. 
  • Gofyn cwestiynau gwirion! 
  • Clywed am yr holl bethau cyffrous ac ysbrydoledig y mae pawb yn eu gwneud. 
  • Colli sylw oherwydd yr aelodau lleiaf! 
  • Gwylio’r grŵp yn tyfu’n hyderus ac yn cymryd cyfleoedd newydd. 
  • Synnu at eu dirnadaeth, eu haelioni a’u hangerdd i wneud newid. 
  • Byth yn cadw o fewn amser. 
  • Gweithio tu allan yn yr haf. 
  • Y brwdfrydedd i barhau mewn pandemig, pan oedd y byd yn lle rhyfedd. 
  • Taith i Gaeredin i rannu ein gwaith! 

Mae’r grŵp wedi effeithio ar gymaint o astudiaethau, ond dyma rai enghreifftiau: 

Penderfynodd y grŵp mai’r ffordd yr hoffen nhw ddathlu oedd diwrnod adeiladu tîm llawn hwyl, a hynny’n gwbl briodol hefyd ar ôl eu holl waith caled yn cynghori ar ymchwil! Cafwyd canlyniadau cymysg yn ein gweithgaredd ‘Ystafell Ddihangfa’ ac yna aethon ni am ginio grŵp. 

I bob unigolyn sydd â phrofiad o ofal sydd erioed wedi bod yn rhan o’n grŵp Lleisiau CASCADE, diolch i chi am eich amser, eich angerdd a’ch mewnwelediad. Yn llythrennol, ni allen ni ei wneud heboch chi, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi. Boed 10 mlynedd arall!