Mae’r astudiaeth yn archwilio’r berthynas rhwng tlodi ac ymarfer gwaith cymdeithasol, drwy archwilio sut mae gweithwyr cymdeithasol yn deall ac yn cydnabod tlodi fel rhan o’u hasesiadau a’u gwaith yn gwneud penderfyniadau gyda theuluoedd. 

Arwain

Ymchwilio i’r berthynas rhwng tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol ac ymyriadau lles plant, fel dod yn blant sy’n ‘derbyn gofal’ neu gael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant. 

Arolwg

Ceir tystiolaeth ryngwladol am y cysylltiad rhwng tlodi a cham-drin plant ond dim ond yn ddiweddar y cynhaliwyd ymchwil ar y pwnc hwn yn y DU. Drwy ddadansoddi data gweinyddol, mae’r ymchwil yn dangos gwahaniaethau amlwg rhwng cyfraddau ymyrraeth lles plant yn ôl amddifadedd cymharol eu cymunedau. Mae llai’n wybyddus am sut mae’r cysylltiad hwn rhwng amddifadedd ac amddiffyn plant yn effeithio’n ymarferol ar ymatebion awdurdodau lleol i blant mewn angen. Roedd astudiaeth ddiweddar ym mhedair gwlad y DU a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield yn cynnwys astudiaethau achos dulliau cymysg o dimau gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol, yn holl genhedloedd y DU heblaw am Gymru. 

Y bwriad yw cynnal astudiaeth debyg yng Nghymru, lle mae graddiant cymdeithasol ymyrraeth ar ei uchaf o holl genhedloedd y DU a chyfraddau ymyrraeth cyffredinol yn uwch nag yn Lloegr a hefyd yng Ngogledd Iwerddon, er bod y wlad honno’n fwy difreintiedig na Chymru. Ychydig a wyddom hefyd am y mathau o gymorth ymarferol all gyfrannu at atal cam-drin plant. Mae’r astudiaeth arfaethedig hefyd yn canolbwyntio ar y mater hwn. 

Gweithgareddau/Dulliau

Ceir dwy ffrwd gweithgaredd yn yr astudiaeth: 

Ffrwd Un 

Cynhelir astudiaethau achos dulliau cymysg mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru i archwilio’r berthynas rhwng amddifadedd cymdogaeth ac ymarfer gwaith cymdeithasol. Caiff timau gwaith cymdeithasol eu dewis yn ôl yr un meini prawf ag astudiaethau tebyg yng ngweddill y DU. Bydd y dulliau ymchwil a ddefnyddir yn yr astudiaethau achos yn cynnwys: adolygiad o’r data demograffig ac amddifadedd presennol; mapio dadansoddiad adnoddau o bolisi ac arweiniad; arsylwi; dadansoddiad meintiol o drwybwn a chanlyniadau; cyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff rheng flaen a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau; a grwpiau ffocws gyda gweithwyr cymdeithasol. Bydd dadansoddiad fframwaith yn cymharu data astudiaethau achos ar draws y pedair gwlad. 

Ffrwd Dau 

Yn dilyn mapio cychwynnol y gwasanaethau cyngor lles yn awdurdodau lleol Cymru, caiff data cyfanredol ei gyrchu o ddwy ffynhonnell: (1) ystadegau plant sydd wedi’u cyhoeddi ar gynlluniau amddiffyn plant a ‘derbyn gofal’ yn awdurdodau lleol Cymru a (2) data perfformiad gan dimau cyngor lles awdurdodau lleol. Pan fydd awdurdodau lleol yn cynnig uchafu incwm i deuluoedd yn rheolaidd, a lle ceir dyddiad cychwyn hysbys ar gyfer darparu’r gwasanaeth hwn, defnyddir dadansoddiad cyfres amser bylchog i ddadansoddi’r gwahaniaethau rhwng cyfraddau ymyrraeth plant a arsylwyd a rhai disgwyliedig. 

Eraill

I ddilyn 


Person Arweiniol

Prif ymchwilydd Dr. Martin Elliott

Staff Academaidd

Ymchwilydd Dr. Philip Smith
Ymchwilydd Prof. Jonathan Scourfield

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion Cysylltiedig Department of Sociological Studies, Prifysgol Sheffield;
Sheffield Methods Institute, Prifysgol Sheffield
Partneriaid Cysylltiedig Prof. Kate Morris – Prifysgol Sheffield
Dr. Will Mason – Prifysgol Sheffield
Dr. Calum Webb – Prifysgol Sheffield
Cyllidwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dogfennau Cysylltiedig Child Welfare Inequalities Project – Prifysgol Coventry