Prosiect yw hwn i edrych ar anghenion addysgol plant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar, gyda’r nod o greu enghraifft o arfer da.

Yn benodol, mae’r prosiect i adolygu’r prosiect Parth Ysgol presennol yng Ngharchar Parc, yn ogystal â chasglu gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael i blant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar.

Trosolwg

Mae’r astudiaeth hon yn brosiect blwyddyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r tîm ymchwil yn cael ei arwain gan Nancy Loucks o Families Outside (Yr Alban) ac mae’r tîm yn cynnwys yr Athro Alyson Rees o CASCADE, Dr Ben Raikes (Prifysgol Huddersfield), Sarah Beresford, Polly Wright a chydymaith ymchwil.

Gweithgareddau a dulliau

Byddwn yn treulio dau ddiwrnod yng ngharchar y Parc yn darganfod am Barth yr Ysgol. Byddwn yn cynnal adolygiad llenyddiaeth. Byddwn yn cyfweld rhieni yn y carchar, staff addysg, aelodau staff y carchar, swyddogion prawf a phlant.

Canfyddiadau

Mae’r Prosiect hwn yn mynd rhagddo.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddNancy Loucks
Prif YmchwilyddAlyson Rees
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigN/A
ArianwyrLlywodraeth Cymru
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedigN/A
Dogfennau cysylltiedigN/A