Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS) yn gweithio gyda Chaerffili ers mis Ebrill 2017 i ddarparu eiriolwyr i rieni. Yn 2020 dyfarnwyd cyllid i NYAS gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar draws Gwent. Rydym yn dymuno cynnal gwerthusiad manwl o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir inni o sut mae’r Rhaglen Eiriolaeth Rhieni (PAP) yn cefnogi rhieni a theuluoedd ledled Gwent a sut mae’n cael ei gweithredu mewn gwahanol awdurdodau lleol. Bydd hyn yn ychwanegiad pwysig at y sylfaen ymchwil hon gan mai ychydig o dystiolaeth a wnaed yn y Deyrnas Unedig ynghylch y pwnc hwn. 

Arolwg

Nod y PAP yw cefnogi rhieni fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod wedi’u grymuso i chwarae rhan ystyrlon wrth wneud penderfyniadau ochr yn ochr â gofal cymdeithasol plant ac asiantaethau allweddol eraill. Nod arall i’r prosiect yw ceisio lleihau, yn ddiogel, nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal yn ardal Gwent. Dyma’r tro cyntaf i brosiect eiriolaeth rhieni sydd wedi’i ariannu’n iawn gan y Llywodraeth gael ei sefydlu yn y DU. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod ymchwil gadarn yn cael ei gwneud i ddarganfod a yw’n effeithiol wrth rymuso rhieni a lleihau nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’r rhai mewn gofal, a hynny mewn ffordd ddiogel a phriodol. Ein nod yw deall sut mae PAP yn gweithredu ac yn effeithio ar allu rhieni i gymryd rhan yn ystyrlon wrth i benderfyniadau gael eu gwneud. Bydd rhieni’n chwarae rhan allweddol yn yr astudiaeth hon, o’r camau dylunio ar hyd i daith i’w chwblhau a’i lledaenu. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar 5 ardal Awdurdod Lleol yng Ngwent ac yn ystyried effaith PAP yn yr Awdurdodau Lleol hyn. 

Caiff yr ymchwil ei harwain gan y cwestiynau ymchwil canolog canlynol:

  • Beth yw elfennau hanfodol y Prosiect Eiriolaeth Rhieni? Sut y gellir eu disgrifio mewn model rhesymeg? 
  • Ym mha ffyrdd ac o dan ba amgylchiadau y mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni yn cefnogi rhieni i chwarae rhan fwy ystyrlon wrth wneud penderfyniadau pan fydd pryderon ynghylch llesiant plant?
  • Beth yw profiadau rhieni a gweithwyr proffesiynol o’r Prosiect Eiriolaeth Rhieni? 
  • Tra bod y Prosiect Eiriolaeth Rhieni yn rhedeg, a oes unrhyw ostyngiad yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’r rhai sy’n cael eu derbyn i ofal yn yr ardaloedd lle mae’n gweithredu?

Gweithgareddau a Dulliau

Mae dyluniad yr ymchwil yn werthusiad realaidd dulliau cymysg sy’n dwyn data ansoddol a meintiol ynghyd i ateb y cwestiynau ymchwil. Mae dulliau realaidd yn edrych ar achosion a phatrymau deilliannau mewn perthynas â dylanwadau cyd-destunol. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cyfuniad o arolygon, dadansoddi ffeiliau, arsylwi ymarfer a chyfweliadau un i un yn cynnwys rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Canfyddiadau

Mae’r prosiect hwn ar y gweill. Rydym yn gweithio ar yr adroddiad terfynol ar hyn o bryd, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2023.


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd Dr Clive Diaz

Staff Academaidd

Staff Academaidd Dr Louise Roberts
Staff AcademaiddDr David Tobis
Research AssistantLilly Evan
Research AssistantSammi Fitz-Symonds

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgol Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Partneriaid Cysylltiedig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, DECIpher, SAIL Databank ym Mhrifysgol Abertawe, Canolfan Treialon Ymchwil