Cysylltu data arolygon a data gweinyddol i wella’r ddealltwriaeth o fathau o ymddygiad peryglus a’r ffactorau amddiffyn posibl o ran plant sy’n derbyn gofal cymdeithasol: Astudiaeth dichonolrwydd.

Bydd y prosiect hwn yn cynnig dealltwriaeth fwy cynnil a rhyngadrannol o amrywiaeth o ymddygiadau peryglus ymhlith pobl ifanc, gyda phwyslais arbennig ar blant sy’n derbyn gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. 

Arolwg

Bob dwy flynedd, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, dan arweiniad DECIPHer, yn arolygu mwy na 100,000 o bobl ifanc 11 i 16 oed ledled Cymru. Defnyddir yr ymatebion i’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr i fonitro ymddygiadau iechyd pobl ifanc er mwyn gwella dealltwriaeth a llywio polisi yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar amrywiaeth o ymddygiadau gwahanol gan gynnwys rhai y gellid ystyried eu bod yn ‘beryglus’ megis ysmygu, yfed, defnyddio cyffuriau, triwantiaeth, gwahardd, bwlio a chael eu bwlio, secstio, iechyd rhywiol, canlyn, trais mewn perthynas a gamblo. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y rhain a’r ffactorau sy’n lliniaru’r rhain drwy gysylltu ag ymatebion y bobl ifanc i’w cofnodion addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng nghronfa ddata SAIL. 

Caiff ei gydnabod fod canlyniadau addysgol ac iechyd plant sy’n derbyn gofal yn waeth na’r boblogaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae niferoedd isel a thuedd i drin plant sy’n derbyn gofal fel grŵp homogenaidd yn broblem. Er mwyn deall y rhesymau am yr anghydraddoldebau hyn, mae angen ymagwedd fwy cynnil a chroestoriadol sy’n canolbwyntio nid yn unig ar y plant sy’n derbyn gofal, ond yr holl blant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fel hyn, gellir gwneud cymariaethau hefyd gyda’r rheini nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy i fod yn blant sy’n derbyn gofal.

Bydd y prosiect yn ystyried y cwestiynau ymchwil canlynol:

  1. Sut gellir gwella ein dealltwriaeth o batrymau cyfranogi mewn ymddygiadau peryglus ymhlith y rheini sy’n derbyn gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfuno data arferol a data arolwg? Beth yw cryfderau a chyfyngiadau’r dull hwn?
  2. O ran ffactorau amddiffynnol, oes patrymau gwahanol yn y grwpiau hyn? Pa ffactorau allai fod yn agored i ymyriadau?
  3. Oes risgiau ychwanegol yn bodoli i blant sy’n cael gofal a chymorth, ac yn benodol plant sy’n derbyn gofal, ar ôl cyfrif am statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd y gymdogaeth?

Gweithgareddau/Dulliau

Bydd yr astudiaeth yn archwilio’r manteision a all ddeillio o gysylltu data o’r arolwg â’r data gweinyddol arferol i roi darlun cywir o nifer yr achosion a’r patrymau ymddwyn yn beryglus ymhlith pobl ifanc sy’n cael cymorth gofal cymdeithasol o’u cymharu â’u cyfoedion, a’r rôl a chwaraeir gan ffactorau cymedroli. O safbwynt methodolegol, bydd y gwaith ymchwil arfaethedig hwn yn:

  • Pennu dibynadwyedd y mesurau hunangofnodi o wahardd a thriwantiaeth, a’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol i nodi plant sy’n derbyn gofal mewn gofal maeth, gofal preswyl neu ofal gan berthynas
  • Monitro newidiadau yn ymatebion y rhai sy’n ymddwyn yn beryglus dros amser ac yn gwella dealltwriaeth o rôl ffactorau cymedroli
  • Archwilio’r defnydd o gymhwyso cyfuniad o dechnegau cysylltu data a dulliau Bayesaidd i wella ein dealltwriaeth o faterion cymhleth ym maes gofal cymdeithasol.

Bydd y prosiect cysylltu data hwn yn cael ei gynnal dros bum mlynedd sy’n golygu y bydd tair ton o ddata’r arolwg ar gael ar gyfer yr ymchwil.  Y flaenoriaeth gychwynnol fydd defnyddio gwasanaethau cymdeithasol a chofnodion cyfiawnder teuluol i ddiffinio’r garfan o ddiddordeb. Ar ôl ei sefydlu, bydd ymatebion yn gysylltiedig â chofion addysg ac iechyd yr unigolyn, a’r gwahanol ymddygiadau peryglus a ffactorau amddiffynnol cysylltiedig a archwiliwyd. Bydd y drefn yr archwilir y rhain yn cael ei phennu drwy ymarfer blaenoriaethu gydag ystod amrywiol o bobl ifanc. Bydd ymgymryd â chysylltiad trawsadrannol a hydredol yn caniatáu archwilio ymddygiadau a chymedrolwyr dros amser a/neu’n ddatblygiadol i sefydlu a oes gwahaniaethau ymhlith y gwahanol grwpiau.

Canfyddiadau

Dim eto.


Person Arweinol

Prif YmwchwilyddDr Helen Hodges
Ysgol Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Partneriaid CysylltiedigDECIPher / The School Health Research Network / SAIL Databank 
CyllidwyrHealth and Care Research Wales Cymrodoriaeth Ymchwil