Astudiaeth o weithredu’r canllawiau newydd ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru

Arolwg

Diben canolog yr astudiaeth yw dod i ddeall sut mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol allweddol yn deall ac yn gweithredu’r canllawiau newydd am gam-fanteisio ar blant yn rhywiol gan Lywodraeth Cymru.  

Hyd yma nid oes unrhyw waith ymchwil wedi’i gynnal yng Nghymru nac yn unman arall yn y DU ynghylch sut mae polisïau amddiffyn plant yn cael eu gweithredu’n ymarferol. Mae Proctor, sydd wedi cynnal astudiaethau yng Ngogledd America ar roi polisi amddiffyn plant ar waith, yn dadlau mai’r rhwystr mwyaf i ymarfer o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw’r ymchwil a’r wybodaeth gyfyngedig sy’n ymwneud â gweithredu polisi (Proctor 2012). 

Mae canllawiau drafft newydd am gam-fanteisio ar blant yn rhywiol gan Lywodraeth Cymru yn nodi fframwaith clir ar gyfer gwella ymarfer gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru. Lluniwyd yr astudiaeth hon i brofi’r fframwaith newydd drwy ofyn y cwestiynau ymchwil canlynol: 

  • A yw’r polisi newydd ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn cael ei weithredu’n ymarferol yng Nghymru yn y ffordd a amlinellwyd yn y canllawiau?
  • Beth yw’r galluogwyr a’r rhwystrau y canllawiau’n gwella ymarfer gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. 

Gweithgareddau a Dulliau

Mae’r cynllun ymchwil yn seiliedig ar werthusiad realaidd sy’n defnyddio dulliau cymysg a fydd yn dwyn data ansoddol a meintiol ynghyd er mwyn ateb y cwestiynau ymchwil. Mae tair llinyn allweddol i’r prosiect: datblygu theori’r rhaglen gychwynnol, profi theori’r rhaglen gychwynnol a gwneud gwaith ymgysylltu a lledaenu estynedig i greu effaith ymchwil. Ar hyn o bryd, rydym yn profi theori’r rhaglen gychwynnol.

Rydym yn ymdrin â’r astudiaeth mewn ffordd realaidd sydd wedi’i llywio gan lenyddiaeth ar wyddoniaeth weithredu. Mae hyn yn ein galluogi i ystyried ffactorau cyd-destunol sy’n effeithio ar sut y caiff y polisi newydd ei weithredu mewn gwahanol awdurdodau lleol, gan gynnwys sut mae’r rhain yn rhwystro neu’n cynorthwyo’r gwaith o’i weithredu’n effeithiol. Mae’n gymhleth iawn gweithredu polisïau newydd, ac mae amrywiaeth o ffactorau’n cael effaith ar sut mae polisi newydd yn cael ei weithredu’n ymarferol. Rydym yn gwneud y gwaith ymchwil hwn mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda Barnardo’s ar yr astudiaeth hon.

Canfyddiadau

Mae’r prosiect hwn ar y gweill. Rydym wedi datblygu ein theori rhaglen derfynol ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu’r adroddiad terfynol, y mae disgwyl iddo gael ei gadarnhau ar ddechrau 2023.

Mae gennym un papur wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolyn adolygu cymheiriaid ac un arall yn cael ei adolygu gan gymheiriaid ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar drydydd papur sy’n amlinellu ein theori rhaglen derfynol.

Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Clive Diaz

Staff Academaidd

Prif Gyd-ymchwilyddProfessor Donald Forrester
Cyd-ymchwilyddDr Sarah Brand
Cynorthwy-ydd YmchwilJuan Usubillaga
Cynorthwy-ydd YmchwilSammi Fitz-Symonds

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Partneriaid Cysylltiedig Barnado’s Cymru
CyllidwyrYmchwil Iechyd a Gofal Cymru