I ba raddau mae ymarferwyr sydd wedi cymhwyso mewn Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn ymgorffori’r sgiliau hyn yn eu hymarfer a sut mae plant a theuluoedd yn profi Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo?

Arolwg

Ymyriad yn seiliedig ar berthynas yw Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo a’i nod yw cynyddu sensitifrwydd gofalwyr i anghenion emosiynol eu plentyn. I wneud hyn, mae Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn defnyddio adborth fideo i ddatblygu ymwybyddiaeth y gofalwr o signalau’r plentyn ac atgyfnerthu ymatebion priodol, sensitif (Kennedy et al, 2011). Mae Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn un o’r ymyriadau adborth fideo sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac a gymeradwywyd gan ganllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i hyrwyddo ymlyniad plant a phobl ifanc sy’n dod o ofal, sydd mewn gofal neu sydd â risg uchel o fynd i ofal (NICE, 2015), ac ar gyfer lles cymdeithasol ac emosiynol plant yn y blynyddoedd cynnar (NICE, 2012). 

Nodau’r astudiaeth oedd archwilio’r broses a ddefnyddid gan weithwyr proffesiynol i ymgorffori Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn eu hymarfer bob dydd gyda theuluoedd. Roedd y gwerthusiad hefyd yn archwilio profiad byw plant a gofalwyr a gymerodd ran yn yr ymyriad Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo.

Gweithgareddau/Dulliau

Mabwysiadodd yr astudiaeth ymagwedd ansoddol dull cymysg yn cynnwys pedair prif elfen o gasglu data:

  • Cyfweliadau gyda 12 gweithiwr proffesiynol oedd yn defnyddio Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo a 6 rheolwr.
  • Dyfeisiwyd fframwaith codio ar sail yr ymyriad gyda chyfeiriad at Raddfa Datblygu Sgiliau Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo (VIG-SDS, Gibson & Marczak, 2018). Defnyddiwyd y fframwaith i adolygu dau recordiad o ymarfer gan 5 gweithiwr proffesiynol: recordiad o adolygiad a rannwyd gyda Chanllawiau Rhyngweithio trwy Fideo a recordiad o gyfarfod heb Ganllawiau Rhyngweithio trwy Fideo.
  • Cyfweliadau gyda 9 gofalwr 
  • Gweithgareddau creadigol, cyfranogol gyda 10 o blant.

Canfyddiadau

Hyd y gwyddom ni, dyma’r ymgais gyntaf i asesu i ba raddau mae Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo wedi’u hymgorffori gan ymarferwyr ac i’w gweld ym mhob elfen o’u gwaith, a hefyd o gasglu barn plant am gymryd rhan mewn Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo. Dangosodd y canfyddiadau fod Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn ychwanegu gwerth at ymarfer proffesiynol waeth beth oedd yr arbenigedd neu’r rôl. Roedd peth tystiolaeth bod Canllawiau Rhyngweithio  trwy Fideo yn effeithio ar ymarfer ar draws amrywiol rolau a meysydd gwaith, a bod achrediad Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn gysylltiedig â chadw gweithwyr proffesiynol medrus iawn. Roedd gofalwyr yn gwerthfawrogi’r ymagwedd yn seiliedig ar berthynas a nodwyd eu bod yn cyd-dynnu’n well â’u plant. Roedd plant yn mwynhau cymryd rhan yn y Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i arsylwi a myfyrio ar eu perthnasoedd teuluol.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddNina Maxwell

Staff Academaidd

Ymchwilydd Alyson Rees
YmchwilyddSue Thomas

Gwybodaeth Cysylltiedig

CyllidwyrCyngor Cernyw