Polisi blaenllaw sy’n ceisio lleihau anghydraddoldeb iechyd ac addysgol yn y blynyddoedd cynnar a thu hwnt yw Sure Start (Gogledd Iwerddon). Am fwy na dau ddegawd, mae Sure Start wedi cefnogi teuluoedd â phlant 0 i 4 oed sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.
Trosolwg
Mesurodd yr ymchwil hon, a gynhaliwyd rhwng 2024 a 2026, effaith Cychwyn Cadarn ar nifer o ffactorau sy’n ymwneud ag iechyd babanod a mamau sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Gogledd Iwerddon a’u rhyngweithio â gwasanaethau cymdeithasol plant. Gan ddefnyddio data gweinyddol, gwnaethon ni hefyd gwmpasu’r potensial i edrych ar effaith drwy gydol bywyd plentyn.
Mae cael eich geni mewn tlodi yn gysylltiedig ag anfanteision addysgol ac iechyd o fabandod hyd at oed oedolyn ac yn achosi cryn gostau i’r pwrs cyhoeddus. Mae gan ymyraethau yn y blynyddoedd cynnar – fel Cychwyn Cadarn – botensial aruthrol i fynd i’r afael ag achosion anghydraddoldeb addysgol ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Fodd bynnag, mae wastad wedi bod yn heriol profi effaith yr ymyraethau hyn yn gadarn. Manteisiodd ein prosiect ar arbrawf naturiol a ddigwyddodd pan ehangodd yr Adran Addysg Cychwyn Cadarn i feysydd newydd rhwng 2006 – 2010, 2013 – 2017 a 2021.
Gan ddefnyddio data gweinyddol ar bob plentyn a anwyd yng Ngogledd Iwerddon, nod ein hymchwil oedd mesur effaith Cychwyn Cadarn ar y canlynol:
- Iechyd mamau a phlant yn ystod 60 mis cyntaf bywyd
- Defnyddio gwasanaethau a dod o hyd i’r hyn sy’n oedi datblygiad plant
- Ymddygiad cynnar wrth fagu plant
Gweithgareddau a Dulliau
Gwnaeth ein tîm y canlynol:
- Mesur effaith Cychwyn Cadarn ar y teuluoedd sy’n byw yn ardaloedd Cychwyn Cadarn gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig i greu carfan eni sy’n cynnwys miloedd o fabanod.
- Gwrando ar rieni, gofalwyr a staff mewn tair canolfan Cychwyn Cadarn yng Ngogledd Iwerddon i gael golwg ar y mesurau pwysicaf i’w dadansoddi a deall rhagor am y ffordd y mae Cychwyn Cadarn yn cael ei gynnig a’i brofi. Cynhaliodd Cyn-gomisiynydd Plant Gogledd Iwerddon, Koulla Yiasouma, y sesiynau hyn gydag aelod o’n tîm.
- Mynd i’r afael â bwlch sylweddol mewn tystiolaeth ynghylch Cychwyn Cadarn a manteision y rhaglen.
Mae’r broses o rannu ein canfyddiadau mewn cyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid ac unigolion y tu hwnt i’r byd academaidd yn mynd rhagddi. Bydd yr holl allbynnau ar gael ar y wefan hon.
Rydyn ni wedi gweithio gyda Biwro Cenedlaethol y Plant i rannu ein canfyddiadau y tu hwnt i’r byd academaidd. Ym mis Hydref 2025, cynhalion ni ddigwyddiad yn Belfast gyda thua 100 o lunwyr polisïau ac ymarferwyr i rannu ein canfyddiadau a deall y rhesymau pam roedd rhai canlyniadau’n ymddangos yn gryfach nag eraill (gweler y briff polisi ar y dudalen hon).
Canfyddiadau
Person Arweiniol
| Prif Ymchwilydd | Dr Meng Le Zhang |
Academyddion ac Ymchwilwyr
| Cymrawd Ymchwil | Dr Gareth Griffiths |
| Uwch Gymrawd Ymchwil | Dr Martin Elliot |
| Athro | Yr Athro Sally Holland |
Gwybodaeth gysylltiedig
| Ysgolion Cysylltiedig | SOCSI |
| Partneriaid cysylltiedig | N/A |
| Arianwyr | UKRI. |
| Cyhoeddiadau cysylltiedig | N/A |
| Dolenni cysylltiedig | https://www.ukri.org/news/9-7-million-to-tackle-regional-disparities-across-the-uk/ https://github.com/MengLeZhang/sure-start-historical-website |
| Dogfennau cysylltiedig | N/A |
