1. Beth yw Cyfweld Ysgogol?
Mae’n hawdd meddwl am Gyfweld Ysgogol (MI) fel cyfres o sgiliau cyfathrebu sy’n cynnwys cwestiynau agored, cadarnhadau, myfyrdodau a chrynodebau (OARS). Mae’r sgiliau hyn yn bwysig iawn, ond nid dyna yw hanfod MI mewn gwirionedd. Mae Miller a Rollnick, sylfaenwyr MI, yn dadlau mai ei ysbryd – partneriaeth, derbyniad, tosturi ac ennyn – sy’n rhoi ystyr i’r sgiliau hynny. Dim ond ffyrdd o roi’r gwerthoedd hynny ar waith yw’r technegau (Miller and Rollnick, 2023).
Gall gweithiwr ofyn cwestiynau agored, cynnig myfyrdodau a chrynhoi’r hyn y mae rhywun yn ei ddweud, ond eto ymdrin â’r unigolyn o safbwynt sy’n feirniadol neu’n besimistaidd yn ei hanfod. Nid Cyfweld Ysgogol yw hynny mewn unrhyw ystyr go iawn. Yn yr un modd, bydd rhywun sy’n credu’n wirioneddol fod gan bobl gryfderau, ymreolaeth a’r gallu i newid yn aml yn defnyddio llawer o sgiliau MI yn naturiol, hyd yn oed heb hyfforddiant ffurfiol.
Mae Miller a Rollnick yn cymharu’r berthynas rhwng ysbryd a sgiliau MI â’r berthynas rhwng cerddoriaeth a geiriau cân. Nid yw adnabod y geiriau yr un peth â chlywed y gerddoriaeth. Yn yr un modd, mae MI yn llawer mwy na chasgliad o dechnegau; y gwerthoedd sy’n rhoi ystyr i’r technegau hynny.
2. Beth nad yw Cyfweld Ysgogol?
Mae MI yn helpu pobl i archwilio a datrys eu hamwysedd eu hunain ynghylch newid. Ni all greu cymhelliant lle nad oes cymhelliant yn bodoli, ac ni all ddileu’r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy’n aml yn gwneud newid yn anodd. Pan fydd ymarferwyr yn defnyddio MI yn syml i arwain pobl tuag at ganlyniad sydd eisoes wedi’i bennu, neu’n gweithredu fel pe bai diffyg cymhelliant yn unig yn broblem, mae’n debygol o deimlo’n driniaethol yn hytrach nag yn gydweithredol – ac mae’n annhebygol o lwyddo beth bynnag.
Daw enghraifft drawiadol o Ddenmarc, lle cafodd swyddogion heddlu eu hyfforddi i ddefnyddio MI gyda phobl yr oedd eu ceisiadau am loches wedi’u gwrthod (Kohl, 2022). Y nod oedd eu hannog i ddychwelyd yn wirfoddol i’w gwlad wreiddiol. Wrth gael ei ddefnyddio yn y modd hwn, ceisiodd MI leihau sefyllfa gyfreithiol a chymdeithasol gymhleth i gwestiwn o gymhelliant unigol. Nid yw’n syndod felly iddo brofi’n aneffeithiol i raddau helaeth.
Y wers i waith cymdeithasol plant a theuluoedd nid yw nad oes lle i MI mewn ymarfer statudol. Yn hytrach, nid yw MI yn ffordd o wneud i bobl wneud yr hyn yr ydym ni eisiau iddynt ei wneud. Mae’n gweithio orau pan fydd ymarferwyr yn onest ynghylch yr hyn sy’n agored i drafodaeth a’r hyn nad yw, tra’n parhau’n wirioneddol chwilfrydig ynghylch nodau, pryderon a chymhellion y teulu ei hun.
3. Pam ei bod mor anodd ei dysgu?
Bydd llawer o weithwyr cymdeithasol yn gyfarwydd o leiaf ag egwyddorion a sgiliau sylfaenol MI. Fodd bynnag, mae dod yn wirioneddol hyfedr ynddo yn llawer mwy heriol.
Mae ymchwil yn dangos yn gyson fod ymarferwyr yn tueddu i orbwysleisio eu cymhwysedd eu hunain. Mae hyn yn adlewyrchu’r effaith ehangach a elwir yn effaith Dunning–Kruger, lle mae pobl â lefelau is o sgil yn aml leiaf abl i adnabod eu cyfyngiadau eu hunain (Kruger and Dunning, 1999). Canfu Forrester et al. (2008) rywbeth tebyg ym maes gwaith cymdeithasol. Mynychodd ymarferwyr weithdy deuddydd ar MI, a gafodd effaith gadarnhaol gymedrol ar eu sgiliau cyfathrebu yn gyffredinol. Fodd bynnag, y rhai a oedd yn credu eu bod wedi dysgu leiaf o’r gweithdai, oherwydd eu bod eisoes yn ystyried eu hunain yn hyfedr mewn MI, oedd hefyd y grŵp oedd fwyaf tebygol o ddangos sgiliau MI cymharol wan pan gafodd eu hymarfer ei arsylwi’n annibynnol.
Nid drwy fynychu cwrs deuddydd yn unig y datblygir cymhwysedd go iawn. Mae’n datblygu drwy ymarfer dro ar ôl tro, hyfforddi, arsylwi ac adborth strwythuredig.
4. Pam mae gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd angen fersiwn wedi’i haddasu o Gyfweld Ysgogol?
Mae’n well deall MI fel arddull gyfathrebu yn hytrach na model ymyrraeth. Gellir ei defnyddio ochr yn ochr â, ac fel rhan o, Signs of Safety, ymarfer systemig, dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, a llawer o fframweithiau ymarfer eraill.
Wedi dweud hynny, datblygwyd MI yn wreiddiol ar gyfer trin dibyniaeth, lle mae ymarferwyr fel arfer yn gweithio gydag un oedolyn sydd wedi ceisio cymorth yn wirfoddol. Mae gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd yn sylfaenol wahanol. Mae sgyrsiau’n digwydd yng nghyd-destun awdurdod statudol, yn cynnwys buddiannau sy’n cystadlu â’i gilydd, ac yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr gadw lles y plentyn mewn cof ochr yn ochr â dymuniadau rhieni a gofalwyr.
Am y rheswm hwn, mae Forrester a’i gydweithwyr yn dadlau bod angen addasu MI ar gyfer gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd. Yn ogystal â sgiliau traddodiadol MI megis empathi, cydweithio a chefnogi ymreolaeth (care and engagement), maent yn nodi sgiliau ychwanegol o ran ‘good authority’, gan gynnwys bod yn bwrpasol, bod yn glir ynghylch pryderon, a chynnal ffocws cyson ar y plentyn. Nid dewisiadau amgen i ofal ac ymgysylltu yw’r rhain, ond maent yn ategu ei gilydd.
Canfu ymchwil Whittaker fod mynegiadau rhieni o gydnabod problemau a chymhelliant i newid yn gysylltiedig yn gryfach â’r sgiliau penodol hyn ar gyfer gwaith gyda phlant a theuluoedd nag â sgiliau MI traddodiadol yn unig. Yn hollbwysig, fodd bynnag, nid yw’r sgiliau ‘good authority’ yn “gweithio” yn absenoldeb care and engagement da. Mae ymarferwyr medrus yn cyfuno cynhesrwydd ag awdurdod, yn hytrach na gweld gofal a rheolaeth fel dau begwn sy’n gwrthwynebu ei gilydd.
5. Beth mae’r dystiolaeth yn ei dangos mewn gwirionedd?
O’i gymharu â llawer o’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir mewn gwaith cymdeithasol, mae gan MI un o’r seiliau ymchwil cryfaf. Mae’r dystiolaeth o wasanaethau iechyd, trin dibyniaeth ac iechyd meddwl yn helaeth. Mae’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd yn llai, ond mae’n parhau i dyfu.
Canfu Forrester a’i gydweithwyr y gallai gweithwyr cymdeithasol wella eu sgiliau drwy hyfforddiant a mentora strwythuredig mewn MI, a bod teuluoedd yn dangos lefelau uwch o ymgysylltu (Forrester et al., 2019). Yn fwy diweddar, canfu gwerthusiad o hyfforddiant MI yn y Ffindir ganlyniadau cymysg yn gyffredinol. Er bod rhai ymarferwyr wedi gwella’n sylweddol, ychydig iawn o newid a welwyd ymhlith eraill. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd mentora ac adborth parhaus, yn hytrach na dibynnu ar hyfforddiant untro (Aaltio et al., 2026).
Yn gyffredinol, mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall MI wella ansawdd y sgyrsiau rhwng gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd. Yr hyn sy’n parhau’n llai sicr yw i ba raddau y mae’r gwelliannau hynny’n arwain at ganlyniadau hirdymor gwell i blant.
Aaltio, E., Saurio, K., Heino, M., Pasanen, K., Isokuortti, N., Alasimonen, L., Moilanen, J., Hankonen, N., Forrester, D. and Jäppinen, M. (2026) ‘Motivational interviewing training for child and family social workers in Finland: An exploratory evaluation study’, British Journal of Social Work, 56(4), tt. 1981–1998.
Forrester, D., McCambridge, J., Waissbein, C. and Rollnick, S. (2008) ‘How do child and family social workers talk to parents about child welfare concerns?’, Child Abuse Review, 17(1), tt. 23–35.
Forrester, D., Westlake, D., Killian, M., Antonopoulou, V., McCann, M., Thurnham, A., Thomas, R., Waits, C., Whittaker, C. and Hutchison, D. (2019) ‘A randomized controlled trial of training in Motivational Interviewing for child protection’, Children and Youth Services Review, 99, tt. 198–206.
Kohl, K.S. (2022) ‘The stalemate: Motivational interviewing at a carceral junction’, Incarceration, 3(2).
Kruger, J. and Dunning, D. (1999) ‘Unskilled and unaware of it: How difficulties in recognizing one’s own incompetence lead to inflated self-assessments’, Journal of Personality and Social Psychology, 77(6), tt. 1121–1134.
Miller, W.R. and Rollnick, S. (2023) Motivational Interviewing: Helping People Change and Grow. 4ydd arg. New York: Guilford Press.
Whittaker, C. (2024) Exploring the relationship between social worker Motivational Interviewing skills and parent/carer motivation to change in child and family social work. Traethawd PhD. Cardiff University.
