“Dwi just eisiau i rywun fy nghlywed.”
Mae’r llinell hon i’w gweld ger dechrau stribed comic newydd a ddatblygwyd drwy ein hymchwil am eiriolaeth. Mae person ifanc yn eistedd mewn cyfarfod, wedi’i amgylchynu gan oedolion, ond yn cael trafferth mynegi ei hun. Mae’n amlygu problem a godwyd yn aml yn ystod yr astudiaeth: nid yw bod yn bresennol wrth i benderfyniadau gael eu gwneud yn golygu o reidrwydd eich bod yn cymryd rhan neu’n cael eich clywed.
Mae’r comic yn un o sawl adnodd a ddatblygwyd yn rhan o brosiect ymchwil Deall Sut Mae Gwasanaethau Eiriolaeth yn Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal i Gymryd Rhan mewn Prosesau Gwneud Penderfyniadau a arweiniwyd gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd gwella dealltwriaeth o beth yw eiriolaeth effeithiol o safbwynt pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’r rhai sy’n eu cefnogi.
I blant sydd mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, mae penderfyniadau pwysig am eu bywydau yn aml yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd ffurfiol. Gall eiriolwr helpu person ifanc i ddeall beth sy’n digwydd, mynegi beth maen nhw ei eisiau a chymryd rhan mewn penderfyniadau. Mae’r gefnogaeth hon yn dibynnu ar wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ymwybodol fod eiriolaeth ar gael, deall rôl yr eiriolwr a theimlo eu bod yn gallu ymddiried yn y person sy’n gweithio gyda nhw.
Deall beth sy’n gwneud eiriolaeth yn effeithiol
Edrychodd ein hastudiaeth ar wasanaeth eiriolaeth mewnol a ddarperir gan y Gwasanaeth Hawliau a Chymryd Rhan yn Ymddiriedolaeth Plant Birmingham. Roeddem am ddeall sut roedd y gwasanaeth yn cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, beth wnaeth helpu’r eiriolaeth i weithio’n dda, a beth oedd yn gallu ei gwneud yn llai effeithiol.
Fe wnaeth yr ymchwil ddod â chyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc, eiriolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ynghyd. Fe wnaethom gynnal pedwar gweithdy ar y cyd hefyd a oedd yn cynnwys 25 o bobl ifanc a oedd â phrofiad o ofal. Fe wnaeth y gweithdai hyn ein helpu i weld a yw’r canfyddiadau yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a’i droi’n arweiniad ymarferol.
Un o’r canfyddiadau amlycaf oedd bod eiriolaeth dda yn dechrau gyda’r person ifanc unigol. Roedd y rhai a gymerodd ran am i eiriolwyr ofyn iddyn nhw am y dull cyfathrebu oedd orau ganddyn nhw, ble roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus i gwrdd, a faint o gefnogaeth yr oedd arnyn nhw ei heisiau. Gallai rhai pobl ifanc fod am i eiriolwr siarad ar eu rhan. Gallai eraill fod am gael help i baratoi fel eu bod yn gallu siarad drostyn nhw eu hunain. Gall y dewisiadau hyn newid yn dibynnu ar y sefyllfa.
Roedd ymddiriedaeth yn ganolog hefyd. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi eiriolwyr a oedd yn neilltuo amser i ddod i’w hadnabod, gwrando arnyn nhw heb wneud rhagdybiaethau, a chadw at eu gair. Roedd cyfathrebu gonest yn bwysig, gan gynnwys ar adegau pan nad oedd eiriolwr yn gwybod beth oedd yr ateb neu’n methu â chyflawni’r canlyniad yr oedd person ifanc am ei gyflawni. Roedd cael man cychwyn a gorffen clir yn arbennig o bwysig gan fod llawer o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wedi cael gweithwyr proffesiynol yn dod i mewn ac allan o’u bywydau dro ar ôl tro.
Fe dynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at bwysigrwydd esbonio eiriolaeth yn glir. Gallai pobl ifanc gael gwybod eu bod yn gallu cael eiriolwr ond nid ydyn nhw’n cael esboniad ystyrlon o’r hyn y mae eiriolwr yn ei wneud. Gall yr ymarferwyr eu hunain gamddeall y rôl hefyd. Felly, mae angen i eiriolwyr fod yn glir ynghylch pa gefnogaeth y maen nhw’n gallu ei chynnig, beth sy’n mynd i gael ei gadw’n gyfrinachol, pryd y gallai fod angen rhannu gwybodaeth, ac am faint o amser y maen nhw’n mynd i gynnig cefnogaeth yn ôl pob tebyg.
Gall gwybodaeth sy’n hygyrch wneud cryn wahaniaeth. Roedd pobl ifanc am gael gwybodaeth a oedd yn berthnasol, hawdd ei deall ac ar gael mewn gwahanol fformatau. Mae hyn yn golygu osgoi iaith broffesiynol, rhannu gwybodaeth yn ddarnau llai, a defnyddio adnoddau creadigol lle bo hynny’n briodol. Mae hefyd yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod sut i gael eiriolaeth, gan gynnwys a ydyn nhw’n gallu cysylltu â’r gwasanaeth eu hunain.
Troi’r canfyddiadau yn adnoddau ymarferol
Drwy weithio gyda phobl ifanc, fe wnaethom ddatblygu Fframwaith Arferion Da a oedd yn cynnwys pum rhan. Mae’n cael ei ysgrifennu o safbwynt person ifanc ac mae wedi’i drefnu o amgylch pum neges: Eiriolaeth sy’n gweithio i mi; Fy llais, fy newis; Fy helpu i gael fy nghlywed; Gwybodaeth wedi’i theilwra i mi; a Rhywun sy’n gefn i mi.
Mae’r fframwaith yn cynnwys poster ac adnoddau gweledol unigol y gall gwasanaethau eiriolaeth eu defnyddio wrth adolygu eu harferion, hyfforddi staff neu esbonio eiriolaeth i bobl ifanc.
Ar ben hynny, fe wnaethom gynnal gweithdy creadigol gyda phobl ifanc yn awdurdod lleol yr astudiaeth i ddatblygu comic yn seiliedig ar y canfyddiadau. Mae’r comic gorffenedig yn dilyn taith person ifanc sy’n mynd o deimlo ei bod yn methu siarad mewn cyfarfod i ddewis sut mae’n cyfathrebu â’i heiriolwr, a magu’r hyder i siarad dros ei hun. Mae’r eiriolwr yn aros wrth ei hymyl heb gymryd drosodd. Mae canllawiau i ymarferwyr a ffeithlun i bobl ifanc wedi’u creu i helpu gwasanaethau i ddefnyddio’r comic fel man cychwyn ar gyfer sgwrs.
Astudiaeth archwiliadol o un gwasanaeth mewnol oedd hon, a byddai ymchwil bellach ar draws gwahanol fodelau eiriolaeth yn cryfhau’r dystiolaeth. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau yn cynnig sail ymarferol ar gyfer myfyrio. Mae eiriolaeth dda i’w gweld mewn gweithredoedd bob dydd: a yw rhywun yn neilltuo amser i wrando, a yw’r dewisiadau a gynigir yn rhai dilys, a yw gwybodaeth yn gwneud synnwyr ac a yw addewidion yn cael eu cadw.
Y manylion hyn sy’n penderfynu a yw cymryd rhan yn teimlo fel rhywbeth ystyrlon ac a yw person ifanc yn gadael cyfarfod yn gwybod bod eu llais yn bwysig.
Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect a lawrlwytho’r adnoddau yma: Deall sut mae gwasanaethau eiriolaeth yn cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. – CASCADE
– Samantha Fitz-Symond
