Yn systemau gwaith cymdeithasol a nawdd cymdeithasol y DU, mae gan y gair ‘haeddiannol’ hanes hir sydd hefyd yn un truenus yn aml. Roedd y rheini yr aeth hi’n fain arnyn nhw yn cael eu hystyried naill ai’n ‘deilwng’ neu’n ‘anneilwng’ o ran bod yn dlawd, gan ddibynnu ar i ba raddau roedden nhw wedi cyfrannu at eu hanffawd neu beidio.  

Mae ymchwil ryngwladol dros y degawdau diwethaf wedi dangos bod gan y rhan fwyaf ohonon ni yr un greddfau wrth ystyried pwy ddylai gael cymorth ariannol ychwanegol gan y wladwriaeth. Rydyn ni’n tueddu i ffafrio’r rheini sydd wedi ceisio dod o hyd i waith, sydd wedi cyfrannu at gymdeithas yn y gorffennol a’r rheini sy’n cael eu hystyried yn bobl y mae angen help arnyn nhw fwyaf, yn enwedig pobl hŷn a’r bobl fwyaf anabl. Mae mewnfudwyr diweddar ac oedolion oedran gweithio yn llai tebygol o gael eu ffafrio o ran cymorth. 

Fodd bynnag, mae’r bobl sydd â’r cysylltiad mwyaf rheolaidd â’r rheini sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, offeiriaid a swyddogion lles, yn ogystal â’r rheini sydd wedi byw mewn tlodi eu hunain, yn fwy tebygol o fod o blaid rhoi cymorth i bawb sydd ei angen arnyn nhw. 

Mae papur newydd o werthusiad parhaus CASCADE a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, yn edrych ar safbwyntiau gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl sy’n gadael gofal, yn ogystal â safbwyntiau pobl sy’n gadael gofal sydd wedi cael incwm sylfaenol diamod gan Lywodraeth Cymru.  

Roedd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru wedi rhoi’r hyn sy’n cyfateb i gyflog byw am ddwy flynedd i 644 o bobl ifanc a adawodd ofal yn 2022-3 rhwng 18 a 20 oed. Cawson nhw hefyd y cymorth arferol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal ynghyd â chyngor ariannol ychwanegol. 

Mae ein papur yn dangos bod gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc i gyd o’r un farn y dylai pobl ifanc sydd wedi treulio amser mewn gofal gael cymorth ychwanegol gan y wladwriaeth. Fodd bynnag, roedd llawer o weithwyr proffesiynol a rhai o’r bobl ifanc yn teimlo’n anesmwyth ynglŷn â rhoi taliadau i bawb heb unrhyw amodau. Mewn geiriau eraill, roedden nhw’n teimlo y dylai pobl ifanc wneud rhywbeth yn gydnabyddiaeth am y taliadau hyn, er enghraifft chwilio am swydd, mynd i’r coleg neu gysylltu â gweithwyr proffesiynol. Roedd rhai o’r gweithwyr proffesiynol o’r farn bod y taliadau’n rhy uchel, tra bod eraill yn gobeithio y bydden nhw’n ysbrydoli ac yn ddechrau da i fod yn oedolyn.  

Nid oedd yr un o’r gweithwyr proffesiynol o’r un farn â rhai o’r gwleidyddion a oedd yn anghytuno â rhoi taliadau i bobl ifanc ar eu pennau eu hunain oedd gynt yn geiswyr lloches ac yn gymwys. Yn lle hynny, roedden nhw eisiau i’r taliadau fynd i unrhyw bobl ifanc a fyddai’n gwneud defnydd da ohonyn nhw.

Yn gryno, roedden nhw o’r farn bod pobl sy’n gadael gofal yn haeddu cefnogaeth, ond nid oedd pawb yn cytuno mai’r cymorth hwn, sef incwm sylfaenol diamod, oedd yr ateb cywir. 

Fyddwn ni ddim yn gwybod y deilliannau terfynol i bobl ifanc a gafodd y taliadau tan yn ddiweddarach yn 2027, ond mae’r gwerthusiad hyd yn hyn wedi ein helpu i feddwl yn ddwys am y ffordd orau o gefnogi pobl sy’n gadael gofal wrth iddyn nhw ddod yn oedolion. Mae pob un o’r adroddiadau a’r cyhoeddiadau hyd yn hyn ar gael yma. 

Os oedd hyn o ddiddordeb ichi, beth am fynnu cip ar waith cysylltiedig arall gan awduron CASCADE? 

Mathur, V. (2026). ‘Seen’, ‘Respected’ and ‘Empowered’: Exploring the Dignity Dividend of a Universal Basic Income. Progress in Development Studieshttps://doi.org/10.1177/14649934261445713  

David Westlake, Cindy Corliss, Sarah Thompson, Melissa Meindl, Clive Diaz, Ria Talwar, Louise Folkes, Devolved Budgets in Children’s Social Care: A Logic Model Based on Three Pilot Evaluations, The British Journal of Social Work, Volume 52, Issue 7, October 2022, Pages 3999–4020, https://doi.org/10.1093/bjsw/bcac019