Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau prosiect a gynhaliwyd gynt i gyd-ddylunio ac adeiladu hyb adnoddau sy’n cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl a lles, gan gynnwys dolenni i wasanaethau o’r fath, i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru.

Trosolwg

Mae iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd mewn gofal ac sy’n gadael gofal yn aml yn waeth nag iechyd meddwl a lles y boblogaeth ehangach, ac ni all y bobl ifanc hynny gael gafael ar gymorth priodol neu amserol. Ers pandemig COVID-19, mae nifer o wasanaethau wedi cael eu darparu o bell. Mae’n bwysig gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar-lein newydd hyn yn hygyrch ac yn berthnasol i’w hanghenion a’u dewisiadau.

Gweithgareddau a Dulliau

Byddwn yn:

  • creu rhestr o wasanaethau iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar y cyd â phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc o’r fath
  • cyd-greu a phrofi cynnwys ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
    rhoi adborth ar sail gwybodaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i wasanaethau iechyd meddwl a lles
  • dylunio hyb adnoddau syml sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer y cynnwys hwn
    rhannu’r hyb adnoddau gyda phobl ifanc, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, gan gynnwys sefydliadau, ymarferwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Canfyddiadau

Mae’r prosiect hwn ar y gweill.

Dewch draw i Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol


Person arweiniol

Prif YmchwilyddLorna Stabler

Staff academaidd

Rheolwr YmgysylltuRachael Vaughan
Cynorthwy-ydd YmchwilAimee Cummings
Ysgolion CysylltiedigSOCSI
Partneriaid cysylltiedigVoices from Care Cymru
The Fostering Network
TRIUMPH Network
ArianwyrCardiff University Innovation for All funding
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedigFestival of Social Sciences event
Dogfennau cysylltiedigN/A