Mae CASCADE yn cydweithio â CLASS Cymru a Sefydliad Rees i lunio gwefan a fydd yn helpu pobl a fu o dan ofal a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw i ddod o hyd i wybodaeth angenrheidiol am y brifysgol.
Arolwg
Mae deilliannau pobl ifanc a fu o dan ofal yng Nghymru a’r deyrnas ehangach yn waeth o lawer na rhai eu cyfoedion mewn meysydd megis iechyd, tlodi ac addysg (Mannay ac eraill, 2017; OFFA, 2017). Er ein bod yn deall rhagor am y meini tramgwydd sy’n wynebu’r grŵp hwn ynghylch parhau â’u haddysg mewn prifysgol, does dim llawer o dystiolaeth bod y cymorth sydd wedi’i roi iddyn nhw yn effeithiol yng Nghymru er bod peth gwybodaeth am y sefyllfa yn Lloegr (Ambrose ac eraill, 2021; Styrnol ac eraill, 2021; Harrison, 2017) a’r Alban (O’Neill ac eraill, 2019).
Ynghyd â phrosiect ehangach sy’n ceisio deall cymorth sefydliadau addysg uwch Cymru i bobl ifanc a fu o dan ofal, bydd y prosiect hwn yn llunio gwefan lledaenu gwybodaeth i helpu pobl ifanc a fu o dan ofal yn y wlad hon i gyrraedd prifysgol. Mae rhai a gymerodd ran mewn ymchwil flaenorol wedi awgrymu y gallai hynny wella’r wybodaeth am brifysgolion a ffyrdd o’u cyrraedd, a bydd y wefan yn ychwanegu at ganfyddiadau cyntaf y prosiect.
Gweithgareddau/Dulliau
Mae astudiaethau blaenorol ac ymchwil barhaus wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn allweddol wrth helpu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, megis y rhai a fu o dan ofal, i barhau â’u haddysg a chyrraedd prifysgol (Allnatt, 2018; Brady a Gilligan, 2018; 2019; 2020; Mannay ac eraill, 2015; 2016; 2017).
Mae’r hyn sy’n deillio o brosiect ymchwil cyfredol ac un diweddar am y rhai a fu o dan ofal a COVID-19, gan gynnwys pobl ym maes addysg uwch (Roberts ac eraill 2020; 2021a, 2021b), yn dangos pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy am fynediad i addysg uwch er lles pobl ifanc a fu o dan ofal a’r gweithwyr sy’n eu helpu i gyrraedd prifysgol.
Gan geisio trin a thrafod y mater hwn yng Nghymru, bydd y wefan yn cynnig gwybodaeth allweddol i helpu pobl ifanc a fu o dan ofal yn y wlad hon yn ystod eu taith i brifysgol. Bydd cynghorion eglur, syml a chynhwysfawr i broffesiynolion a phobl ifanc fel ei gilydd i’w galluogi i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r arweiniad perthnasol er cymorth iddyn nhw yn ystod y pontio allweddol hwn. Diben yr adnoddau fydd helpu carfanau penodol i ddeall materion.
Nod ac amcanion
Nod:
- Llunio a chyhoeddi gwefan a fydd yn cynnig gwybodaeth, cynghorion ac arweiniad i bobl ifanc a fu o dan ofal a’r rhai sy’n eu helpu i bontio i addysg uwch.
Amcanion:
- Defnyddio canfyddiadau cyntaf ymchwil i lunio cynnwys perthnasol i garfanau pwysig: pobl ifanc a fu o dan ofal; gweithwyr cymdeithasol; staff ysgolion, addysg bellach ac uwch; cynhalwyr maeth.
- Paratoi cynnwys aml ei ffurfiau ar y cyd â’r carfanau hynny.
- Penodi rhywun i lunio gwefan hawdd ei defnyddio ar gyfer y cynnwys hwnnw.
- Gwerthuso’r wefan cyn ei rhoi ar waith.
Canfyddiadau
Ar 26 Hydref 2022 lansiwyd gwefan CLASS Cymru gyda digwyddiad yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r wefan, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau prosiect cymrodoriaeth Dr Hannah Bayfield, (https://cascadewales.org/research/understanding-the-higher-education-experiences-of-care-experienced-young-people-in-wales-towards-a-model-of-best-practice/), wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ymarferwyr ledled Cymru, gyda’r grwpiau hyn yn cyfrannu at gynnwys a chynllun y wefan. Bydd gwerthusiad rhagarweiniol o’r wefan a’i defnydd yn cael ei gynnal yn ystod 2023.
Person Arweinol
Prif Ymwchwilydd | Hannah Bayfield |
Staff Academaidd
Darllenydd | Dawn Mannay |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Ysgol Cysylltiedig | Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol |
Partneriaid Cysylltiedig | Class Cymru, The Rees Foundation |
Cyllidwyr | Arloesedd |
Dolenni cyswllt | http://www.classcymru.co.uk/ |
Dogfennau Cysylltiedig | Deall profiadau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru ym maes addysg uwch: Tuag at fodel o arferion gorau |