Ydy mewnblannu gweithwyr cymdeithasol mewn carchardai i gefnogi mamau yn gwneud gwahaniaeth?

Trosolwg

Gwnaeth y prosiect ymchwil hwn werthuso ‘Together a Chance’, sef cynllun peilot dros dair blynedd a osododd Weithiwr Cymdeithasol mewn dau garchar i fenywod, un yn CEF Parc Eastwood, Swydd Gaerloyw, a’r llall yng Ngharchar CEF Send, Surrey. Bwriad y cynllun hwn yw cefnogi ac eirioli dros fenywod y mae eu plant ynghlwm wrth ofal cymdeithasol plant o fewn eu hawdurdodau lleol.  Cafodd y broses werthuso ei chynnal rhwng Ebrill 2021 a Rhagfyr 2023.

Roedd y cwestiynau ymchwil fel a ganlyn:

  • Pwy yn union yw’r mamau hynny sy’n cael cymorth gan weithwyr cymdeithasol a leolir mewn carchardai, a sut mae’r cynllun hwn yn gweithredu o fewn y carchar?
  • Pa fath o brofiad y mae mamau, plant a gofalwyr yn ei gael o’r cynllun ‘Together a Chance’?
  • I ba raddau y mae mamau yn parhau i wneud penderfyniadau ynghylch eu plant?
  • Sut mae mamau’n cael eu cynrychioli a’u grymuso i gymryd rhan weithredol mewn cynllunio ar gyfer dyfodol eu teulu?
  • Ydy’r cynllun hwn yn arwain at greu gwell perthnasoedd rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol?
  • Ydy ymarferwyr cymunedol yn fwy ymwybodol o anghenion y teulu pan fydd mam yn mynd i’r carchar?
  • Sut mae llunwyr polisi a chyfranogwyr strategol wedi amgyffred y cynllun hwn? 
  • Sut mae llunwyr polisi a chyfranogwyr strategol wedi amgyffred y cynllun hwn? 

Gweithgareddau a Dulliau

Rydyn ni wedi ‘olrhain’ 94 o famau a oedd yn rhan o’r cynllun, gan ddefnyddio holiadur bob 6-mis a gafodd ei gwblhau gan weithwyr cymdeithasol yn y carchar. Ymwelon ni â’r ddau garchar a chyfweld â staff y carchar. Gwnaethon ni gyfweld â mamau, eu haelodau teulu, gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr cymunedol eraill, a llunwyr polisi. Cafodd arolygon eu cynnal gyda mamau, staff yn y carchardai ac ymarferwyr cymunedol a oedd ynghlwm â’r cynllun.  Aethon ni ati i ddadansoddi dyddiaduron a dogfennau astudiaeth achos y gwnaeth gweithwyr cymdeithasol yn y carchar eu darparu.

Canfyddiadau

Mae’r prosiect bellach wedi’i gwblhau ac wedi darparu tystiolaeth glir ac anghyfnewid o’r angen am weithiwyr cymdeithasol cymwysedig yn y carchar. Mae’r gweithwyr cymdeithasol sy’n cael eu cyflogi gan Pact i gefnogi mamau yn y carchar yn dangos y gallan nhw weithio er lles y plentyn a’r fam, a’r ffaith nad yw safbwyntiau gwahanol o reidrwydd yn groes i’w gilydd. Gall mamau, gyda’r cymorth cywir, barhau i chwarae rhan ym mywydau eu plant a bod yn rhan o benderfyniadau sy’n ymwneud â’u lles, lle bo hynny er lles gorau’r plant. Ar gyfer y plant hynny lle nad yw cyswllt parhaus yn briodol oherwydd natur trosedd y fam, mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod cymorth medrus o ran addysgu a bod yn dryloyw gyda mamau yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant ac yn cyfrannu at hunaniaeth y plentyn trwy waith stori bywyd.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddAlyson Rees

Staff Academaidd

Staff Academaidd Charlotte Waits
Staff AcademaiddZoe Bezeczky

Gwybodaeth Cysylltiedig

CyllidwyrComisiynwyd y gwerthusiad gan Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (Pact), gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Sylvia Adams
PACT
Dogfennau Cysylltiedig TaC evaluation – 2nd interim report – May 2023
TaC evaluation – 1st interim report – June 2022
Dolenni perthnasolFilm from a previously linked evaluation of the Visiting Mum project in women’s prison HMP Eastwood Park
Cyhoeddiadau cysylltiedigRees, A., Staples, E. and Maxwell, N. 2017. Evaluation of Visiting Mum Scheme: Final Report June 2017. Project Report. [Online]. Cardiff: CASCADE. Available at: http://orca.cf.ac.uk/112243/

Rees, A.et al. 2020. Visiting mum: children’s perspectives on a supported scheme when visiting their mother in prison. Child Care in Practice (10.1080/13575279.2020.1769025)