Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno canfyddiadau Treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS), i randdeiliaid yng Nghymru gyda’r bwriad o ddatblygu SWIS i’w weithredu yng Nghymru.

Arolwg

Mae’r treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS) yn profi effeithiolrwydd cael gweithwyr cymdeithasol mewn 150 o ysgolion ar draws 21 o awdurdodau lleol yn Lloegr. Ymhlith y nodau mae gwella’r gwasanaeth i deuluoedd, lleihau risgiau i blant a gwella canlyniadau eraill. Dyma’r astudiaeth fwyaf o’r math hwn i’w chynnal erioed yn CSC y DU, felly mae iddi botensial sylweddol i gynhyrchu gwersi ar gyfer polisi ac ymarfer. Eto i gyd, dim ond yn Lloegr mae’n cael ei chynnal ar hyn o bryd. Bydd y prosiect arloesi arfaethedig yn dechrau’r broses o gymhwyso SWIS mewn cyd-destun Cymreig. Ei nod tymor hir yw creu’r amodau fyddai’n galluogi datblygu ymyriad tebyg yng Nghymru. 

Er mwyn galluogi hyn, bydd y prosiect cyfredol yn 1) trosi’r canfyddiadau i randdeiliaid anacademaidd yng Nghymru (e.e. ymarferwyr, llunwyr polisïau ac asiantaethau allweddol), 2) creu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth i archwilio derbynioldeb a dichonoldeb (gan gynnwys rhwystrau a hwyluswyr) gweithredu SWIS mewn cyd-destun Cymreig, a 3) ymestyn cyrhaeddiad y prosiect ymhellach drwy ledaenu arloesol.

Gweithgareddau/Dulliau

Gweithdai

Nod gweithdai ExChange i ymarferwyr fydd cynhyrchu syniadau creadigol am sut y gallai SWIS weithredu yng Nghymru, pa rwystrau a galluogwyr a allai fodoli ac ati. Bydd enghreifftiau o ymarfer ac astudiaethau achos yn dod â’r ymyriad yn fyw ac yn fodd i greu effaith gyfrannol ar lefel leol yng Nghymru.

Cyflwyniadau

Rhoddir cyflwyniadau i lunwyr polisïau yn lleol ac yn genedlaethol mewn amrywiaeth o sefydliadau, a byddwn yn defnyddio hyn i ddeall y tirlun polisi a nodi darpar fabwysiadwyr SWIS cynnar yng Nghymru. Bydd sesiwn friffio ddwyieithog gyda 10 pwynt ar gael yn y gweithdai a’r cyflwyniadau.

Fideos

Byddwn yn creu dau fideo wedi’u hanimeiddio i’w defnyddio ar-lein a’u gosod ar wefan CASCADE a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol CASCADE ac ExChange, a thrwy asiantaethau partner. Caiff y rhain eu cyd-gynhyrchu gyda staff gwaith cymdeithasol ac ysgolion, a gyda phobl ifanc drwy Lleisiau CASCADE. Bydd y rhain yn adrodd stori’r prosiect a’i ganfyddiadau allweddol. Byddwn hefyd yn recordio podlediad a fideo (gydag ymchwilydd yn cael ei gyfweld) gyda’r cyllidwr, fyddai ar gael am ddim ar-lein. 

Canfyddiadau

Mae’r prosiect bellach wedi’i gwblhau, ac mae wedi ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar effaith treial SWIS (gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion) trwy ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yng Nghymru ynglŷn ag ymyriad a gafodd ei brofi yn Lloegr. Yn wahanol i rai ymyriadau sy’n effeithiol, canfuwyd nad oedd SWIS yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r canlyniadau yr oedd yn bwriadu eu newid. Felly, roedd y gwaith effaith yn ymwneud yn fwy â dosbarthu canfyddiadau ac ymgysylltu ag ymarfer, yn hytrach na eirioli dros Gymru yn mabwysiadu’r ymyriad. Dangosodd fod ymdrechion i sicrhau bod ymchwil yn cael effaith yn gofyn am naws a dull hyblyg sy’n cael ei deilwra i’r prosiect. Prif effaith yr astudiaeth wreiddiol oedd annog llywodraeth y DU i roi’r gorau i ariannu SWIS, sef y penderfyniad cywir ac yn enghraifft gadarnhaol o effaith ymchwil o ystyried canlyniadau’r astudiaeth.


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd David Westlake

Staff Academaidd

Cydymaith YmchwilVerity Bennett
Cydymaith YmchwilPhil Smith

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion CysylltiedigCASCADE, Canolfan Treialon Ymchwil
Partneriaid CysylltiedigYn ogystal â chydweithwyr o CASCADE a CTR (Caerdydd) rydym ni’n gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen. 

Rydym ni’n rhagweld y bydd rhai sesiynau (e.e. y podlediad a’r fideo) yn cael eu cynnal ar y cyd â chyllidwr y Treial SWIS (Beth sy’n Gweithio ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant WWCSC).
CyllidwyrMae Arloesedd i Bawb yn cael ei gefnogi gan Gyllid Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) sy’n deillio o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).