Cyd-gynhyrchu’r CUBE

Arolwg

Gwasanaeth amlasiantaeth cymunedol yw’r CUBE sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd yn ardal un awdurdod lleol yng Nghymru. 

Mae CUBE yn darparu gwasanaeth cefnogaeth ddwys sydd wedi’i gyd-gynhyrchu ar sail tystiolaeth i deuluoedd yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac ar ei chyfer. Nodwyd natur y gwasanaethau a gynigir yn sgil ymgynghori helaeth gyda’r gymuned a nododd yr hyn yr oeddent eisiau ei dderbyn:

•  Lle i helpu teuluoedd mewn angen neu sydd wedi’u heffeithio gan unigedd neu unigrwydd

•  Lle sy’n darparu cefnogaeth o dan yr un to, yn hytrach na bod aelodau teuluoedd yn defnyddio gwahanol wasanaethau 

•  Gweithgareddau sy’n cael eu darparu ar gyfer aelodau o’r gymuned o bob oed yn ystod y dydd a chyda’r nos 

•  Lle sy’n cynnig cefnogaeth / gwybodaeth neu goffi’n unig, a hynny y tu hwnt i oriau gwaith 

• Lle i bawb deimlo’n rhan o rywbeth.

Er mwyn cwrdd â’r meini prawf hyn yn y ffordd orau, daeth CUBE â gwasanaethau ynghyd ar gyfer teuluoedd yr oedd camddefnydd o sylweddau, trais domestig, problemau iechyd meddwl a / neu brofedigaeth yn effeithio arnynt. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi’i gwreiddio mewn hyb amlasiantaethol yn y gymuned sy’n cynnwys y gwasanaethau craidd hyn ynghyd â gwasanaethau cefnogol pellach sy’n ymestyn y tu hwnt i gwnsela, cyfryngu teuluol a chefnogaeth ar gyngor dyled, 

addysg oedolion; therapi celf; coginio; coetsio bywyd; rhianta. 

Er mai at ddefnydd y teuluoedd sy’n cael eu hatgyfeirio y mae’r gwasanaethau hyn, maent yno hefyd ar gyfer y gymuned ehangach. Er mwyn hwyluso hyn, mae CUBE wedi’i ddatblygu’n ganolfan ac adnodd cymunedol sy’n cynnig cyfleusterau fel caffi cymunedol, digwyddiadau chwaraeon, desgiau poeth, ‘siediau dynion’, cyfleuster ‘galw heibio’ dydd a nos a rhwydweithiau rhwng cymheiriaid o ddydd i ddydd. 

Yn unol ag ethos CUBE o gyd-gynhyrchu, mae’r datblygwyr wedi mabwysiadu dull adferol ar gyfer yr holl staff, asiantaethau partner a chleientiaid ac ystyrir bod hyn wrth wraidd gweithredu llwyddiannus. Yn ystod y prosiect hwn, mae ymchwilwyr sydd â gwybodaeth ddofn o Ddull Adferol a Chyd-gynhyrchu yn bwriadu gweithio gyda CUBE i sicrhau bod dulliau cyd-gynhyrchiol ac adferol yn llunio’r gwasanaethau a’r ganolfan yn ôl y bwriad. Bydd y tîm ymchwil hefyd yn helpu CUBE i nodi a gweithredu mesurau deilliannau priodol. 

Diweddariad: Mae’r gofynion cyfredol o ran cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod y cynlluniau hyn wedi’u haddasu am y tro a’u cyflwyno ar-lein ac yn yr awyr agored, ond y bwriad yw i gynifer o’r gweithgareddau â phosibl gael eu cyflwyno’n unol â’r bwriad gwreiddiol pan ddaw hyn yn bosibl o fewn rheoliadau COVID-19. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda chyfyngiadau COVID-19 ar waith, mae CUBE yn cynnig rhaglenni cefnogaeth trwy grwpiau rhithwir a chyfarfod wyneb yn wyneb pan fo hynny’n bosibl.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae CUBE yn fenter newydd ac i lawer, bydd Dull Cyd-gynhyrchiol Adferol yn ethos a phroses newydd.

Er bod pawb sy’n gweithio yn y ganolfan neu gyda’r ganolfan wedi dilyn cwrs hyfforddi Dull Adferol, nid yw’n hysbys sut olwg sydd ar hyn yn weithredol o ran cyflwyno a derbyn gwasanaeth, rhyngweithio bob dydd ac ethos CUBE. Yng ngoleuni hyn mae gan y prosiect nifer o nodau craidd: 

•  Cefnogi CUBE yn eu dehongliad o ddull adferol a throi hyn yn fodel gwasanaeth

• Helpu CUBE i weithredu a chyflwyno gwasanaethau yn unol â’r model adferol a ddatblygwyd 

•  Cefnogi CUBE i ddatblygu a gweithredu’r model gyda ffocws ar gyd-gynhyrchu / llesiant

•  Archwilio graddau cyfranogiad y gymuned yn natblygiad a gweithrediad CUBE

•  Archwilio derbynioldeb y gwasanaeth i’r gymuned ac a yw’n cael ei ystyried yn wasanaeth sy’n cael ei ddatblygu a’i redeg gyda’r gymuned

•  Gweithio gyda CUBE i ystyried, dewis a gweithredu mesurau gwerthuso i ganiatáu gwerthuso’r gwasanaeth yn fewnol 

•  Darparu tystiolaeth ac arweiniad ynghylch y model gwasanaeth a gymhwysir yn CUBE i ddarganfod ei gryfderau a’i heriau ar gyfer ei weithredu’n ehangach yng Nghymru a thu hwnt

I gyflawni hyn, bydd ymchwilwyr yn gweithio’n agos gyda CUBE. Yn ystod secondiadau bydd ymchwilwyr yn rhannu dysgu trwy gyfnewid gwybodaeth i gefnogi gweithredu dull cyd-gynhyrchiol trosfwaol CUBE yn llwyddiannus gan ddefnyddio fframwaith adferol. Bydd hefyd yn cynhyrchu data newydd ynghylch sefydlu, am y tro cyntaf, cefnogaeth amlasiantaeth adferol ddwys, sydd wedi’i chyd-gynhyrchu yn y gymuned i blant a theuluoedd yng Nghymru. 

Dulliau

Cyflawnir nodau ac amcanion y prosiect trwy:

•  Drafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag aelodau staff a grwpiau sy’n darparu gwasanaethau CUBE 

•  Trafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag ystod o gleientiaid o’r gymuned gyda ffocws ar brofiadau a safbwyntiau am gefnogaeth CUBE. 

Sylwadau am weithrediad CUBE a chyfranogiad yng ngweithgareddau a thasgau’r ganolfan. Os nad yw hyn yn bosibl oherwydd COVID a pholisi CUBE, bydd ymchwilwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau CUBE yn rhithwir.Bydd y gwaith hwn yn cynhyrchu model diwygiedig o CUBE sydd wedi’i gyd-gynhyrchu a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio yn y sefydliad. Bydd y model hwn yn sail i weithgareddau gwerthuso yn y dyfodol drwy law’r ymchwilwyr gyda’r nod o asesu effeithiolrwydd gwasanaethau.

Canfyddiadau

Ar ddod.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Annie Williams

Staff Academaidd

Staff Academaidd Dr Hannah Bayfield
Staff Academaidd Dr Jen Lyttleton-Smith

Gwybodaeth Cysylltiedig

Partneriaid Cysylltiedig CUBE stakeholder a’r gymuned mae nhw’n gwasanaethu
CyllidwyrESRC/CUBE Lottery Fund