Gall rhagfarnau gwybyddol effeithio ar gywirdeb penderfyniadau gwaith cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddulliau a ddefnyddir yn helaeth ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer lliniaru effeithiau rhagfarnau gwybyddol yng ngwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd yn Lloegr.  

Arolwg

Nod y prosiect hwn yw nodi a phrofi un ymyriad addawol i helpu i liniaru effeithiau rhagfarnau gwybyddol wrth wneud penderfyniadau gwaith cymdeithasol.  

Mae gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd yn gwneud penderfyniadau critigol am deuluoedd bob dydd. Bydd rhai o’r penderfyniadau hyn yn arwain at ganlyniadau gydol oes i’r teuluoedd dan sylw. Fel pob un ohonom, mae gweithwyr cymdeithasol yn profi ystod o ragfarnau gwybyddol ac mae’n debygol iawn bod rhagfarnau o’r fath yn dylanwadu ar eu penderfyniadau. Yn y prosiect hwn, rydym yn cynnal treial hapsamplu rheolyddedig o un ymyriad addawol i helpu i liniaru rhagfarn mewn gwaith cymdeithasol.  

Gweithgareddau/Dulliau

Mae tri cham i’r prosiect hwn. Yn yr un cyntaf, rydym yn gofyn i weithwyr cymdeithasol, a gymerodd ran mewn astudiaeth flaenorol o benderfyniadau, gwblhau arolwg a’n helpu i ddeall pa ragfarnau gwybyddol sydd fwyaf cyffredin mewn gwaith cymdeithasol.  

Yng ngham dau, byddwn yn treialu tri neu bedwar ymyriad addawol i helpu i liniaru’r rhagfarnau a nodwyd gan weithwyr cymdeithasol fel y rhai mwyaf cyffredin mewn gwaith cymdeithasol.  

Yng ngham tri, byddwn yn dewis un o’r ymyriadau ac yn cynnal treial hapsamplu rheolyddedig i fesur ei effeithiolrwydd ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.  

Canfyddiadau

Darllenwch yr adroddiad yma

Mae’r adroddiad ar gael yn yr saesneg yn unig.


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd David Wilkins

Staff Academaidd

Staff Academaidd Melissa Meindl

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion Cysylltiedig Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol 
Partneriaid Cysylltiedig What Work’s for Children’s Social Care
Cyllidwyr Good Judgement and Social Work Decision-Making: A randomised controlled trial of brief interventions to improve forecasting