Nod y prosiect 15 mis hwn yw datblygu prototeip o declyn hyfforddi sy’n cynrychioli taith person ifanc trwy’r system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys yr heriau amrywiol y gallant eu hwynebu.

Arolwg

Mae deall y ffordd orau o gefnogi pobl ifanc unigol wrth iddynt symud ymlaen trwy’r system cyfiawnder ieuenctid yn dibynnu ar yr ymarferydd yn dysgu mwy am eu hamgylchiadau ar y cychwyn – rhywbeth sy’n cael ei wneud gan ddefnyddio offer asesu risg safonol. Fodd bynnag, defnyddir dulliau mwy anffurfiol hefyd i sefydlu’r sylfeini ar gyfer perthynas waith effeithiol. Ar ôl sefydlu cydberthynas, mae cyfleoedd i ddechrau archwilio prosesau meddwl, agweddau a mathau o ymddygiad a allai egluro pam mae’r person ifanc yn troseddu, a’r ffactorau y gellir adeiladu arnynt i’w annog i ymatal.  Mae hyn yn cynnwys gofyn i’r person ifanc ystyried canlyniadau ei weithredoedd a myfyrio a allai fod wedi gweithredu’n wahanol. Y bwriad yw y bydd y teclyn hyfforddi yn hwyluso’r sgyrsiau hyn. Bydd y prosiect yn defnyddio gêm/bwrdd fel man cychwyn a ddyluniwyd fel prop i alluogi’r Prif Ymchwilydd i drafod y dulliau ystadegol newydd a ddefnyddiwyd yn ei PhD i ystyried y gydberthynas gymhleth rhwng ffactorau risg ac amddiffynnol, fel y’u gelwir, ac ymddygiad troseddu ieuenctid.  Cafodd y gêm ei llywio gan dystiolaeth o’r paradeim atal ffactorau risg sy’n sail i bolisi ac ymarfer ar draws y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr.

Yn unol â’r safbwynt hawliau plant sydd wedi’i fynegi ym mholisi ac ymarfer Cymru oddi mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid, bydd y teclyn yn cael ei gynhyrchu ar y cyd â phartneriaid o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Castell-nedd Port Talbot (NPT YJEIS). Bydd cynnwys ymarferwyr a phobl ifanc wrth ddylunio yn helpu i sicrhau bod y teclyn a gynhyrchir yn addas at y diben a’i fod yn cydnabod amrywiol anghenion y bobl ifanc y mae’r YJEIS yn gweithio gyda nhw a’r ffactorau sy’n eu gwneud yn agored i niwed.

Gweithgareddau a Dulliau

Rhennir y gweithgareddau rhwng cyfnod cyd-ddarganfod a chyd-ddylunio a fydd yn cynnwys grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys aelodau o Fwrdd YJEIS, Prif Swyddogion ac ymarferwyr, a chyfweliadau â defnyddwyr terfynol.  

Unwaith y bydd gennym ddealltwriaeth drylwyr o anghenion y bobl ifanc a’u barn ar y ffordd orau o wasanaethu’r rhain trwy ddatblygu teclyn hyfforddi, bydd y prosiect yn cychwyn ar y cam cyd-ddylunio.  Bydd hyn yn cynnwys pwll tywod creadigol a gweithgareddau prawf chwarae a luniwyd i ffurfio a mireinio’r prototeip. 

Canfyddiadau

Ar ddod


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Helen Hodges

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Partneriaid Cysylltiedig Cyngor Castell-nedd a Port Talbot Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar.
Echo Games Community Interest Company
CyllidwyrESRC IAA and NPTY YJEIS