Cymrodoriaeth blwyddyn i ledaenu a chynyddu effeithiau astudiaeth PhD, Caring Lives, a ymchwiliodd i sut mae effeithiau gofalu yn amrywio i blant gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau gofalu a theuluol.

Trosolwg

Astudiaeth PhD o sbectrwm y gofalwyr ifanc oedd Caring Lives, gan gynnwys gofalwyr ifanc â chyfrifoldebau sylweddol, ond hefyd y rhai â llai o gyfrifoldebau sydd wedi ymwneud llai ag ymchwil. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Adolygiad realaidd a geisiodd ddeall pam mae effeithiau gofalu am blant yn amrywio gan ddibynnu ar eu cyfrifoldebau gofalu unigol ac amgylchiadau’r cartref.
  • Modelu meintiol a oedd yn cymharu iechyd meddwl pob gofalwr ifanc, y rhai â chyfrifoldebau lefel uwch, a phlant heb gyfrifoldebau, dros amser.
  • Ffenomenoleg a oedd yn recriwtio gofalwyr ifanc o ysgolion i sicrhau bod cyfranogwyr yn adlewyrchu sbectrwm ehangach y gofalwyr ifanc. Mynychodd pob cyfranogwr dri chyfweliad i rannu eu profiadau newidiol o ofalu dros gyfnod o flwyddyn.

Atgyfnerthodd ymchwiliad i’r sbectrwm ehangach ganfyddiadau ymchwil flaenorol ynghylch effeithiau negyddol cyfrifoldebau gormodol. Fodd bynnag, roedd hyn yn cyferbynnu â llawer a oedd yn rheoli eu rolau mwy hylaw. Mae gan yr ymchwil oblygiadau o ran sut rydym yn cefnogi gwahanol rannau’r sbectrwm, ond mae hefyd yn awgrymu bod angen codi ymwybyddiaeth i adlewyrchu’r sbectrwm ehangach hwn cyn canolbwyntio ar rolau gofalu problemus.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae’r gymrodoriaeth flwyddyn a ariennir gan yr ESRC yn rhoi cyfle gwych i ledaenu a chynyddu effeithiau’r astudiaeth ddoethuriaeth. Mae gweithgareddau arfaethedig yn cynnwys cyhoeddi erthyglau a chyflwyno mewn cynadleddau academaidd. Y prif ffocws serch hynny yw rhannu’r canfyddiadau a cheisio adborth gan swyddogion polisi, ymarferwyr a grwpiau gofalwyr ifanc, er mwyn llywio ymchwil yn y dyfodol. Gwnaed hyn


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddEd Janes
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigN/A
CyllidwyrAriannwyd PhD Bywydau Gofalu gan yr ESRC, ac mae’r prosiect presennol yn cael ei ariannu gan yr ESRC fel Cymrodoriaeth Ymchwil Ôl-ddoethurol.
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedighttps://youtu.be/CRXVKMHFsRY
Dogfennau cysylltiedigN/A