Astudiaeth o beryglon yn y cartref a’r angen i awdurdod lleol ddod â’r plant sydd yno o dan ei ofal o ganlyniad.
Arolwg
Mae nifer y plant sydd o dan ofal awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn cynyddu ers canol y 1990au, ac mae’r niferoedd ymhlith y gwahanol awdurdodau’n amrywio’n fawr. Mae’n aneglur pam mae’n digwydd, fodd bynnag. Gallai fod yn gysylltiedig â phroblemau cyfnewidiol yn y gymdeithas. Ar y llaw arall, gallai fod o ganlyniad i’r ffordd mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn ymateb i broblemau teuluol. Nod y prosiect hwn yw nodi pam mae rhagor o blant o dan ofal a pham mae cymaint o amrywio ymhlith y gwahanol awdurdodau lleol.
Gweithgareddau/Dulliau
Astudiaeth ddulliau cymysg yw hon:
- Mae cangen feintiol yr astudiaeth yn defnyddio setiau data gweinyddol cysylltiedig i edrych ar y tebygolrwydd y bydd plentyn yn mynd i ofal pan fydd arwyddion o broblemau penodol yn y cartref. Ymhlith problemau o’r fath mae afiechyd y meddwl, camddefnyddio cyffuriau a thrais. Mae’r astudiaeth yn ystyried sut mae’r tebygolrwydd y bydd plentyn mewn cartref lle mae’r problemau hyn yn mynd i ofal yn amrywio ar draws gwahanol awdurdodau lleol Cymru, a sut mae wedi amrywio dros y blynyddoedd ers 2002. Mae’n ystyried sut mae hynny’n gysylltiedig â faint o broblemau o’r fath ynghyd ag amddifadedd sydd yn yr ardal, hefyd.
- Defnyddir canlyniadau rhan feintiol yr astudiaeth i nodi awdurdodau lleol sydd wedi derbyn i’w gofal gymharol lai o blant mae problemau penodol yn eu teuluoedd neu sydd wedi derbyn llai a llai o blant dros gyfnod. Bydd grwpiau ffocws yn astudio achosion o’r fath gyda staff y gwasanaethau i blant a/neu oedolion i weld a yw’r amrywio wedi digwydd o ganlyniad i wahanol bolisïau neu arferion.
Findings
Mae hon yn astudiaeth barahus.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr. Nell Warner |
Staff Academaidd
Ymchwilydd | Prof. Donald Forrester |
Ymchwilydd | Dr. Rebecca Cannings-John |
Ymchwilydd | Prof. Ann John |
Ymchwilydd | Prof. Karen Broadhurst |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – Prifysgol Caerdydd Canolfan Treialon Ymchwil – Prifysgol Caerdydd |
Partneriaid Cysylltiedig | Adolescent Mental Health Data Platform – SAIL databank in Prifysgol Abertawe Centre for Child and Family Justice Research – Prifysgol Lancaster |
Cyllidwyr | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru |