Archwiliad o ddarpariaeth cymorth a phrofiadau o adael gofal yn ystod pandemig y coronafeirws. 

Arolwg

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio profiadau ymadawyr gofal o gyfyngiadau yn ystod y cyfnod clo, a orfodwyd o ganlyniad i COVID-19. Ffocws yr ymchwil oedd gweld a oedd y cyfnod clo wedi effeithio ar iechyd a lles, ynghyd â sut mae pobl ifanc wedi ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.   

Yn ogystal, roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio’n arbennig ar y ddarpariaeth o gymorth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal. Roedd hyn yn cynnwys profiadau pobl ifanc o gael gafael ar gefnogaeth, ynghyd ag ymdrechion gwasanaethau statudol ac anstatudol i sicrhau cefnogaeth i ymadawyr gofal yn ystod y cyfnod hwn. 

Cyfeiriodd yr ymchwil at y cwestiynau ymchwil canolog canlynol:

1) Beth yw profiadau pobl ifanc o pandemig Coronafeirws (COVID-19)?

2) Sut mar pobl ifanc wedi ymdopi a chyfyngiad y pandemic Coronafeirws (COVID-19) a sut maen nhw’n myfyrio ar yr effaith ar eu heichyd a’u lles?

3) Pa gefnogaeth sydd wedi bod ar gael yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) a sut mae unigolion yn myfyrio ar ei ddarpariaeth a’i effeithiolrwydd?

4) Sut mae’r cefnogaeth wedi newid fel canlyniad i’r pandemic Coronafeirws (COVID-19)?

5) Beth, os o gwbl, yw’r gwersi i’w dysgu o’r profiadau hyn? Pa ymatebion neu arferion y gellid eu cadw ar ôl y pandemig coronafirws? pe bai cyfyngiadau pellach, sut y gellid gwella’r rhain?

Gweithgareddau a Dulliau

Cynhaliwyd astudiaeth ansoddol, dull cymysg, yn cynnwys arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chyfweliadau, grwpiau ffocws ac allbynnau creadigol gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal. Atebodd 23 o weithwyr proffesiynol o 11 awdurdod lleol yng Nghymru gyfres o gwestiynau agored trwy adnodd arolwg ar-lein. Gofynnodd yr arolwg am fanylion mesurau cefnogi newydd ac wedi’u haddasu, sydd ar gael i ymadawyr gofal yn ystod y pandemig. Gofynnwyd i weithwyr proffesiynol hefyd ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol ar sail eu profiadau diweddar. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at unrhyw arferion y byddent yn argymell eu cadw ar ôl y pandemig, yn ogystal ag unrhyw feysydd i’w gwella pe bai cyfyngiadau pellach.   

Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal 

Cyfrannu mewnwelediadau manylach, gan gydnabod cymhlethdod ac amrywiaeth mewn pryderon a heriau, strategaethau ymdopi ac ymatebion. Cymerodd 21 o bobl ifanc ran, rhwng 17-25 oed ac o 12 awdurdod lleol yng Nghymru ac 1 yn Lloegr. 

Cyflwynodd pedwar o bobl ifanc gerddi hefyd a chyflwynodd dau waith celf fel ffordd o gyfleu eu meddyliau a’u profiadau. 

Canfyddiadau

Darllenwch yr adroddiad yma

Nod mae’r adrodddiad dim ond ar gael yn yr Saesneg


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd Louise Roberts
Prif YmchwilyddAlyson Rees

Staff Academaidd

Staff AcademaiddDawn Mannay
Staff AcademaiddCindy Corliss
Staff AcademaiddClive Diaz
Staff AcademaiddHannah Bayfield
Staff AcademaiddRachael Vaughan

Gwybodaeth Cysylltiedig

Partneriaid Cysylltiedig Voices from Care Cymru
CyllidwyrVoices from Care Cymru ac Prifysgol Cymru
Dogfennay Cysylltiedig Cyrchwch yr adroddiad