Mae ymatebion polisi cyfredol i gamfanteisio troseddol ar blant yn dameidiog, gyda’r ymarfer yn cael ei lunio gan densiynau parhaus rhwng dulliau cyfiawnder troseddol a diogelu. O ganlyniad, mae โ€œgormod o blant sy’n cael eu camfanteisio yn profi ymateb cyfiawnder troseddol fel ymyrraeth sylfaenolโ€ (Adolygiad Jay, 2024:77).

Trosolwg

Mae camfanteisio troseddol ar blant yn cael ei gysylltu’n gyffredin รข โ€˜llinellau sirolโ€™ lle defnyddir plant i werthu cyffuriau ar draws ardaloedd daearyddol. Fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth gynyddol o fathau eraill o gamfanteisio, gan gynnwys โ€˜llinellau aneglurโ€™, lle mae grwpiau presennol yn efelychu llinellau sirol i gadw rheolaeth dros eu hardaloedd, a โ€˜chamfanteisio o fewn y teuluโ€™, lle mae plant yn cael eu trin, eu twyllo neu eu gorfodi i gymryd rhan mewn troseddu gan berthnasau.

Mae’r rhai sy’n camfanteisio yn aml yn defnyddio triniaeth emosiynol, meithrin ymddiriedaeth, caethiwed dyled, rhoddion a gofal ymddangosiadol i ddenu plant i berthnasoedd camfanteisiol. Gall y ddeinameg hon ddal plant mewn cylchoedd o weithgarwch troseddol fel delio cyffuriau neu ladrata. Mae’r canlyniadau cymdeithasol, emosiynol a chyfreithiol hirdymor i blant yr effeithir arnynt yn tanlinellu’r angen am ymatebion polisi ac ymarfer effeithiol a chydgysylltiedig.

Ynglลทn รข’r astudiaeth

Comisiynwyd yr astudiaeth gan Action for Children i archwilio safbwyntiau gweithwyr proffesiynol ynghylch polisi ac ymarfer sy’n ymwneud รข chamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Archwiliwyd sut mae canllawiau cyfredol yn cael eu deall a’u cymhwyso ar draws gwahanol asiantaethau, a beth sydd ei angen i wella ymatebion mwy cyson ac effeithiol.

Our Paths, Our Voice

Fel rhan o’r prosiect hwn, buom yn gweithio gyda phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i gyd-gynhyrchu Our Paths, Our Voice โ€“ ffilm fer sy’n archwilio ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.

Daeth y syniad ar gyfer y ffilm o drafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol a gymerodd ran yn yr ymchwil. Er bod y canfyddiadau’n tynnu sylw at heriau pwysig a chyfleoedd i wella, roeddem am i’r ffilm adlewyrchu’r materion hyn o safbwynt pobl ifanc sydd รข phrofiad byw.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r bobl ifanc a rannodd eu profiadau ac a helpodd i lunio’r ffilm, yn ogystal รข’r gweithwyr proffesiynol a fu’n agored ac yn onest ynghylch yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r meysydd lle gellir gwella gwasanaethau.

Mae’r ffilm yn cynnig darlun dilys o’r ddarpariaeth gwasanaethau gyfredol ar gyfer plant yr effeithir arnynt gan gamfanteisio troseddol, a’i nod yw cefnogi myfyrio, trafod a dysgu ar draws asiantaethau. Gobeithiwn y bydd gweithwyr proffesiynol yn ei gwylio ochr yn ochr รข’u partneriaid amlasiantaethol ac yn ei defnyddio fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch sut y gall gwasanaethau gydweithio i wella’r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc.

Share your feedback

If you have watched Our Paths, Our Voices, we would be grateful if you could take 2โ€“3 minutes to complete our short feedback survey.

Your feedback will help us understand the film’s impact on knowledge, practice and multi-agency working, as well as inform future work with children and young people affected by criminal exploitation.

Responses can be submitted anonymously, and your details will only be collected if you choose to provide them.

Gweithgareddau a Dulliau

Cynhaliwyd y gwaith casglu data rhwng Ionawr a Hydref 2024 ac roedd yn cynnwys tri cham:

1. Grwpiau ffocws

Gyda 51 o weithwyr proffesiynol rheng flaen ar draws dau awdurdod lleol yng Nghymru (y gogledd a’r de), gan gynnwys cynrychiolwyr o addysg, gwasanaethau plant, iechyd, tai, yr heddlu, sefydliadau’r trydydd sector, cyfiawnder ieuenctid a gwaith ieuenctid.

2. Arolwg Cymru gyfan

Wedi’i gwblhau gan 115 o weithwyr proffesiynol o 17 o’r 22 awdurdod lleol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn dod o wasanaethau plant, ac yna addysg, yr heddlu a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, gyda llai o ymatebwyr o iechyd, tai, y trydydd sector a gwaith ieuenctid.

3. Grwpiau cydgynhyrchu

Gyda 22 o weithwyr proffesiynol o’r ddau awdurdod lleol yn cynrychioli’r un wyth sector er mwyn datblygu dehongliadau ar y cyd o’r canfyddiadau a nodi blaenoriaethau ar gyfer newid.

Canfyddiadau

Canllawiau polisi ac ymarfer cyfredol

  • Disgrifiwyd y canllawiau presennol fel rhai helaeth ond anodd eu llywio.
  • Pwysleisiodd gweithwyr proffesiynol yr angen am ganllawiau sy’n adlewyrchu natur amrywiol ac esblygol camfanteisio mewn gwahanol gyd-destunau.

Diffiniad a rennir

  • Roedd cefnogaeth gref i ddiffiniad statudol o gamfanteisio troseddol ar blant.
  • Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y dylid ei gydnabod yn ffurfiol fel math o gam-drin plant.
  • Ystyriwyd bod diffiniad clir yn hanfodol i gefnogi ymatebion diogelu cyson.
  • Galwodd rhai gweithwyr proffesiynol am ddiwygio’r gyfraith, gan gynnwys trosedd benodol o baratoi plentyn at ddibenion camfanteisio troseddol a gorfodi hysbysiadau cipio plant, gyda thorri’r rhain yn drosedd ar wahรขn y gellir ei gorfodi gan y llys.

Gweithio amlasiantaethol

  • Mae gweithio amlasiantaethol yn cael ei herio gan absenoldeb systemau safonol ar gyfer rhannu gwybodaeth.
  • Amlygodd cyfranogwyr ddehongliadau anghyson o ofynion diogelu data (gan gynnwys GDPR) fel rhwystr i gydweithio effeithiol.
  • Nodwyd pwysau ar y gweithlu ac adnoddau cyfyngedig fel cyfyngiadau, gan gynnwys swyddi gwag a diffyg mannau diogel i blant dreulio eu hamser hamdden.

Darpariaeth ar รดl 18 oed

  • Ystyriwyd bod bylchau mewn darpariaeth, gan gynnwys tai ar gyfer pobl ifanc รข phrofiad o ofal, yn cynyddu’r risg o gamfanteisio neu ail-gamfanteisio.
  • Roedd llai o weithwyr proffesiynol yn teimlo’n hyderus wrth gefnogi pobl ifanc dros 18 oed yr effeithiwyd arnynt gan gamfanteisio.
  • Roedd trothwyon sy’n seiliedig ar oedran yn cael eu hystyried yn gyfyngol, yn enwedig lle nad yw anghenion datblygiadol yn cyd-fynd ag oedran cronolegol.
  • Waeth beth fo’u hoedran, daeth trothwyon gwasanaethau i’r amlwg fel rhai amhriodol ar gyfer camfanteisio troseddol ar blant.
  • Disgrifiodd cyfranogwyr bobl ifanc fel rhai sy’n disgyn rhwng gwasanaethau oherwydd nad ydynt yn bodloni trothwyon nac yn cyd-fynd รข meini prawf gwasanaethau.

Argymhellion Eraill

Use this area if you feel you need to include content that cannot be captured under the headings above. For example, to describe a distinctive method or facility you are using as part of the project.

Nododd y grwpiau cydgynhyrchu’r blaenoriaethau canlynol:

  1. Datblygu diffiniad cyfreithiol clir o gamfanteisio troseddol ar blant, gan ei gydnabod yn benodol fel math o gam-drin plant.
  2. Sicrhau cymorth ymyrraeth gynnar i blant sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio.
  3. Darparu cymorth arbenigol mewn argyfwng ym mhob ardal.
  4. Sicrhau mynediad at gymorth parhaus i atal ail-gamfanteisio.
  5. Cryfhau atebolrwydd a chydlynu amlasiantaethol.
  6. Sefydlu protocolau clir ar gyfer rhannu gwybodaeth o fewn ac ar draws rhanbarthau.
  7. Cyflwyno hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol rheng flaen ar gamfanteisio troseddol ar blant.

Blaenoriaethau ychwanegol

  • Codi ymwybyddiaeth i gefnogi adnabod ac atal yn gynnar.
  • Gwella prosesau atgyfeirio a sgrinio.
  • Egluro rolau a chyfrifoldebau ar draws asiantaethau.

Adnodd a gydgynhyrchwyd: Ein Llwybrau, Ein Lleisiau

Er mwyn mynd i’r afael รข’r anghenion hyn, cyd-ddyluniwyd y ffilm Ein Llwybrau, Ein Lleisiau gyda phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sydd รข phrofiad uniongyrchol o gamfanteisio troseddol. Bwriedir i’r ffilm fod yn adnodd i weithwyr proffesiynol amlasiantaethol er mwyn cefnogi ymwybyddiaeth, myfyrio a datblygu ymarfer.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Nina Maxwell

Academyddion ac Ymchwilwyr

Staff AcademaiddDorottya Cserzล‘
Staff AcademaiddKriti Khurana
ArianwyrAction for Children
Dolenni cysylltiedigProsiect SOCEIS Action for Children