Archwiliodd y prosiect hwn gefndiroedd pobl ifanc o Loegr a atgyfeiriwyd at lety diogel am resymau lles rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2018, a’u canlyniadau yn y flwyddyn ar ôl cael eu hatgyfeirio.   

Arolwg

Mae atgyfeirio pobl ifanc at lety diogel am resymau lles yn gam gweithredu ddifrifol a wneir gan awdurdodau lleol pan ystyrir bod person ifanc yn risg iddo’i hun, yn risg i eraill neu’n debygol o ddianc os caiff ei roi yn rhywle arall. Yn rhyfeddol, hyd yn oed pan wneir cais llwyddiannus am orchymyn diogel, mae’r diffyg lleoedd mewn unedau diogel ar hyn o bryd yn golygu bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn cael eu rhoi mewn ‘llety amgen’ a ddarperir gan eu hawdurdod lleol.  Hyd yma, prin yw’r wybodaeth am brofiadau a chanlyniadau pobl ifanc o Loegr a atgyfeiriwyd at lety diogel, ac ni ellid dod o hyd i unrhyw un o’r rhai hynny a atgyfeiriwyd at lety diogel ond a roddwyd mewn man arall. 

Defnyddiodd yr astudiaeth feintiol hon ddata arferol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a’r Uned Cydlynu Lles Diogel i archwilio cefndiroedd, llesiant a hanesion carfan o garfan o bobl ifanc o Loegr cyn eu hatgyfeirio at lety diogel; eu gofal a’u canlyniadau ehangach yn y flwyddyn ar ôl yr atgyfeiriad a chostau’r arhosiad. Trwy gydol hyn, canolbwyntiodd yr astudiaeth ar wahaniaethau rhwng pobl ifanc sydd wedi’u rhoi mewn uned llety diogel a’r rhai a roddir mewn llety arall. 

Gweithgareddau a Dulliau

Yn gyntaf, gwnaeth ymchwilwyr gais i’r Adran Addysg i gael edrych ar fanylion am blant mewn angen a phlant o dan ofal awdurdod lleol am y flwyddyn rhwng 1 Ebrill  2016 a 2017. Cymerodd y broses hon 7 mis. Cysylltodd y tîm hefyd â’r Uned Cydlynu Lles Diogel i ofyn a fyddent yn fodlon cyflwyno eu cofnodion atgyfeirio ar gyfer eleni. Ar ôl eu derbyn, canfuwyd bod ansawdd y cofnodion atgyfeirio rhwng mis Mai a mis Medi yn wael. Arweiniodd y gostyngiad hwn yn y sampl ddisgwyliedig at gais pellach am yr holl gofnodion ar gyfer y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2017 a mis Ebrill 2018. Cymerodd 9 mis arall i gael caniatâd.  

Canfyddiadau

Mae adroddiad interim wedi’i seilio ar y set gyntaf o ddata wedi’i gyflwyno i gomisiynwyr yr astudiaeth. Canfu’r cam hwn fod oddeutu dwy ran o bump o’r bobl ifanc a atgyfeiriwyd at lety diogel yn cael eu rhoi mewn llety arall. Mae canlyniadau pellach ar fin cael eu cyflwyno a chânt eu cyhoeddi gan y Ganolfan What Works ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant. 


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddAnnie Williams

Staff Academaidd

Staff AcademaiddSophie Wood
Staff AcademaiddNell Warner
Staff AcademaiddAimee Cummings
Staff AcademaiddHelen Hodges
Ysgolion CysylltiedigYgsol y Gwyddorau Cymdeithasol; DECIPHer
Partneriaid CysylltiedigTGP Cymru
CyllidwyrForeces in Mind