Sut gallwn ni helpu plant awtistig a’r rhai mewn gofal sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig i gael y cymorth mae arnynt ei angen i gyflawni’r canlyniadau gorau? Bydd y Gymrodoriaeth hon yn ymchwilio i hyn drwy edrych ar batrymau diagnosis, nodweddion awtistig, a chanlyniadau i blant mewn gofal. Bydd hefyd yn casglu gwybodaeth gan ofalwyr maeth/ofalwyr sy’n berthnasau, pobl ifanc a thimau gwaith cymdeithasol i greu gwersi arfer da er mwyn llywio gwaith a pholisi yn y dyfodol. 

Arolwg

Prin iawn yw’r ymchwil ar brofiadau a chanlyniadau plant awtistig a’r rhai mewn gofal sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig. Gall fod yn anodd i’r grŵp hwn gael diagnosis, yn enwedig gan fod cyflwyniad y mathau o ymddygiad sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth yn debyg i ymddygiad sy’n aml yn gysylltiedig ag anawsterau ymlyniad neu drawma cynnar. O ganlyniad, gall fod yn heriol i’r grŵp hwn o blant a’u gofalwyr maeth neu eu gofalwyr sy’n berthnasau gael mynediad i’r gwasanaethau gorau i’w cefnogi.  Gall diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth a nodweddion awtistig hefyd atal gofalwyr maeth neu ofalwyr sy’n berthnasau rhag cefnogi plant yn effeithiol gartref. Gall hyn waethygu ymddygiad heriol, gan achosi lefelau uchel o straen teuluol a rhoi lleoliadau maeth mewn perygl.  Er mwyn ymdrin â’r bwlch hwn bydd y prosiect yn ymchwilio i awtistiaeth yn y system ofal yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar broffil diagnostig a phriodweddau plant mewn gofal, y canlyniadau i blant, a phrofiadau pobl ifanc mewn gofal a’u gofalwyr maeth/gofalwyr sy’n berthnasau. 

Bydd yr astudiaeth yn ymdrin â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

1. Sut mae cyfraddau a phatrymau diagnosis ar gyfer awtistiaeth ac NDD eraill yn cymharu ar gyfer plant mewn gofal a’r rhai nad ydynt mewn gofal? 

2. Sut mae’r canlyniadau ar gyfer oedolion awtistig sydd â phrofiad o ofal yn cymharu ag oedolion â phrofiad o ofal a gafodd ddiagnosis gwahanol ac oedolion awtistig oedd heb fod mewn gofal? 

3. Beth yw patrymau nodweddion awtistig ymhlith plant mewn gofal a sut mae’r rhain yn gysylltiedig â mathau eraill o ddiagnosis, anawsterau ymlyniad, anawsterau cyfredol, a lefelau straen gofalwyr maeth? 

4. Beth yw profiadau gofalwyr maeth/gofalwyr sy’n berthnasau wrth ofalu am blentyn sydd â diagnosis o awtistiaeth neu lefelau uchel o nodweddion awtistig? 5. Sut gellir gwella’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol i gefnogi gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau i gael mynediad at wasanaethau diagnostig a gwasanaethau cymorth i blant sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig?

Gweithgareddau/Dulliau

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio dull gweithredu cymysg, a fydd yn cynnwys dadansoddi setiau data mawr, arolwg cenedlaethol o ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, a chyfweliadau a grwpiau ffocws gyda staff gwaith cymdeithasol, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, a phobl ifanc.

Canfyddiadau

Dim eto.


Person Arweinol

Prif ymchwilyddDr Sarah Thompson



Staff Academaidd

YmchwilyddProfessor Donald Forrester
YmchwilyddDr Catherine Jones
YmchwilyddDr Kate Langley



Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion CysylltiedigYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Seicoleg
Partneriaid CysylltiedigSAIL Databank
CyllidwyrYmchwil Iechyd a Gofal Cymru