Mae dwy elfen i’r prosiect:

1) cael dealltwriaeth o ba deuluoedd yng Nghymru sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) gan ddefnyddio Banc Data SAIL, ac archwilio hyn mewn rhagor o fanylder; a 2) gyda’r Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS), amlygu cryfderau ac anghenion plant 4-7 oed sydd â SGO er mwyn llywio ymyriadau personol sydd wedi’u teilwra ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion unigol y plentyn.

Trosolwg

Ym maes lles plant, mae cael gofal gan berthnasau wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, gan gynnwys defnyddio Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ar gyfer plant sy’n gadael gofal. Yng Nghymru, yn 2022, gadawodd 285 o blant ofal a chael eu mabwysiadu, a bu i 295 gael SGO. Pennir ar SGO hefyd trwy achosion cyfraith breifat.

Mae rhai arwyddion y gallai Gwarcheidwaid Arbennig, yn debyg i ofalwyr eraill sy’n berthnasau, wynebu heriau wrth gefnogi’r plant sy’n eu gofal, ac efallai y bydd angen cymorth ar blant yn seiliedig ar eu profiadau cyn i’r SGO gael ei roi. Fodd bynnag, mae’r ddealltwriaeth yn gyfyngedig o ran y ffactorau hynny sy’n rhan o SGO a allai fod yn rhai amddiffynnol wrth ystyried y plentyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y strategaeth gofal gan berthnasau gyntaf erioed ar ddiwedd 2023 gan wneud cyhoeddiad ynghylch cefnogaeth a hyfforddiant wedi’i theilwra ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu hymrwymiad i ddatblygu dull gwell a chyson sy’n seiliedig ar anghenion ar gyfer cefnogi teuluoedd Gwarcheidiaeth Arbennig ledled Cymru. Mae fframwaith eisoes ar gael ar gyfer gwasanaethau cymorth ynghlwm â Gwarchodaeth Arbennig. Fodd bynnag, mae’r diffyg tystiolaeth ynghylch nodweddion, amgylchiadau ac anghenion y teuluoedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i awdurdodau lleol a llywodraeth genedlaethol wybod pa wasanaethau i’w blaenoriaethu.

Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i fanteisio ar arbenigedd yn sgîl cydweithio amlddisgyblaethol sy’n cynnwys yr Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS; Yr Ysgol Seicoleg), Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Bydd hyn yn golygu y gellir defnyddio’r un dulliau â’r rhai â ddefnyddir gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd, plant sy’n derbyn gofal, a theuluoedd yn y boblogaeth yn gyffredinol i fynd i’r afael â’n nodau. Mae potensial y gallai’r prosiect ysgogi newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o ffactorau strwythurol, cymdeithasol a seicolegol a allai effeithio ar ganlyniadau tymor hir plant sydd â SGO.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae’r prosiect yn digwydd rhwng Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2026.

Canfyddiadau

Mae’r prosiect hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. To learn more, email: SGO@cardiff.ac.uk


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddLorna Stabler

Academyddion ac Ymchwilwyr

Yr Athro Katherine Shelton
Dr Amy Paine
Dr Nell Warner
Ysgolion CysylltiedigAmherthnasol
Partneriaid cysylltiedigYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Ysgol Seicoleg
AriannwrSefydliad Nuffield
Cyhoeddiadau cysylltiedigAmherthnasol
Dolenni cysylltiedigAmherthnasol
Dogfennau cysylltiedigAmherthnasol