Mae dwy elfen i’r prosiect:
1) cael dealltwriaeth o ba deuluoedd yng Nghymru sydd รข Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) gan ddefnyddio Banc Data SAIL, ac archwilio hyn mewn rhagor o fanylder; a 2) gyda’r Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS), amlygu cryfderau ac anghenion plant 4-7 oed sydd รข SGO er mwyn llywio ymyriadau personol sydd wedi’u teilwra ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion unigol y plentyn.
Trosolwg
Ym maes lles plant, mae cael gofal gan berthnasau wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, gan gynnwys defnyddio Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ar gyfer plant sy’n gadael gofal. Yng Nghymru, yn 2022, gadawodd 285 o blant ofal a chael eu mabwysiadu, a bu i 295 gael SGO. Pennir ar SGO hefyd trwy achosion cyfraith breifat.
Mae rhai arwyddion y gallai Gwarcheidwaid Arbennig, yn debyg i ofalwyr eraill sy’n berthnasau, wynebu heriau wrth gefnogi’r plant syโn eu gofal, ac efallai y bydd angen cymorth ar blant yn seiliedig ar eu profiadau cyn i’r SGO gael ei roi. Fodd bynnag, maeโr ddealltwriaeth yn gyfyngedig o ran y ffactorau hynny syโn rhan o SGO a allai fod yn rhai amddiffynnol wrth ystyried y plentyn.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y strategaeth gofal gan berthnasau gyntaf erioed ar ddiwedd 2023 gan wneud cyhoeddiad ynghylch cefnogaeth a hyfforddiant wedi’i theilwra ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu hymrwymiad i ddatblygu dull gwell a chyson sy’n seiliedig ar anghenion ar gyfer cefnogi teuluoedd Gwarcheidiaeth Arbennig ledled Cymru. Mae fframwaith eisoes ar gael ar gyfer gwasanaethau cymorth ynghlwm รข Gwarchodaeth Arbennig. Fodd bynnag, mae’r diffyg tystiolaeth ynghylch nodweddion, amgylchiadau ac anghenion y teuluoedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i awdurdodau lleol a llywodraeth genedlaethol wybod pa wasanaethau i’w blaenoriaethu.
Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i fanteisio ar arbenigedd yn sgรฎl cydweithio amlddisgyblaethol sy’n cynnwys yr Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS; Yr Ysgol Seicoleg), Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Bydd hyn yn golygu y gellir defnyddioโr un dulliau รขโr rhai รข ddefnyddir gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd, plant syโn derbyn gofal, a theuluoedd yn y boblogaeth yn gyffredinol i fynd i’r afael รข’n nodau. Mae potensial y gallaiโr prosiect ysgogi newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o ffactorau strwythurol, cymdeithasol a seicolegol a allai effeithio ar ganlyniadau tymor hir plant sydd รข SGO.
Gweithgareddau a Dulliau
Mae’r prosiect yn digwydd rhwng Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2026.
Os ydych chi’n athro ac yn dymuno gwneud atgyfeiriad ar gyfer plentyn rydych chi’n ei addysgu, llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i SGO@cardiff.ac.uk
Canfyddiadau
Mae’r prosiect hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. To learn more, email: SGO@cardiff.ac.uk
Person Arweiniol
| Prif Ymchwilydd | Lorna Stabler |
Academyddion ac Ymchwilwyr
Gwybodaeth Gysylltiedig
| Ysgolion Cysylltiedig | Amherthnasol |
| Partneriaid cysylltiedig | Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Yr Ysgol Seicoleg |
| Ariannwr | Sefydliad Nuffield |
| Cyhoeddiadau cysylltiedig | Amherthnasol |
| Dolenni cysylltiedig | Amherthnasol |
| Dogfennau cysylltiedig | Amherthnasol |
