Y nod yr astudiaeth hon yw deall profiadau rhanddeiliaid o ddarparu a derbyn darpariaeth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal (11-25 oed) mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ac yn y sector addysg bellach (AB), a gwneud argymhellion i ddatblygu a gwneud y gorau o’r ddarpariaeth.

Trosolwg

Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn flaenoriaeth ym meysydd iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol. Mae ysgolion yn lleoliadau allweddol ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a lles, ond mae gwasanaethau cyfyngedig sy’n benodol i anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal. Hyd yn hyn, ychydig o waith ymchwil sydd wedi’i wneud i ddeall sut y gall ysgolion gefnogi iechyd meddwl a lles y boblogaeth hon orau, a sut y gallent weithio gyda rhanddeiliaid ar draws systemau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o’r broses hon. Mae diffyg dealltwriaeth hefyd ynghylch sut y caiff y boblogaeth hon ei chefnogi ar adegau pontio allweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i addysg ôl-16.

Bydd yr astudiaeth yn ateb chwe chwestiwn ymchwil:

  1. Beth mae ysgolion uwchradd yn ei ddarparu ar hyn o bryd wrth gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant sydd wedi derbyn gofal?
  2. Sut mae iechyd meddwl a lles plant sydd wedi derbyn gofal yn cael eu cefnogi wrth iddynt drosglwyddo i leoliadau addysgol ôl-16?
  3. Sut mae ysgolion yn gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg proffesiynol ehangach i gyflwyno darpariaeth?
  4. Beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr allweddol i weithredu darpariaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal a sut mae ffactorau cyd-destunol yn pennu’r rhwystrau a’r hwyluswyr hyn?
  5. Sut mae plant, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn profi’r ddarpariaeth bresennol? Sut mae’r ddarpariaeth yn cael ei phrofi’n wahanol gan y rhai sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, y rhai sydd wedi derbyn gofal neu wedi’u mabwysiadu?
  6. Beth yw anghenion y ddarpariaeth bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer plant sydd wedi derbyn gofal? A oes canlyniadau blaenoriaeth y dylid eu mesur a’u monitro?

Gweithgareddau a Dulliau

Mae WiSC yn astudiaeth dull cymysg gyda phum pecyn gwaith rhyng-gysylltiedig.

ecyn Gwaith 1 – dadansoddiad eilaidd o setiau data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i fapio pa mor gyffredin y mae darpariaethau iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd.
Pecyn Gwaith 2 – cyfweliadau gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a staff mewn ysgolion uwchradd i archwilio profiadau cyflwyno a derbyn darpariaeth.
Pecyn Gwaith 3 – cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc a staff mewn dau goleg AB i archwilio profiadau pontio o’r ysgol uwchradd a sut mae’r ddarpariaeth yn y sector AB yn cael ei chyflwyno a’i derbyn.
Pecyn Gwaith 4 – cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag uwch reolwyr a gweithwyr cymdeithasol o dimau gwaith cymdeithasol Gwasanaethau Plant a Gofalwyr Maeth a nyrsys iechyd meddwl a rheolwyr o dimau CAMHS i archwilio profiadau o gyflwyno darpariaeth ar draws lleoliadau addysgol.
Bydd dull dadansoddol thematig yn cael ei gymhwyso ar draws y pedwar pecyn gwaith, gan ganolbwyntio ar benderfynyddion cyd-destunol darpariaethau iechyd meddwl mewn systemau addysg a gofal cymdeithasol.
Pecyn Gwaith 5 – integreiddio canfyddiadau ac argymhellion drafft i’w trafod mewn gweithdai rhanddeiliaid gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau, cyn cwblhau argymhellion ar gyfer gwneud y gorau o’r ddarpariaeth.

Canfyddiadau

Dim Canfyddiadau ar hyn o bryd.

Gallwch gysylltu ag Astudiaeth WiSC drwy ebost

wisc@cardiff.ac.uk


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Gillian Hewitt
Prif YmchwilyddDr Sarah MacDonald

Academyddion ac Ymchwilwyr

Cydymaith YmchwilDr Rebecca AnthonyDECIPHer
Cymrawd YmchwilDr Rachel Brown, DECIPHer
DarllenyddDr Rhiannon EvansDECIPHer
DarlithyddDr Siôn Jones, School of Social Sciences
Athro Gwaith Cymdeithasol a Chyd-gyfarwyddwrProfessor Alyson Rees, CASCADE

Gwybodaeth gysylltiedig

Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigDECIPHer canolfan ymchwil
ArianwyrYmchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedigN/A
Dogfennau cysylltiedigN/A