Ar ôl tair blynedd o astudio cysyniadau academaidd damcaniaethol o fewn erthyglau mewn cyfnodolion a gwerslyfrau swmpus gydol fy ngradd israddedig ym maes seicoleg a chymdeithaseg, daeth y cwestiwn o beth nesaf i’r golwg. A minnau’n angerddol dros gynyddu fy ngwybodaeth yn rheolaidd, fe wnes i anelu at y byd ymchwil. Cyn ymroi i bedair blynedd arall (o leiaf) o’m bywyd i radd meistr a PhD, ro’n i o’r farn mai swydd ym maes ymchwil oedd y cam naturiol nesaf. Er hynny, ar yr olwg gynta’, nid oedd hynny mor syml ag y gallai ymddangos. Fel darganfyddais i, er mwyn ennill profiad, roedd meddu ar brofiad yn y lle cynta’ yn hollbwysig.
Dyma le daeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) i’r amlwg, a wnaeth rhoi’r cyfle i mi gael blas ar y ganolfan ymchwil mewn sawl ffordd, a thynnu ar fy ngwybodaeth flaenorol o wirfoddoli gyda phobl ifanc. Er bod cychwyn ar unrhyw swydd newydd yn brofiad sydd bob tro yn codi braw, roedd y cyfnod cyn imi ddechrau ar fy lleoliad gwaith yn adeg adfyfyriol lle bues i’n hel meddyliau am yr hyn oedd o’m blaen a’r sylweddoliad y byddwn i’n cael fy amgylchynu gan academyddion yr oeddwn i wedi’u hedmygu o bell drwy gydol fy ngradd. Ar fy niwrnod cyntaf, gwnaeth cael fy nghyfarch yn garedig mewn sefyllfa sy’n nodweddiadol o ddychrynllyd dawelu fy meddwl o ran yr holl bryderon a deimlais i eisoes. Ar ôl imi gwrdd â llawer o’r aelodau staff yn CASCADE mewn sawl tîm, sylweddolais i mai lle cymdeithasol iawn oedd y swyddfa i staff allu cydweithio’n hawdd â’i gilydd, sef sefyllfa na phrofais i erioed o’r blaen mewn gweithleoedd proffesiynol eraill.
Tra oeddwn i yn CASCADE, ro’n i’n ddigon ffodus i allu cymryd rhan mewn sawl agwedd ar ymchwil broffesiynol a wneir yn y ganolfan. Yn ystod fy amser ar leoliad gwaith yno, dathlwyd pen-blwydd y ganolfan yn 10 oed, a wnaeth rhoi cip y tu ôl i’r llenni imi ar ddathliad ar raddfa fawr a drefnodd tîm y Gwasanaethau Proffesiynol a thîm Cynnwys y Cyhoedd. Gwnaeth y timau hyn dynnu fy sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â gwaith ymchwil. Os nad oeddwn i wedi gwneud y lleoliad gwaith hwn, byddwn i wedi cael anhawster deall yr effaith ostyngol y byddai ymchwil wedi’i chael os nad oedd y timau yno i roi cynnydd ar y broses o’i lledaenu. Maen nhw hefyd yn hwyluso cynnydd yn ansawdd yr ymchwil a gaiff ei chynhyrchu – er enghraifft, drwy gynnwys pobl â phrofiadau bywyd, fel y gwneir yn y grŵp Lleisiau CASCADE. Rhoddwyd sylw i ba mor werthfawr y mae’r timau hyn yn ystod cyfarfodydd y ganolfan CASCADE-gyfan es i iddyn nhw bob mis, lle trafodwyd llwyddiant y digwyddiad pen-blwydd 10 mlynedd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y prosiectau ymchwil cyfredol a’r rhai at y dyfodol.
Yn ogystal â hyn, bûm yn mynychu gweithdai i helpu i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu, yn ogystal â seminarau yn cwmpasu ystod o bynciau. Roedd y rhain yn cynnwys trafodaethau ynghylch defnyddio dulliau creadigol mewn ymchwil gyda phlant mewn gofal maeth i wella ymrwymiad cyfranogwyr a’r addasiad o’r dulliau hyn i’r system gofal maeth yn fwy cyffredinol o ganlyniad. Roedd hyn yn tynnu sylw at yr effaith ymarferol sydd gan yr ymchwil yn CASCADE, a ddangoswyd eto yn y gweminar a fynychais ynglŷn ag ymchwil yn myfyrio ar y cyfraddau uchel anghymesur o allgáu ysgolion a brofir gan ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a’r argymhellion a wnaed wedyn i wella’r anghydraddoldeb annheg hwn yn y tymor hir. Roedd cyfarfodydd eraill hefyd yn cynnwys trafodaethau o ymchwil yn ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn perygl yn y gymdeithas, gan gysylltu â’r prosiect y bûm yn gweithio arno yn CASCADE dan fy ngoruchwyliwr Dr Phil Smith. Rwyf wedi cynnal dadansoddiad ansoddol ar ddata trawsgrifiad o staff Unedau Cyfeirio Disgyblion yn trafod trosiadau ôl-16 myfyrwyr, gan roi cyfle i wella fy ngwybodaeth o ymchwil a sgiliau yn fwy ymarferol.
Mae fy nghyfnod ymchwil wedi bod yn amhrisiadwy. Nid yn unig mae wedi rhoi profiad hanfodol i mi mewn maes cystadleuol, ond mae hefyd wedi rhoi mewnwelediad i mi i agweddau ar ymchwil nad oeddwn yn gwybod llawer amdanynt o’r blaen ac wedi rhoi’r hyder i mi obeithio dilyn gyrfa mewn ymchwil ymhellach. Pe bawn yn cael y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith neu gymryd rhan yn CASCADE yn fwy cyffredinol, byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwnnw gyda’r ddwy law.
Ysgrifenwyd gan Lily Barry