Rwy’n hoff iawn o Rowndiau Schwartz. Rwy’n gwybod pan fyddwch chi’n cynnal gwerthusiad gwyddonol o rywbeth, rydych chi i fod i fod yn niwtral yn ofalus, er mwyn osgoi’r awgrym o ragfarn neu y gallech fod wedi rhagdybio’r canlyniad. Ond dim ond dyn meidrol ydw i, ac mae’n rhaid i mi fod yn onest. Hoffais y syniad o Rowndiau Schwartz cyn i ni gychwyn ar dreial 24 mis i weld p’un a ydynt yn ‘gweithio’ mewn gwasanaethau plant ai peidio. A – hyd yn oed ar ôl holl helbulon prosiect hir, ac er gwaethaf y ffaith bod pandemig byd-eang wedi ymyrryd (a oeddech chi wedi sylwi?) – rwy’n eu hoffi o hyd.
Ond dydy hynny ddim yn golygu na wnaethon ni eu gwerthuso mor drwyadl â phosib. Yn wir, holl bwynt defnyddio dyluniad treial rheoledig ar hap yw lleihau effaith gogwydd. Yn ymarferol, gwahoddwyd gweithwyr cymdeithasol ac aelodau eraill o staff ar hap i fynychu’r Rowndiau ai peidio. Ac wrth wneud ein dadansoddiad o’r data, roeddem yn ddall, i bob pwrpas, o ran cael gwybod a oedd yr ymatebwyr wedi mynychu ai peidio.
Ar ôl dweud hynny, a chyda fy nheimladau personol wedi’u gwneud yn glir, beth yw Rowndiau Schwartz a beth wnaethon ni ei ddarganfod?
Nid oes angen i unrhyw un ddweud wrthyf y gall gweithio mewn gwasanaethau plant fod yn hynod werth chweil, ond hefyd yn anhygoel o anodd a llawn straen ar brydiau. Ymyrraeth yw Rowndiau Schwartz a ddyluniwyd i helpu pob aelod o staff i ymdopi’n well â straen emosiynol a chymdeithasol gwaith o’r fath, helpu i feithrin perthnasoedd cydweithredol rhwng cydweithwyr, cynorthwyo staff i fod yn empathig gyda theuluoedd a sicrhau amgylchedd gwaith iachach yn y pen draw.
Maent yn cynnwys grwpiau o staff, o bob lefel a rhan o’r sefydliad, yn cyfarfod gyda’i gilydd unwaith y mis, ac yn rhannu bwyd ac yn adrodd straeon am effaith gymdeithasol ac emosiynol eu gwaith. Ar ddechrau pob sesiwn, bydd grŵp o dri neu bedwar o bobl yn siarad am bum munud mewn perthynas â thema – er enghraifft, am blentyn neu deulu na fyddaf byth yn ei anghofio. Mae’r mynychwyr eraill yn gwrando ac ar ôl gorffen y straeon, fe’u gwahoddir i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi’i glywed a rhannu eu straeon eu hunain os ydynt am wneud hynny. Mae hwyluswyr hyfforddedig yn sicrhau bod y ffocws yn cael ei gadw ar yr effaith gymdeithasol ac emosiynol, ac nad yw’n gwyro i gynnwys datrys problemau, gweinyddu neu oruchwylio rheolwyr. O fy mhrofiad fy hun o fynychu Rowndiau, maen nhw’n wahanol i unrhyw fath arall o gyfarfod awdurdod lleol rydw i wedi bod iddo.
Yn ystod un enghraifft gofiadwy, rhannodd cymerwr cofnodion cynhadledd amddiffyn plant ei stori am blentyn na fyddai byth yn ei anghofio, a oedd yn cynnwys plentyn nad oedd erioed wedi cwrdd ag ef mewn gwirionedd. Gynhadledd ar ôl cynhadledd, gwrandawodd wrth i rieni a gweithwyr proffesiynol siarad am yr enghreifftiau mwyaf erchyll o ecsbloetio troseddol a rhywiol. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw beth y gallai unrhyw un ei wneud i’w chadw’n ddiogel. Wrth i’r cymerwr cofnodion rannu ei stori, siaradodd am deimlo’n ddi-rym, a chyn lleied o gefnogaeth a gafodd. Roedd hi’n teimlo fel cog mewn peiriant, heb fod yn gwbl ddynol nac yn chwarae rhan lawn. Wedi hynny, fe wnaeth gweithiwr cymdeithasol y plentyn gydnabod nad oedd wedi ystyried y sefyllfa o’r safbwynt hwn o’r blaen, ac fe wnaethant rannu cwtsh ac addewid i ofalu am ei gilydd yn well yn y dyfodol. Mae’r enghraifft fach ond bwerus hon yn crynhoi potensial Rowndiau Schwartz i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, go iawn i’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwn sy’n aml yn anodd.
Nid yw hyn yn golygu bod Rowndiau Schwartz yn darparu math o ddatrysiad hud i’r holl broblemau ym maes gofal cymdeithasol plant – ymhell ohono. Fel y gwelsom yn ein gwerthusiad, mynychodd rhai pobl ac nid oeddent o’r farn eu bod yn ddefnyddiol. Roedd rhai pobl o’r farn eu bod yn peri gofid. Un o’n hargymhellion pwysicaf yw bod yn rhaid i bresenoldeb fod yn wirfoddol bob amser, a dylai cefnogaeth ddilynol fod ar gael i unrhyw un sydd ei hangen.
Wedi dweud hynny, gwelsom arwyddion clir o addewid bod presenoldeb rheolaidd (chwe gwaith y flwyddyn, neu fwy) yn gysylltiedig â lefelau is o drallod seicolegol a llai o ddiwrnodau yn absennol o’r gwaith. Gwelsom hefyd fod Rowndiau Schwartz naill ai’n niwtral o ran cost, neu mewn rhai achosion yn arbed costau bach.
At ei gilydd, rydym wedi argymell y gall awdurdodau lleol barhau i ddarparu Rowndiau Schwartz neu y dylent ystyried eu cyflwyno.
Nodiadau:
- Gall y Point of Care Foundation ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i awdurdodau lleol gyflwyno Rowndiau Schwartz. Ni ddylid eu cyflwyno heb iddynt gymryd rhan.
- Gallwch ddarllen yr adroddiad gwerthuso llawn yma, a gwylio fideo deng munud o Rownd Schwartz o leoliad gofal iechyd yma.
Nod mae’r adroddiad ar gael yn yr Saesneg yn unig.