Gall prifysgol fod yn un o’r adegau mwyaf cyffrous ym mywyd pobl ifanc; mae’n gyfle iddynt astudio rhywbeth y mae ganddyn nhw wir ddiddordeb ynddo, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a bod âl lle i gymryd y camau cyntaf hynny fel oedolyn annibynnol yn y byd. Gyda hyn i gyd ar gael, pam mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn sylweddol lai tebygol o fynd i’r brifysgol a chwblhau eu gradd na’r boblogaeth gyffredinol (Jackson 2007)?

Mae union nifer y bobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n mynd i’r brifysgol yn aneglur. Mae Harrison (2017) yn awgrymu mai’r amcangyfrif gorau yw bod 6% o bobl ifanc â phrofiad o ofal (yn Lloegr; dan 21 oed) yn y brifysgol o’i gymharu â 43% o’u cyfoedion yn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yn amlwg. 

Gan wybod hyn, mae’n bwysig annog pobl ifanc â phrofiad o ofal i fynychu’r brifysgol i gyrraedd eu potensial academaidd a chael mynediad i gyfleoedd y maent yn annhebygol o’u cael mewn man arall. Ar hyn o bryd mae hyn yn anodd gan fod yna lawer o rwystrau, yn enwedig o ran argaeledd cymorth, anogaeth a chyngor ar y llwybrau i’r brifysgol a thrwy gydol y cyfnod a dreulir yno.

Un rhwystr cydnabyddedig yw’r ffordd negyddol mae gweithwyr proffesiynol a ffigyrau awdurdod eraill yn eu bywydau yn gweld galluoedd y grŵp hwn o bobl ifanc, er gwaethaf ymdrechion llawer o weithwyr cymdeithasol. Gall effaith disgwyliadau academaidd mor isel gael effeithiau parhaol negyddol. Fodd bynnag, roedd ymchwil a gynhaliwyd gan Mannay et al. (2015) yn dangos bod pobl ifanc â phrofiad o ofal yn mynegi uchelgais a dyheadau i lwyddo mewn addysg ac i ddilyn gyrfaoedd sy’n gofyn am gymhwyster ar lefel prifysgol.

Felly beth sy’n rhwystro neu’n helpu pobl sy’n gadael gofal wrth drosglwyddo i’r brifysgol, ac o fewn y brifysgol? Mae astudiaeth ddoethurol wedi archwilio’r cwestiwn hwn gan ddefnyddio data o ‘Next Steps’, astudiaeth a oedd yn dilyn cynnydd pobl ifanc o Loegr mewn ysgolion uwchradd gwladol neu annibynnol sy’n cynnwys ‘15,770 o bobl ifanc, yr oedd 245 ohonynt â phrofiad o ofal.

Fel y dangosir yn Ffigur 1, mae canfyddiadau’r rhan hon o’r astudiaeth ehangach yn dangos bod pobl ifanc mewn gofal yn dyheu am fynd i’r brifysgol ond yn meddwl bod eu siawns o ennill lle yn llawer is na’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Yn ogystal, er bod hanner y bobl ifanc â phrofiad o ofal yn dweud y byddent yn gwneud cais i brifysgol, roedd traean yn teimlo ei bod yn annhebygol y byddent yn cael lle. Mae hyn yn cymharu’n wael â’r mwy na dwy ran o dair o’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal sy’n bwriadu ceisio am le mewn prifysgol, a’r nifer is o lawer a oedd yn amau y byddent yn cael lle.

An image of two graphs showing the comparison  between perceptions of Care-experiences & Non-care-experienced young people in relation to university.

Mae’r gwahaniaethau sylweddol hyn rhwng pobl ifanc â phrofiad o ofal a’r rhai sydd heb y fath brofiad yn awgrymu’n gryf bod meddu ar brofiad o ofal yn gysylltiedig â lefelau is o ddyhead i fynd i’r brifysgol ac o deimladau y bydd lle yn cael ei sicrhau. Roedd Mannay et al. (2015) yn dadlau y gallai’r teimladau hyn ddeillio o dueddiad i weithwyr proffesiynol a gofalwyr ddigalonni pobl ifanc â phrofiad fel nad ydynt yn dilyn eu dyheadau. Mae’r agwedd besimistaidd hefyd yn gysylltiedig â’r diffyg gwybodaeth am lwybrau i’r brifysgol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal, gan eu rhwystro rhag cael mynediad i wybodaeth a allai eu helpu i benderfynu a hoffent fynychu’r brifysgol ai peidio. Mae’r gwahanol bolisïau a threfniadau sydd gan awdurdodau lleol ar waith ledled y DU yn cymhlethu’r mater hwn hyd yn oed yn fwy.

Gyda’i gilydd, mae canfyddiadau’r astudiaeth ddoethurol yn cynyddu pryderon ynghylch dyheadau a chynnydd pobl ifanc mewn gofal. Mae gan y bobl ifanc hyn y cymhelliant a’r gallu deallusol i ffynnu mewn lleoliad prifysgol ond maent yn cael eu rhwystro gan brosesau biwrocrataidd, agweddau negyddol a disgwyliadau isel gan y rhai sy’n gofalu amdanynt. Mae angen mynd i’r afael â’r holl faterion hyn i sicrhau bod cyfleoedd cyfartal i gael mynediad i’r brifysgol ar gael ac y manteisir arnynt. Ni ddylai bod â phrofiad o ofal gyfyngu ar gyfleoedd unigolyn i fynychu’r Brifysgol.

Awdur: Gemma Allnatt, Myfyriwr Doethurol

Nod mae’r graff dim ond ar gael yn yr Saesneg.