Dyma rai o’r prosiectau ymchwil y mae tîm Cynnwys y Cyhoedd yn eu cefnogi.
Cefnogi rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol
Yn dilyn ymchwil Dr Louise Roberts sy’n trin a thrafod profiadau pobl ifanc mewn gofal ac wrth ei adael pan maen nhw’n mynd yn rhieni, diben yr astudiaeth effaith hon oedd datblygu siarter arferion gorau.
Gan weithio mewn partneriaeth â Voices from Care Cymru, NYAS Cymru a TGP rydyn ni wedi llunio siarter ac ystod o adnoddau ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Gallwch chi ddod o hyd i’r holl adnoddau yma: Cefnogi rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol – ExChange (exchangewales.org)
Grŵp Datblygu Ymchwil ar Ieuenctid, Cymdeithas a Risg
Mae ymchwilwyr sy’n Gymheiriaid yn y Peer Action Collective, sy’n rhan o Media Academy Cymru, yn cymryd rhan yng ngrŵp Datblygu Ymchwil ar Ieuenctid, Cymdeithas a Risg CASCADE ar y cyd ag ymchwilwyr a myfyrwyr PhD CASCADE.
Yn ogystal â chefnogi gwaith y grŵp datblygu ymchwil, datblygon nhw Siarter Ieuenctid ar y cyd yn rhan o becyn cymorth Diogelu Cymhleth Cymru.
Ymhlith rhai o’r pethau y mae’r Ymchwilwyr sy’n Gymheiriaid wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda ni y mae:
- Cyflwyno am eu hymchwil eu hunain
- Rhannu’r Siarter Ieuenctid a ddatblygon nhw ar y cyd
- Gweithio ar daflen wybodaeth a chanllawiau ffurflen gysdynio yn CASCADE.
Tudalen y prosiect: Llinellau cyffuriau: ymateb cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru i gamfanteisio ar blant yn droseddol – CASCADE (cascadewales.org)
Pecyn cymorth: Diogelu Cymhleth Cymru – Prosiect CASCADE
Dolen i’r blog: Nod cyffredin i wneud y byd yn lle gwell – CASCADE (cascadewales.org)
Siarter Ieuenctid – CASCADE (cascadewales.org)
Tudalen PAC Cymru: Peer Action Collective – Media Academy Cymru
Llais y Teulu
Nod prosiect Family VOICE yw gwerthuso effeithiolrwydd Cynadleddau ar y Grŵp Teuluol. Mae wedi blaenoriaethu gwaith Cynnwys y Cyhoedd ar draws y prosiect yn y ffyrdd canlynol:
- Gweithdai cynhyrchu ar y cyd yn Camden a Gogledd Cymru i ddatblygu offer ymchwil.
- Cyflogi dau Ymchwilydd sy’n Gymheiriaid sy’n arwain y gwaith cynhyrchu ar y cyd yn eu cymunedau.
- Bwrdd Cynghori Teuluoedd sy’n rhoi trosolwg o’r prosiect cyfan yn ogystal â chefnogaeth ac adborth.
Tudalen y Prosiect: Family VOICE: Cynadledda Grŵp Teulu ar gyfer Plant a Theuluoedd – CASCADE (cascadewales.org)
Blogiau: Y Daith hyd yn hyn yn ymchwilydd sy’n gymheiriad – cyfranogiad – CASCADE (cascadewales.org)
Trefnu Gweithdai Llais y Teulu ar y cyd – CASCADE (cascadewales.org)
I Bobl Ifanc gan Bobl Ifanc
Nod y prosiect hwn yw casglu rhestr o wasanaethau iechyd meddwl a lles yng Nghymru gyda phobl sydd â phrofiad o ofal.
Bydd y prosiect yn:
- Adolygu gwasanaethau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
- Rhoi adborth i wasanaethau iechyd meddwl a lles.
- Dylunio adnoddau syml ar gyfer y cynnwys hwn.
- Rhannu’r adnoddau â phobl ifanc, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, gan gynnwys sefydliadau, ymarferwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Mae’r prosiect hwn wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gan gynnwys Lleisiau CASCADE, fforwm pobl ifanc Rhwydwaith Maethu Cymru a grŵp Bright Sparks NYAS Caerdydd.
Tudalen y prosiect: I Bobl Ifanc gan Bobl Ifanc – CASCADE (cascadewales.org)
Blogiau: Gŵyl TRIUMPH – CASCADE (cascadewales.org)
Prosiect ERICA
Astudiaeth ymchwil yw prosiect ERICA sy’n edrych ar brofiadau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol sy’n rhan o wasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd.
Rydyn ni wedi gweithio gyda Thîm Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru (EYST) i gefnogi grŵp o rieni i gynnig cyngor i’r ymchwilwyr ar y ffordd orau o wneud eu hastudiaethau.
Hyd yn hyn, maen nhw wedi cynghori’r ymchwilwyr ar yr hyn y dylen nhw chwilio amdano yn y data, yn ogystal ag ystyr bosibl y canfyddiadau cychwynnol. Yn y dyfodol, bydd y grŵp hwn yn helpu ymchwilwyr i feddwl am ledaenu’r ymchwil a’i heffaith. Mae’r grŵp hefyd wedi gwneud rhai awgrymiadau ynghylch pa bynciau y dylai ein canolfan ganolbwyntio arnyn nhw mewn ymchwil yn y maes hwn yn y dyfodol.
Tudalen y Prosiect: Anghydraddoldeb ethnig a chrefyddol mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant yng Nghymru: Patrymau a deilliannau — CASCADE (cascadewales.org)