Mae prosiect Family Voice wedi bod yn brysur yn trefnu gweithdai cydgynhyrchu yn Camden ac yng Ngogledd Cymru.

Delyth yw fy enw i a fi yw’r Ymchwilydd Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth Y Bont. Rwyf wedi bod yn gwahodd teuluoedd o Ogledd Cymru sydd wedi cael profiad o fynychu Cynhadledd Grŵp Teulu i ymuno â’r prosiect. Mae’r teuluoedd wedi bod yn rhoi adborth ar y Broses Grwpiau Teuluol, gan drafod paratoi, cynnwys, a’r canlyniadau o’u safbwynt nhw.

Cawsom 11 o gyfranogwyr o Ogledd Cymru, gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiadau personol o Gynhadledd Grŵp Teulu. Roedd y gweithdai yn galluogi unigolion i fynegi eu barn eu hunain yn ogystal â gweithio mewn grwpiau i nodi canlyniadau blaenoriaeth i deuluoedd.

Roedd modd i ni goladu’r data hwn er mwyn nodi themâu a blaenoriaethau allweddol a fydd yn dylanwadu ar greu ein ffurflen werthuso ddrafft. Yn dilyn hyn, byddwn yn gwahodd yr un unigolion i ddychwelyd a rhoi adborth ar y ffurflen werthuso ddrafft yn ein gweithdy nesaf. Yn y diwedd, byddwn yn cynhyrchu ffurflen werthuso derfynol y gellir ei defnyddio gan bob gwasanaeth sy’n cynnal Cynadleddau Grŵp Teulu i werthuso eu gwasanaeth yn y dyfodol.