Dyluniwyd ‘TRIUMPH Fest’ yng Nghaeredin fel cyfle i ddod â phobl ifanc, llunwyr polisi ac ymchwilwyr ynghyd i rannu dysgu am iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd yn ddigwyddiad deuddydd a ddyluniwyd ac a arweiniwyd gan Grŵp Cynghori Ieuenctid TRIUMPH. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau a stondinau a oedd yn tynnu sylw at y gwaith mae pobl ifanc wedi bod yn ei wneud, cyfleoedd ar gyfer trafodaethau a gweithdai bywiog i ddatblygu ymchwil a sgiliau pobl ifanc mewn actifiaeth. 

Fe wnaethon ni – Rach, Nat, Britt a Lorna – deithio yno (ar y trên) gyda chês o adnoddau a bag llawn byrbrydau, i ddweud wrth y byd am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn CASCADE a Phrifysgol Caerdydd. Dechreuodd popeth yr ydym wedi bod yn ei wneud o gyllid cychwynnol gan TRIUMPH, lle’r oedd un o’u meysydd blaenoriaeth yn iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Mae ein prosiect cyntaf yn cael ei arwain gan Rhiannon Evans yn DECIPHer gyda Britt (aelod o CASCADE Voices) fel cyd-ymgeisydd. Arweiniodd Britt ar gyfranogiad pobl ifanc drwy ddylunio a chynnal cyfweliadau a dadansoddi’r data. Ar y stondin, roedd gan bobl ddiddordeb mawr i glywed am ein canfyddiadau, a rhannodd eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl yn symud ar-lein, yn enwedig yn ystod COVID.  Cymerodd rhai gopi o gylchgrawn THRIVE o’r Rhwydwaith Maethu sy’n cynnwys ein Rach ein hunain! (Ond gwrthododd hi lofnodi copïau.)

Ein hail brosiect, a ariannwyd drwy’r grant ‘Arloesi i Bawb’ ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd thema ein gweithgareddau rhyngweithiol ar y stondin. Mae Nat (aelod o CASCADE Voices) yn un o grŵp o bobl ifanc sy’n dylunio gwefan i ddod ag adnoddau iechyd meddwl at ei gilydd ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Fe ofynnon ni i bobl ifanc yn y digwyddiad pa dermau chwilio maen nhw’n eu defnyddio wrth chwilio am gymorth ar-lein, a pha wasanaethau sydd wedi bod o les iddynt wrth chwilio am gymorth iechyd meddwl.

Ar y trên, gofynnon ni i bawb am eu huchafbwyntiau:

“Roedd popeth yn uchafbwynt! Fe wnes i drio rhywbeth newydd – y cyri katsu cyw iâr – a hoffais i. Fe wnes i hefyd fwynhau’r gweithdy Headstrong [dolen yma] ar yr ail ddiwrnod. Rhannodd y siaradwr ei brofiadau ei hun, a oedd yn dda, ac fe heriodd ni i ailystyried yr hyn sy’n ‘normal’.” -Nat

“O’n i’n hoffi’r gweithdy cyntaf drwy Debating Mental Health [dolen i’r wefan]. Roedd yn dda cael trafodaeth, yn hytrach na gwrando ar eraill yn unig. Roedd yn gyfle da i siarad ag eraill a rhannu barn, a meddwl sut gallwn ni ddod o safbwyntiau gwahanol ond dal i gytuno am yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni. Ar y diwrnod cyntaf, hoffais y cyflwyniad am Project Hope a sut mae wedi mynd yn fyd-eang, a’r gwaith gydag ethnigrwydd ac iechyd meddwl y mae’r Young Changemakers yn ei wneud. Fe wnes i hefyd roi cynnig ar lawer o fwydydd newydd, ac roeddwn i’n falch ohonof fy hun am adael fy nghartref yn y lle cyntaf.” – Britt

“Roedd yn dda dweud wrth bobl am ein prosiectau a’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn CASCADE. Hoffais y gweithgaredd olaf lle roedden ni’n meddwl sut olwg fyddai ar gymdeithas sy’n feddyliol iach i bobl ifanc – er i ni siarad yn bennaf am angen cael chwyldro! Roedd hefyd yn wirioneddol wych gallu rhoi cyfle i aelodau CASCADE Voices ymweld ag ardal arall o’r DU a gweld sut mae ein gwaith yn cyd-fynd â darlun ehangach.” – Rach“Roeddwn i’n hapus iawn yr ymunodd Britt a Rach mewn dawns Ceildh gyda mi, a doedd hyd yn oed Nat ddim yn gallu gwrthsefyll dawnsio pan ddaeth y sleid Cha Cha ymlaen. Roedd yr ystod o brosiectau a arweinir gan bobl ifanc yn gwneud argraff arna i, a’r egni sydd gan bawb wrth fynd i’r afael ag iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd pawb yn dod o brofiad a phersbectif gwahanol ond oll yn gweithio tuag at le gwell i bobl ifanc yn y gymdeithas. Roeddwn yn hapus ein bod wedi cael cynrychioli rhai o safbwyntiau pobl sydd â phrofiad o ofal, a bod cyfranogwyr yn TRIUMPH Fest yn gyffrous am y gwaith rydym yn ei wneud yn CASCADE.”  -Lorna

Roedd y gwaith a wnaed i drefnu TRIUMPH Fest a’i chadw dan arweiniad pobl ifanc o ddifri, wedi creu argraff arnom i gyd. Roedd yn teimlo fel gofod hamddenol a diogel, heb ormod o bwysau. Roedden ni wir yn gwerthfawrogi’r ystafell dawel, a’r teganau tynnu sylw i gadw’n dwylo’n brysur! Er ein bod ni i gyd wedi blino’n lân ar ôl teithio’n ôl, rydym yn gyffrous i fynd â rhai o’r syniadau a pheth dysgu ymlaen, rhoi cynnig ar rai o’r gweithgareddau, a dilyn y cysylltiadau yr ydym wedi’u gwneud. 

Ond nid gwaith oedd y cyfan: fe lwyddon ni i archwilio rhai o Gaeredin hefyd, edmygu’r adeiladau, a hyd yn oed dysgu rhai hanesion erchyll!

Ysgrifennwyd gan Rachael Vaughan, Lorna Stabler & CASCADE Lleisiau pobl ifanc