Rydyn ni’n falch o rannu bod erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd gan aelodau o grŵp rhieni’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) wedi’i chyhoeddi yn y British Journal of Social Work.
“Critical Reflections on Public Involvement in Research: Involving Involuntary Recipients of Social Services to Improve Research Quality” yw teitl yr erthygl. Mae’n trin a thrafod sut beth yw cymryd rhan mewn ffordd ystyrlon wrth weithio gyda rhieni sydd wedi cael profiad bywyd o faes gofal cymdeithasol plant. Wedi’i hawduro gan gyfranwyr sy’n rhieni, ar y cyd ag ymchwilwyr CASCADE Sally, Elaine, a Rachael, mae’n cynnig cipolwg personol a myfyrio beirniadol—gan ddangos sut y gall cydgynhyrchu arwain at ymchwil gryfach a mwy perthnasol.
Disgrifiodd un adolygydd cymheiriaid dienw y gwaith yn “unigryw a phwerus”, a chanmolodd y gonestrwydd a’r gofal sydd wrth wraidd ymagwedd y grŵp. Mae’r erthygl hefyd yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sy’n ystyried gweithio gyda chyfranwyr sy’n aelodau o’r cyhoedd ym maes gofal cymdeithasol plant, a gall helpu i egluro cyfraniad grwpiau ymgynghorol sefydlog yn y maes hwn.

Mae’r rhieni a gymerodd ran yn teimlo’n falch ac yn emosiynol yn sgil cyhoeddi’r erthygl. Rhannodd un rhiant:
“Dwi’n credu ei fod yn wych. Dwi wedi dod mor bell dros y chwe blynedd diwethaf. Dwi wedi teimlo’n ddiwerth o’r blaen, ond nawr dwi’n teimlo fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth dwi eisiau ei gyflawni a dwi’n teimlo’n deilwng.”
Yn ôl rhiant arall:
“Dwi’n teimlo fel fy mod wedi cael fy ngrymuso ac mae’n swreal i fod yn rhan fach o rywbeth mor fawr.”
Mae hwn yn gyflawniad hynod bwysig i’n tîm cynnwys y cyhoedd ac i’r rhieni sy’n parhau i lunio ein gwaith.