Nod yr astudiaeth hon yw casglu barn ar beth syโ€™n cyfrif fel ymarfer da mewn ymweliadau teuluol gan rieni a phobl ifanc sydd รข phrofiad o wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal รข gweithwyr cymdeithasol.

Trosolwg

Cynhyrchodd yr astudiaeth dystiolaeth ynghylch beth mae rhieni, pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol yn ei ystyried yn ymarfer da, a sut mae hyn yn cymharu รข system raddio sefydledig. Roedd hyn yn cynnwys gofyn i bobl sydd รข phrofiad byw o wasanaethau cymdeithasol wrando ar enghreifftiau o ymarfer go iawn a rhannu eu barn.

Dymaโ€™r astudiaeth gyntaf yn y byd i roi barn y rhai syโ€™n derbyn gwasanaethau gwaith cymdeithasol wrth galon ein dealltwriaeth o ymarfer da yn y ffordd hon. Caiff y canfyddiadau eu rhannuโ€™n eang, a byddant yn llywio datblygiadau mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru a thu hwnt, er enghraifft wrth lunio addysg gwaith cymdeithasol, fframweithiau ymarfer ac ymchwil yn y dyfodol.

Cwestiynau Ymchwil

  1. A ywโ€™r grwpiauโ€™n nodi ffactorau tebyg neu wahanol wrth wneud penderfyniadau?
  2. Pa mor gyson yw rhieni, pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol (o fewn grwpiau) yn eu barn ar ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol?
  3. Beth yw lefel y cytundeb rhwng grwpiau ac รข chodio arbenigol ar gyfer ansawdd ymarfer?
  4. Beth mae pob grลตp yn ei ystyried yn bwysig wrth ddiffinio ansawdd ymarfer?

Gweithgareddau a Dulliau

Casglwyd recordiadau o 17 ymweliad teuluol o dri awdurdod lleol yng Nghymru. Cafodd y recordiadau eu hanonymeiddio gan y tรฎm ymchwil drwy dynnu enwau pobl a lleoedd a newid trawโ€™r recordiad i ddiogelu hunaniaeth y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd dau fath o ddadansoddiad: defnyddiwyd cynllun codio presennol oโ€™r enw SWIM (Social Work and Interviewing Motivationally), yn ogystal รขโ€™r dull barn gymharol. Defnyddiodd y tรฎm ymchwil gynllun codio SWIM i werthuso ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol o safbwynt academaidd.

Mae barn gymharol yn ddull sydd wediโ€™i ddefnyddioโ€™n helaeth ym maes addysg. Defnyddiwyd y dull hwn i gasglu barn grwpiau o rieni, pobl ifanc sydd รข phrofiad o ofal, ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol โ€“ sef yr aseswyr. Recriwtiwyd cyfanswm o 40 aseswr.

Gwrandawodd yr aseswyr ar barau o recordiadau, gan nodi pa un oedd yr enghraifft well o ymarfer gwaith cymdeithasol a pham. Gwnaeth pob aseswr sawl cymhariaeth, nes eu bod wedi gwrando ar bob recordiad o leiaf unwaith. Yn gyfan gwbl, gwnaed 573 o gymariaethau a gwrandawyd ar 22,000 o funudau o sain.

Cymharwyd safleoedd y tri grลตp รขโ€™i gilydd ac รข SWIM drwy ddadansoddiad ystadegol. Hefyd, cynhelir dadansoddiad ansoddol oโ€™r wybodaeth gyd-destunol ar gyfer pob recordiad a rhesymauโ€™r aseswyr. Cynhaliwyd gweithgareddau gwneud synnwyr ar y cyd gyda phob grลตp o aseswyr aโ€™n partneriaid Awdurdod Lleol i archwilio a mireinioโ€™r canfyddiadau cychwynnol.

Canfyddiadau

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gwblhauโ€™r canfyddiadau. Byddwn yn diweddaruโ€™r dudalen hon gyda chyhoeddiadau wrth iddynt ddod ar gael.


Lead Person

Principal InvestigatorDorottya Cserzo

Academics and Researchers

ProfessorDonald Forrester
ProfessorDavid Wilkins
Research AssociateRebecca Jones
Research AssociateLorna Stabler
Related SchoolsN/A
Related partnersN/A
FundersN/A
Related publicationsN/A
Related linkshttps://cascadewales.org/what-is-good-social-work-how-can-we-put-people-with-lived-experience-at-the-heart-of-answering-that-question/
Related documentsN/A