Beth ddigwyddodd?  

Ar 15 Ebrill 2026, fe deithion ni i Aberdeen i fynd i’r Gynhadledd Ewropeaidd am Ymchwil Gwaith Cymdeithasol a rhoi cyflwyniad yno. Fe wnaethon ni gyflwyniad i academyddion gwaith cymdeithasol y diwrnod canlynol am waith ein grŵp, gan gysylltu â’n papur: Critical reflections on public involvement in research: Involving involuntary recipients of social services to improve research quality | The British Journal of Social Work | Oxford Academic  


Am beth y siaradon ni?  

Fe wnaethon ni siarad am y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’r ymchwil sy’n cael ei gwneud yn CASCADE ac yn ehangach. Yn ein cyflwyniad, fe wnaethon ni hefyd rannu rhywfaint o adborth cadarnhaol gan ymchwilwyr rydyn ni wedi gweithio gyda nhw o’r blaen. 

Pam gwnaethon ni hynny 

Y rheswm dros fod yno oedd dangos i academyddion a gweithwyr cymdeithasol ein bod ni’n bobl go iawn. Nid rhifau ar sgrin ydyn ni, ac nid offeryn symbolaidd ar gyfer ymchwil ydyn ni.  

Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i bobl glywed beth rydyn ni’n ei wneud yn y grŵp rhieni, fel eu bod nhw’n deall y profiad bywyd o’r trawma rydyn ni wedi’i brofi drwy amddiffyn plant. 


Sut gwnaethon ni baratoi 

Cyn i ni fynd i fyny i Aberdeen, cawson ni nifer o gyfarfodydd i baratoi ar gyfer ein cyflwyniad. Roedd y cyfarfodydd yn ddefnyddiol gan roi cyfleoedd i ni siarad am yr hyn yr oedden ni am ei rannu a’r hyn oedd bwysicaf i ni. Fe siaradon ni hefyd am yr hyn roedden ni eisiau ei gael o’r profiad a rhannu unrhyw bryderon.  


Yr hyn roedden ni’n ei feddwl am y profiad  

Leanne:  

Fe wnes i fwynhau’r cyflwyniad, ac roedd pobl yn ymddangos yn wirioneddol awyddus i weld beth oedd gennym ni i’w ddweud. Dw i’n meddwl, fel rhiant fy hun, nad yw’n gyffredin iawn cael y cyfleoedd hyn i ddweud ein dweud o flaen cynulleidfa o weithwyr proffesiynol ac academyddion.  

Roeddwn i’n teimlo bod yr ymateb yn gadarnhaol. Dywedodd cadeirydd ein sesiwn mai ein cyflwyniadau ni oedd y gorau yr oedd wedi’u gweld yn y gynhadledd! Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn.   

Roeddwn i ychydig yn nerfus pan wnes i sefyll i ddechrau siarad yn gyntaf, ond yna ymlaciais ar ôl edrych o gwmpas yr ystafell a gweld wynebau’n gwenu, a wnaeth i mi deimlo’n gyfforddus.  

Byddwn i 100% yn gwneud rhywbeth fel hyn eto. Ar ôl popeth sydd wedi digwydd, roedd yn teimlo’n dda bod rhywbeth cadarnhaol wedi dod ohono.  

Cerys:  

Rwyf hefyd yn credu bod y cyflwyniad yn brofiad hynod gadarnhaol ac yn llwyddiannus iawn. Mae gallu defnyddio profiad a oedd mor drawmatig i bob un ohonom a’i droi’n brofiadau i eraill ddysgu ohonynt yn hynod bwerus. Mae’n eich helpu chi fel person i symud ymlaen o’r trawma hefyd.  Fel Leanne, roeddwn i’n nerfus iawn i ddechrau, ond fe wnaeth ein profiadau blaenorol o gyflwyno ein gwaith i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol prifysgol fy helpu i fagu hyder mewn siarad yn gyhoeddus.  

Elaine:  

Roedd siarad yn y gynhadledd gyda Cerys a Leanne yn brofiad gwych! Roedd mor gyffrous sefyll ochr yn ochr â’r rhieni a dangos i eraill yr holl waith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud. Fe wnaethon ni rannu beth mae’r grŵp yn ei wneud i wella ymchwil yn ein Canolfan Ymchwil yn CASCADE a thu hwnt. Ynghyd â dathlu eu cyflawniadau fel grŵp, roedd hefyd yn bwysig rhannu sut rydyn ni’n gallu gwneud y gwaith hwn mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n rhieni. Mae hyn yn allweddol i’r holl waith rydyn ni’n ei wneud yn y Tîm Cynnwys y Cyhoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu trwy’r gwaith hwn.  

Beth nesaf?  

Rydyn ni’n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno am ein grŵp eto. Rydyn ni’n rhannu ein dysgu, fel bod pobl eraill yn gallu denu mwy o rieni gyda’n math ni o brofiadau i ymuno a gwella eu hymchwil.   

Gobeithiwn fod cynadleddau yn y dyfodol yn gallu clywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd yn amlach, er mwyn rhoi elfen ddynol iddynt a herio rhai rhagdybiaethau.  

Meddyliau olaf gan ein rhieni 

Mae’n hynod bwysig cael cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil, gan na allwch newid na gwella system yn ddigonol heb brofiad bywyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio’n fawr ar yr unigolyn. Gyda hyn mewn golwg, rwy’n gobeithio y bydd gennym fwy o gyfleoedd i hyrwyddo mwy o’r syniadau hyn. Rwyf am i bobl sydd â phrofiadau bywyd weld y mannau cynadledda hyn nid fel mannau sy’n dieithrio ac ar gyfer pobl sy’n well na ni yn unig, ond fel mannau ar gyfer meddwl agored ac ymgysylltu, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cadw plant yn ddiogel a chael gofal o fewn fframwaith cyfannol a chefnogol.   


Ein logo, a ddyluniwyd gan ein grŵp 

Ysgrifennwyd gan Leanne, Cerys ac Elaine