Gan Elaine Speyer
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda thîm addysg mewn Awdurdod Lleol yn Ne Cymru i’w helpu i wybod beth yw anghenion ceiswyr lloches ifanc ar eu pennau eu hunain yn ei ardal, a sut y gellir eu cefnogi nhw orau.
Gwnaethon ni wahodd pobl ifanc i’r adeilad Sbarc i gael sgwrs â nhw ynglŷn â sut beth yw byw yng Nghymru, beth hoffen nhw ei wneud yn y dyfodol, yn ogystal â pha gymorth, o bosib, y bydd ei angen arnynt i wireddu eu hamcanion.
Fe drefnon ni sawl gweithgaredd gwahanol ar gyfer y bobl ifanc, er mwyn helpu nhw i ateb y cwestiynau. Gwnaeth rhai ohonon ni chwarae ping-pong hefyd, a mwynhau’r pryd o fwyd blasus yn dilyn yr holl hwyl a bri!
Cafodd pobl ifanc y cyfle i gwrdd ag eiriolwr, a chael gwybod mwy am y gwasanaethau y maent yn eu darparu a sut i gael mynediad at y rhain.
Darganfuom fod pobl ifanc wir yn mwynhau byw yng Nghymru ar y cyfan, ac yr hoffen nhw gael y cyfle i archwilio mwy o ardaloedd ynddi. Maen nhw’n awyddus i wneud ffrindiau newydd ac i ddysgu mwy am y diwylliant. Mae hefyd yn bwysig iddyn nhw gael modelau rôl cadarnhaol yn eu bywydau, a chyfleoedd i weithio trwy eu trawma. Mae gan y bobl ifanc nifer o hobïau a diddordebau gwahanol, ac mae angen cymorth ar ambell un ohonyn nhw i gael mynediad atynt. Mae ganddyn nhw hefyd lawer o syniadau gwahanol am yr hyn maen nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol.
Y cam nesaf sydd gennyn ni ar y gorwel yw rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod gyda’r Awdurdod Lleol, a hoffen ni gwrdd â’r bobl ifanc eto, i wybod pa bethau yr hoffen nhw’n eu gweld yn digwydd nesaf ynghylch y gwaith hwn.
Pleser mawr oedd cwrdd â’r bobl ifanc, a chlywed yr hyn oedd ganddyn nhw ei ddweud am eu bywydau yma yng Nghymru. Roedd yn wych cael gwybod oddi wrth eu gweithwyr cymorth eu bônt wedi mwynhau’r sesiwn, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weithio gyda nhw eto, gan obeithio mai cyn bo hir bydd hynny.