Gan Josie Keam

Dyma flog sy’n cyflwyno Josie, aelod newydd o’r Tîm Ymgysylltu, a’i phrofiad o’r swydd hyd yn hyn.  

Fy enw i yw Josie ac yn ddiweddar dechreuais i swydd Gweithiwr Cynnwys Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, gan ymuno â Rachael, Elaine a Phil yn y Tîm Ymgysylltu. Er nad ydw i’n aelod newydd o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) – ar ôl gweithio yma’n Gynorthwyydd Ymchwil ers 2022 – mae cynnwys y cyhoedd yn faes newydd imi. Cyn bod yn ymchwilydd yn CASCADE, roeddwn i’n ymwneud ag eiriolaeth a chymorth i fyfyrwyr â phrofiad o ofal a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol heb ddigon o gynrychiolaeth yn fy mhrifysgol.  

Yn fy rôl newydd bydda i’n cefnogi’r Tîm Ymgysylltu i gynnwys pobl â phrofiad bywyd o wasanaethau gofal cymdeithasol plant yn ymchwil CASCADE. Rhan o hyn fydd datblygu ein prosiectau a gweithio gyda’r bobl sy’n rhan o’n grwpiau cynghori ymchwil. Rwy wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr i fynd ati i wneud y gwaith ers meitin, felly peth gwych yw cychwyn a dechrau dysgu rhagor am ddyletswyddau’r swydd. 

Rwy’n credu bod y swydd hon yn datblygu fy nealltwriaeth o’r mân-wahaniaethau a’r tensiynau ynghlwm wrth yr hyn y mae’n ei olygu i wneud ymchwil moesegol ac effeithiol ar ofal cymdeithasol plant. Rwy’n teimlo’n arbennig o lwcus i allu gweithio gydag unigolion sydd ag ystod o brofiadau bywyd, a hynny i wybod beth yw’r ffordd orau o gynllunio, cynnal a chyflwyno’r ymchwil hon mewn ffordd sensitif sy’n anrhydeddu ac yn parchu bywydau’r rheini yr effeithir arnyn nhw fwyaf. Un peth yw deall cymhlethdod a sensitifrwydd y dasg wrth law o safbwynt ymchwilio, ond mae eisoes yn broses ddysgu gwbl wahanol er mwyn gwerthfawrogi’r maes ledled ystod o brosiectau ymchwil – ac o safbwynt y profiadau eang sy’n rhan o ymchwil CASCADE. 

Ar ôl symud yr holl ffordd o’n swyddfa yn Adeilad SBARC i fod yn rhan o’r Tîm Ymgysylltu, mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn brysur – ac wedi rhoi cipolwg uniongyrchol o anhrefn drefnus y gwaith ynghlwm wrth waith Cynnwys y Cyhoedd… 

Yn un o sesiynau’r grŵp cynghori yn ddiweddar, cefais i’r cyfle i gwrdd â rhai o’r rhieni sy’n ymwneud â’n gwaith. Yn y sesiwn, penderfynodd y grŵp sut yr hoffen nhw gymryd rhan yn yr addysgu ar gwrs y Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol. Hefyd, rwy wedi bod yn gweithio gydag ymchwilwyr unigol i gynllunio cynnwys eu sesiynau. Rhan o’r gwaith yw mynd ati i ddod o hyd i’r ffordd orau o ystyried y deunydd yr hoffen nhw ei drafod, a hynny mewn ffordd ethegol a chynhyrchiol. Peth gwerthfawr iawn oedd gweld y berthynas rhwng cymryd rhan mewn ymchwil a’r sesiynau hyn yn ogystal â deall go iawn sut mae cymryd rhan yn ystyrlon yn digwydd ar hyd pob cam o’r broses ymchwil.  

Ar y cyfan, mae llawer i ddysgu ac i roi ar waith yn y swydd yma sy’n gyffrous. Rwy’n edrych ymlaen at y misoedd nesaf; rwy wedi cael croeso cynnes gan bawb yn y tîm a’r grwpiau cynghori wrth imi ymgynefino â’r gwaith. Mae’n amlwg bod gwaith cynnwys CASCADE yn deillio o berthnasoedd cryf a gofalgar sy’n parchu pobl – ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu wrth imi barhau yn y swydd.