Cynnwys y Cyhoedd (Tudalen 3)

  • Gweithdai Cydgynhyrchu Family VOICE

    Mae prosiect Family Voice wedi bod yn brysur yn trefnu gweithdai cydgynhyrchu yn Camden ac yng Ngogledd Cymru.

    Delyth yw fy enw i a fi yw’r Ymchwilydd Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth Y Bont. Rwyf wedi bod yn gwahodd teuluoedd o Ogledd Cymru sydd wedi cael profiad o fynychu Cynhadledd Grŵp Teulu i ymuno â’r prosiect. Mae’r teuluoedd wedi bod yn rhoi adborth ar y Broses Grwpiau Teuluol, gan drafod paratoi, cynnwys, a’r canlyniadau o’u safbwynt nhw.

  • Camerâu’n Troi … Galluogi Cyfranogwyr Cynnwys y Cyhoedd yn Ddigidol

    Fis diwethaf, cafodd ein tîm anhygoel o Rieni Cynnwys y Cyhoedd, yn rhan o Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni CASCADE,y cyfle i ddatblygu sgiliau digidol a allai gael eu defnyddio i gefnogi eu hymwneud â’r cylch ymchwil cyfan yn CASCADE. Gobeithio y gallai’r sgiliau hyn, yn y pen draw, alluogi’r grŵp i gyfrannu, gan gynnwys rhannu eu hymchwil a’u profiadau eu hunain. Gobeithio hefyd y bydd y sgiliau hyn yn eu helpu i ddatblygu eu diddordebau, eu gyrfaoedd a’u hyder.

  • Nod cyffredin i wneud y byd yn lle gwell.

    Fel rhan obrosiect ymchwil CASCADE Dr Nina Maxwell, gwahoddwyd saith ymchwilydd cymheiriaid o Peer Action Collective (PAC) o Academi Cyfryngau Cymru (MAC) i ‘sbarc|spark’. Nod y diwrnod oedd dysgu mwy am eu hymchwil atal trais ieuenctid ac archwilio ffyrdd y gallwn gydweithio.