Yn ystod y digwyddiad, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau byr ar sail ymchwil a wnaed yn y gorffennol, ymchwil gyfredol, ac ymchwil at y dyfodol. Dangoswyd fideo yn adrodd hanes ac amcanion canolfan CASCADE. Fe drafododd aelodau o Fwrdd Cynnwys y Cyhoedd a’r Grŵp Rhieni yr effaith y maen nhw wedi’i chael.

Cafwyd sgyrsiau cadarnhaol gan yr unigolion canlynol am rôl CASCADE: Dawn Boden o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd; Tom Hall, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol; Chris Taylor, cyfarwyddwr SBARC|SPARK; Sally Holland, sylfaenydd CASCADE; a Donald Forrester, Cyfarwyddwr CASCADE. Thema gyffredin ym mhob un o’r sgyrsiau hyn oedd y rôl y mae profiad bywyd wedi’i chwarae yn y broses o lywio a chyfarwyddo ymchwil CASCADE.

“…y peth pwysicaf am CASCADE, wrth gwrs, yw ei hymrwymiad dwfn i gynnwys pobl ifanc, gan gynnwys y rhieni sydd â phrofiad bywyd o ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn y gwaith o gynnal y ganolfan. Ac eto, mae’n hyfryd clywed gan rai o’r rhieni hynny a oedd yn rhan o’r fideo, a wnaeth helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer yr ymchwil, gan sicrhau bod y ganolfan yn aros yn driw i’w gwerthoedd craidd o gynnal ymchwil gydweithredol a chynhyrchu ar y cyd.”

Wendy Larner, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yn nigwyddiad dathlu 10 mlynedd o CASCADE
Julie Morgan AS yn siarad ag aelodau ein grŵp

Roedd y naws eisoes wedi’i osod yn ein cyfres o bodlediadau i ddathlu’r deng mlynedd. Ffocws un bennod yn y gyfres yw sgwrs rhwng aelod o Grŵp y Rhieni a’r Athro Sally Holland, yn hel atgofion am sut daethon nhw ynghyd i gyd-weithio ddeng mlynedd ynghynt.

“Mae pethau wedi dod ymhell ers sefydlu Cascade; mae wedi bod yn 10 mlynedd anhygoel! Yn y Bwrdd Cynnwys y Cyhoedd, fi gynigodd y syniad o greu’r podlediad, ac yna, cefais i’r pleser o gael fy nghyfweld gan Sally Holland. Mae wedi bod yn daith hyfryd.”

Aelod o Fwrdd Cynnwys y Cyhoedd a Grŵp y Rhieni

Y prosiect cyntaf a drafodwyd yn sgyrsiau ymchwil y digwyddiad 10 mlynedd oedd prosiect ymchwil Dr Louise Roberts, sef “Cefnogi rhieni sy’n gofalu ac yn gadael gofal: #NegeseuoniRieniCorfforaethol a’u Siarter Rhieni”. Cafwyd cyflwyniad gan Dr Louise Roberts ac un o’r rhieni sydd ynghlwm wrth y ganolfan. Ffocws y cyflwyniad oedd canfyddiadau’r prosiect a sut y gwnaeth cyfranogiad y cyhoedd â Voices from Care Cymru daflu goleuni ar y mater, sut oedden nhw’n sail i’r ymchwil, ac arwain y nod o gael mwy o effaith.

Bu’n gyflwyniad gwych a osododd y naws i weddill yr aelodau yn ein grŵp cynnwys y cyhoedd. Symudon nhw o gael sgwrs ymysg ei gilydd yn yr ystafell ochr (oedd yn llawn dop o greision a siocled!) i wrando ar yr holl gyflwyniadau eraill, ac i holi cwestiynau i’r ymchwilwyr a’r academyddion yn ystod yr egwylion.

Mae cyrraedd 10 mlynedd yn dipyn o gamp a fyddai hynny heb fod yn bosibl heb y rhan y mae profiad bywyd yn ei chwarae yn hyn oll. Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn parhau i dyfu ac yn cael dylanwad pellach ar ysgogi newid cadarnhaol mewn cymdeithas.

Diolch i bawb sydd wedi ymuno â ni ar y daith, yn ogystal â’r rheini sy’n gweithio gyda ni ar hyn o bryd.