Mae’n bleser gennym gyhoeddi proffeswriaethau newydd i ddau o’n hacademyddion CASCADE disgleiriaf, David Wilkins a Clive Diaz.
Mae David Wilkins wedi bod gyda CASCADE ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2018, pan ymunodd fel Uwch Ddarlithydd cyn symud ’mlaen i fod yn Ddarllenydd. Mae wedi ei ddyrchafu’n Athro Gwaith Cymdeithasol ac rydyn ni wrth ein bodd ei fod yn aros gyda ni yma yng Nghaerdydd.
Ym mlynyddoedd cynnar David gyda CASCADE, bu’n ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil yn gysylltiedig â’r What Works Centre for Children’s Social Care. Yn benodol, bu David yn rhan allweddol o’r astudiaeth o Rowndiau Schwartz, sef ymyriad lles ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Wrth i Rowndiau Schwartz gael eu cyflwyno mewn sawl awdurdod lleol yn Lloegr, archwiliodd David a’r tîm pa wahaniaeth roedden nhw’n ei wneud i les emosiynol a chymdeithasol. Meddai David, “Yn fy marn i, mae’r ymyriad ei hun yn dda iawn ac yn meithrin unigolion – ac mae’n unigryw, oherwydd ymyriad sefydliadol ydyw, yn hytrach nag ymyriad unigol. Mae wedi bod yn wych gweld sawl awdurdod lleol arall yn cyflwyno Rowndiau Schwartz yn dilyn ein hastudiaeth, gan gynnwys yng Nghymru.”
Hefyd, mwynhaodd David yn arbennig yr ymchwil y mae CASCADE wedi bod yn ei wneud ar ddyfarniadau da mewn gwaith cymdeithasol, gan gymharu cywirdeb dyfarniadau a wneir gan wahanol weithwyr cymdeithasol, yn gweithio’n unigol neu mewn grwpiau, a gweithwyr cymdeithasol yn erbyn ChatGPT. Bydd David yn parhau i gydbwyso ei ymchwil CASCADE ag addysgu yn y Brifysgol.
Ymunodd Clive Diaz â CASCADE ym mis Gorffennaf 2018 hefyd, i ddechrau fel darlithydd ar y Rhaglen Meistr Gwaith Cymdeithasol. Flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd Clive i CASCADE yn llawn amser fel Cydymaith Ymchwil, ac yna daeth yn Gymrawd Ymchwil yn 2023. Mae’r profiadau y mae Clive wedi’u cael a’r cydberthnasau y mae wedi’u meithrin yma wedi bod yn hollbwysig i’w yrfa. Mae nawr yn symud i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe i fod yn Athro Gwaith Cymdeithasol.
Meddai Clive, “Yn ystod fy amser yn CASCADE, arweiniais bum astudiaeth ymchwil ar eiriolaeth rhieni ledled Cymru, Iwerddon a Lloegr. Mae’r gwaith hwn wedi tynnu sylw at y potensial i eiriolaeth rhieni drawsnewid y system amddiffyn plant, gan ei gwneud hi’n fwy cefnogol i rieni ac yn y pen draw yn fwy cynorthwyol i blant a theuluoedd. Mae ein hastudiaethau wedi dangos y gall eiriolaeth rhieni feithrin cyfathrebu a chydberthnasau gwell rhwng gweithwyr cymdeithasol a rhieni, gan arwain at drafodaethau mwy agored am anghenion a phryderon teuluoedd. Mae eiriolaeth rhieni hefyd yn cefnogi rhieni i gael mwy o ddweud a llais cryfach wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau nhw a bywydau eu plant.”
Gan gydweithio â Chyfarwyddwr CASCADE, Donald Forrester, a llawer o academyddion dawnus yn y ganolfan ymchwil, mae Clive hefyd wedi mwynhau arwain astudiaeth ar sut mae canllawiau newydd Cymru ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant (CSE) wedi’u gweithredu’n ymarferol ledled y wlad. Cynigiodd yr ymchwil hwn wybodaeth ymarferol i lunwyr polisi ac uwch reolwyr ar weithredu polisi’n effeithiol, sy’n agwedd hollbwysig ar newid cadarnhaol mewn amddiffyn plant.
“Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar o fod wedi cael gweithio ochr yn ochr â thîm rhagorol, gan gynnwys grŵp rhieni ac ymchwilwyr ymroddedig CASCADE. Mae gweithio gydag uwch academyddion, gan gynnwys fy ngoruchwylwyr PhD, wedi bod yn amhrisiadwy. Mae cefnogaeth ac arbenigedd y gymuned hon wedi helpu i sicrhau bod ein hastudiaethau’n gadarn ac effeithiol.”
Wrth i Clive gamu i’w rôl newydd yn Abertawe, mae’n edrych ’mlaen at addysgu a goruchwylio myfyrwyr PhD, cydweithio ar gynigion grant, a pharhau â’i waith gyda CASCADE, yn enwedig ar y prosiect eiriolaeth rhieni parhaus a ariennir gan Nuffield. Noda Clive, “Mae’n gyffrous cael y cyfle i bontio cysylltiadau rhwng tîm gwaith cymdeithasol Abertawe, CASCADE, a CARE, gan sicrhau bod ein hymchwil yn parhau i ddylanwadu ar newid ystyrlon, cadarnhaol i blant a theuluoedd.”
Mae David yn cytuno gyda Clive fod ei daith academaidd hyd yma gyda CASCADE wedi bod yn hynod werth chweil. Mae David yn cloi drwy ddweud, “O’m diwrnod cyntaf un, mae CASCADE bob amser wedi bod yn groesawgar a chefnogol, gan hefyd fy herio i ddatblygu fy sgiliau a gwybodaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar i’m holl gydweithwyr ac yn enwedig i Donald Forrester, fy rheolwr llinell, am fy helpu i gyflawni cadeiryddiaeth bersonol.”