Y llynedd, cynhaliodd ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) Adolygiad o Dystiolaeth i ymchwilio i effaith darparu gofal maeth a gofal preswyl i blant er elw ac nid-er-elw ar ddeilliannau i blant â phrofiad o ofal a phlant sy’n derbyn gofal. Dr Jonathan Ablitt, Dr Patricia Jimenez a’r Athro Sally Holland ysgrifennodd yr Adolygiad o’r Dystiolaeth.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae’n cyd-fynd â Bil newydd a gafodd ei gyhoeddi ar 20 Mai gan Lywodraeth Cymru i ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.

Dyma a ddywedodd Dr Jonathan Ablitt, prif awdur yr adroddiad: “Rydyn ni’n falch bod ymchwil CASCADE wedi cyfrannu at sylfaen y dystiolaeth ar gyfer y polisi arfaethedig hwn. Er bod hwn yn faes nad oes digon o ymchwil wedi bod arno, daethon ni o hyd i rywfaint o dystiolaeth gref bod plant yn y DU yn fwy tebygol o gael eu lleoli y tu allan i’w hardal leol mewn system er elw. Gwelon ni hefyd fod yna gysylltiadau rhwng y ddarpariaeth er elw ac ansawdd gwael y lleoliadau, eu sefydlogrwydd a’u parhad. Y gobaith yw y bydd ein hymdrechion i ddod o hyd i’r bylchau yn y llenyddiaeth bresennol yn atgyfnerthu ymchwil bellach ar wneud elw ym maes gofal cymdeithasol ac, yn y pen draw, yn helpu i lunio polisïau a fydd yn gwella deilliannau i blant sy’n derbyn gofal.”

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, fod y Bil “ yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i roi gwell gwasanaethau fydd yn diwallu anghenion plant ac yn arwain at well profiadau a deilliannau. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus fel y gall pobl benderfynu pwy sy’n darparu’r gofal sydd ei angen arnyn nhw.”

Darllenwch ragor am y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.