Ym mis Ionawr 2021, arweiniodd Dr Louise Roberts y gwaith o gyd ddatblygu a lansio siarter gyda’r bwriad o wneud newid ystyrlon i rieni sydd yn y system ofal neu sydd i fod i adael y system ofal yn fuan.

Ers hynny, mae Dr Louise Roberts, Dr Dawn Mannay a minnau wedi bod yn gweithio ar gyd ddatblygu adnoddau pellach i hyrwyddo’r siarter a rhannu straeon rhieni sydd â phrofiad o ofal.  

Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd o ran rhannu’r siarter ar draws Cymru ac yn ehangach, mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys: 

  • Rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol yng Nghymru ac mae map sy’n dangos pwy sydd wedi neu yn y broses o fabwysiadu’r siarter ar gael yma.
  • Rydym wedi mynychu nifer o Baneli Magu plant Corfforaethol, cyfarfodydd gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a chyfarfodydd ehangach gyda thimau iechyd i rannu’r adnoddau.   
  • Rhoddodd Dr Louise Roberts ac un o’n rhieni gyda phrofiad o ofal, a oedd yn allweddol i ddatblygu’r adnoddau, dystiolaeth i Bwyllgor Deisebau’r Senedd. Fel rhan o’u hadroddiad maent wedi cynghori awdurdodau lleol yng Nghymru i arwyddo’r siarter.
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Eidal gyda’n siarter. Rydym wedi cynnal ymgynghoriadau â rhieni ym mhob un o’r gwledydd. Gyda gwaith yn mynd yn ei flaen i addasu a hyrwyddo’r siarter yn eu cyd-destunau eu hunain. 

Prosiect Negeseuon Allweddol  

Yn y rhan newydd hon o’r prosiect, a ddechreuwyd ym mis Ionawr 2022, rydym wedi partneru gyda Voices From Care Cymru, NYAS Project Unity a grŵp Ohana o LA Swydd Hertford. Aethom ati i greu rhai darluniau o negeseuon allweddol i’w hychwanegu at ein siwt o adnoddau sydd ar gael ar (https://www.exchangewales.org/cy/cefnogi-rhieni-mewn-gofal-ac-wrth-ei-adael-negeseuonirienicorfforaethol/) . Gyda’r bwriad o adeiladu ar ymchwil Louise a datblygiad y siarter gwnaethom gynnal nifer o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda phob un o’r grwpiau. I ddechrau, gwnaethom rannu’r siarter a chlywed yr hyn yr oeddent yn meddwl oedd bwysicaf i’w ddweud wrth eu rhieni corfforaethol. Roedd pob sesiwn yn adeiladu ar yr un flaenorol ac yn raddol fe ddechreuon ni ffurfio rhai negeseuon drafft allweddol y gallem eu mireinio a’u blaenoriaethu.   

Yn syml, nid oes unrhyw ffordd y gallem fod wedi gwneud y gwaith hwn heb haelioni cefnogaeth ac amser gan ein rhieni ymroddedig gyda phrofiad o ofal a’u sefydliadau cymorth. Mae wedi bod yn brofiad gostyngedig a gwobrwyol wrth weithio ar draws yr holl grwpiau hyn gyda rhieni mor ymroddedig sydd â phrofiad o ofal yn codi llais i herio stigma a gwahaniaethu. Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â nhw i guradu negeseuon ac i rannu’r darluniadau terfynol.  

    

Rydym yn falch iawn o allu lansio’r darluniau newydd hyn fel rhan o’n prosiect #MessagesToCorporateParents. Rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn dod â rhai o’r straeon a glywsom a rhai o ymrwymiadau allweddol y siarter yn fyw.

Fel rhan o’n gwaith ar y prosiect hwn rydym yn hapus i’r adnoddau hyn gael eu rhannu a’u defnyddio’n eang. Rydym bob amser yn barod i drefnu i siarad am eu datblygiad neu eu bwriadau gyda gwasanaethau neu sefydliadau pe byddai hyn yn ddefnyddiol. Cysylltwch â Dr Louise Roberts neu fi i siarad ymhellach neu gadewch ychydig o adborth i ni yma.


Diolch yn fawr iawn i’n partneriaid: 

erere