Heddiw, rhyddhawyd canfyddiadau’r prosiect ‘Cadw’n Ddiogel’, dan arweiniad Dr Sophie Hallett.
Dadansoddodd y prosiect ganlyniadau gwaith gyda phobl ifanc y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol yng Nghymru.
Cafodd 205 o ffeiliau achos plant a phobl ifanc yn eu harddegau, rhwng 9 a 18 oed, eu dadansoddi a’u holrhain dros gyfnod o 10 mlynedd.
Datgelodd y canfyddiadau fod un o bob tri phlentyn wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ar ryw adeg yn eu bywydau – cyfran lawer uwch na’r disgwyl.
Canfu hefyd:
- bod 70% wedi dioddef camdriniaeth emosiynol yn y gorffennol
- bod 58% wedi profi trais
- Roedd hanner wedi cael eu hesgeuluso gan rieni cyn mynd i ofal
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y canfyddiadau drwy ddarllen yr adroddiad.