Heddiw, rhyddhawyd canfyddiadau’r prosiect ‘Cadw’n Ddiogel’, dan arweiniad Dr Sophie Hallett.

Dadansoddodd y prosiect ganlyniadau gwaith gyda phobl ifanc y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol yng Nghymru.

Cafodd 205 o ffeiliau achos plant a phobl ifanc yn eu harddegau, rhwng 9 a 18 oed, eu dadansoddi a’u holrhain dros gyfnod o 10 mlynedd.

Datgelodd y canfyddiadau fod un o bob tri phlentyn wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ar ryw adeg yn eu bywydau – cyfran lawer uwch na’r disgwyl.

Canfu hefyd:

  • bod 70% wedi dioddef camdriniaeth emosiynol yn y gorffennol
  • bod 58% wedi profi trais
  • Roedd hanner wedi cael eu hesgeuluso gan rieni cyn mynd i ofal

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y canfyddiadau drwy ddarllen yr adroddiad.