Nod yr astudiaeth hon yw casglu barn ar beth syโn cyfrif fel ymarfer da mewn ymweliadau teuluol gan rieni a phobl ifanc sydd รข phrofiad o wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal รข gweithwyr cymdeithasol.
Trosolwg
Cynhyrchodd yr astudiaeth dystiolaeth ynghylch beth mae rhieni, pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol yn ei ystyried yn ymarfer da, a sut mae hyn yn cymharu รข system raddio sefydledig. Roedd hyn yn cynnwys gofyn i bobl sydd รข phrofiad byw o wasanaethau cymdeithasol wrando ar enghreifftiau o ymarfer go iawn a rhannu eu barn.
Dymaโr astudiaeth gyntaf yn y byd i roi barn y rhai syโn derbyn gwasanaethau gwaith cymdeithasol wrth galon ein dealltwriaeth o ymarfer da yn y ffordd hon. Caiff y canfyddiadau eu rhannuโn eang, a byddant yn llywio datblygiadau mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru a thu hwnt, er enghraifft wrth lunio addysg gwaith cymdeithasol, fframweithiau ymarfer ac ymchwil yn y dyfodol.
Cwestiynau Ymchwil
- A ywโr grwpiauโn nodi ffactorau tebyg neu wahanol wrth wneud penderfyniadau?
- Pa mor gyson yw rhieni, pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol (o fewn grwpiau) yn eu barn ar ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol?
- Beth yw lefel y cytundeb rhwng grwpiau ac รข chodio arbenigol ar gyfer ansawdd ymarfer?
- Beth mae pob grลตp yn ei ystyried yn bwysig wrth ddiffinio ansawdd ymarfer?
Gweithgareddau a Dulliau
Casglwyd recordiadau o 17 ymweliad teuluol o dri awdurdod lleol yng Nghymru. Cafodd y recordiadau eu hanonymeiddio gan y tรฎm ymchwil drwy dynnu enwau pobl a lleoedd a newid trawโr recordiad i ddiogelu hunaniaeth y cyfranogwyr.
Cynhaliwyd dau fath o ddadansoddiad: defnyddiwyd cynllun codio presennol oโr enw SWIM (Social Work and Interviewing Motivationally), yn ogystal รขโr dull barn gymharol. Defnyddiodd y tรฎm ymchwil gynllun codio SWIM i werthuso ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol o safbwynt academaidd.
Mae barn gymharol yn ddull sydd wediโi ddefnyddioโn helaeth ym maes addysg. Defnyddiwyd y dull hwn i gasglu barn grwpiau o rieni, pobl ifanc sydd รข phrofiad o ofal, ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol โ sef yr aseswyr. Recriwtiwyd cyfanswm o 40 aseswr.
Gwrandawodd yr aseswyr ar barau o recordiadau, gan nodi pa un oedd yr enghraifft well o ymarfer gwaith cymdeithasol a pham. Gwnaeth pob aseswr sawl cymhariaeth, nes eu bod wedi gwrando ar bob recordiad o leiaf unwaith. Yn gyfan gwbl, gwnaed 573 o gymariaethau a gwrandawyd ar 22,000 o funudau o sain.

Cymharwyd safleoedd y tri grลตp รขโi gilydd ac รข SWIM drwy ddadansoddiad ystadegol. Hefyd, cynhelir dadansoddiad ansoddol oโr wybodaeth gyd-destunol ar gyfer pob recordiad a rhesymauโr aseswyr. Cynhaliwyd gweithgareddau gwneud synnwyr ar y cyd gyda phob grลตp o aseswyr aโn partneriaid Awdurdod Lleol i archwilio a mireinioโr canfyddiadau cychwynnol.
Canfyddiadau
Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gwblhauโr canfyddiadau. Byddwn yn diweddaruโr dudalen hon gyda chyhoeddiadau wrth iddynt ddod ar gael.
Lead Person
| Principal Investigator | Dorottya Cserzo |
Academics and Researchers
| Professor | Donald Forrester |
| Professor | David Wilkins |
| Research Associate | Rebecca Jones |
| Research Associate | Lorna Stabler |
Related Information
| Related Schools | N/A |
| Related partners | N/A |
| Funders | N/A |
| Related publications | N/A |
| Related links | https://cascadewales.org/what-is-good-social-work-how-can-we-put-people-with-lived-experience-at-the-heart-of-answering-that-question/ |
| Related documents | N/A |
