Anelu at ddeall ymyriadau Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru sy’n targedu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac asesu llwyddiant, neu fel arall, yr ymyriadau hyn er mwyn datblygu model o arferion gorau 

Arolwg

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru a’r DU yn profi canlyniadau gwaeth o ran ystod eang o ffactorau na’u cyfoedion sydd heb brofiad o ofal cymdeithasol. Ymhlith y ffactorau hyn mae iechyd, tlodi a beichiogrwydd cynnar, yn ogystal ag addysg. Mae’r gwahaniaeth mewn canlyniadau addysgol yn cael ei drin mewn sawl ffordd. O ganlyniad i ymchwil addysgol megis Adolygiad Diamond, mae Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn rhoi mwy o gymorth i’r rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal er mwyn gwella eu mynediad at brifysgolion.

O ganlyniad i Adolygiad Diamond 2016, cafodd ymadawyr gofal eu cydnabod yn benodol fel grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch, a chyflwynwyd argymhellion y dylid ystyried pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn un o’r tri grŵp sy’n gymwys i gael cymorth ychwanegol, yn ariannol ac yn bersonol (Llywodraeth Cymru, 2016). Yn ogystal, yn dilyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sefydlodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ofyniad bod SAUau yn hyrwyddo “cyfle cyfartal i gefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch” (gan gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal), drwy ddenu a chadw grwpiau o’r fath yn ogystal â chodi dyheadau a rhoi cefnogaeth wedi’i theilwra (CCAUC, 2018). Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at SAUau yn canolbwyntio mwy ar gefnogaeth o’r fath, ac eto prin fu’r ymchwil i lwyddiant, neu fel arall, ymyriadau o’r fath.

Nod y Gymrodoriaeth hon yw deall ymyriadau SAU yng Nghymru sy’n targedu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac asesu llwyddiant neu fethiant yr ymyriadau hyn er mwyn datblygu argymhellion ar gyfer arfer gorau.

Bydd y canfyddiadau hyn wedyn yn cael eu cysylltu â data ynghylch niferoedd y rhai sy’n gadael gofal sy’n mynychu SAUau Cymru. Yn bwysig, nod y Gymrodoriaeth yw deall a rhoi llais i brofiadau pobl ifanc â phrofiad o ofal sydd wedi bod trwy’r broses o wneud penderfyniadau am eu haddysg barhaus.

Prif nod y gwaith ymchwil hwn yw deall yr hyn y mae SAUau Cymru yn ei wneud i wella mynediad at addysg uwch a sicrhau bod pobl sy’n gadael gofal (a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn ehangach) yn llwyddo yn y maes, ac asesu effeithiolrwydd y gweithgareddau hyn er mwyn creu model o’r arferion gorau. Yn benodol, bydd y Gymrodoriaeth yn:

  • Casglu tystiolaeth o raglenni sy’n ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ym mhob SAU yng Nghymru;
  • Ystyried hyn ochr yn ochr ag ystadegau sy’n ymwneud â derbyn a chadw ymadawyr gofal yn y SAUau hyn;
  • Edrych ar brofiadau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal eu hunain o AU; a
  • Defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu argymhellion ar gyfer arfer gorau.

Er mwyn cyflawni’r nod cyffredinol, cyflawnir yr amcanion canlynol:

  • Adolygiad ar wib o lenyddiaeth yn ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac AU;
  • Archwiliad o bolisïau a rhaglenni SAUau yng Nghymru sy’n ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phobl sy’n gadael gofal (cyn ac ar ôl dechrau);
  • Dadansoddiad o’r rhain a fydd yn cael ei gymharu â chyfraddau ymadawyr gofal o ran mynd i mewn i’r sefydliadau hyn, ac o ran cadw ymadawyr gofal yn y sefydliadau hyn;
  • Datblygu dealltwriaeth o’r rhwystrau y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu hwynebu wrth barhau ym myd addysg, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain;
  • Cyfres o awgrymiadau o ran polisïau ac ymarfer a allai wella mynediad ymadawyr gofal at addysg uwch, a’u llwyddiant ym maes AU.

Bydd y gwaith ymchwil hwn yn defnyddio dull Cymru gyfan, gan archwilio’r mentrau y mae SAUau yn eu rhoi ar waith i leihau’r rhwystrau y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu hwynebu o ran addysg ôl-orfodol. Cynhyrchir yr ymchwil ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac ymarferwyr er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn o anghenion pobl ifanc.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae’r Gymrodoriaeth wedi defnyddio cymysgedd o ddulliau, gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws a thechnegau ymchwil creadigol a chyfranogol. Yn y lle cyntaf, cynhaliwyd cyfweliadau â staff perthnasol yn wyth sefydliad addysg uwch Cymru, yn bennaf y rhai sy’n gweithio mewn timau Ehangu Cyfranogiad (EC) a Gwasanaethau Myfyrwyr. Rhoddodd y cyfweliadau hyn fanylion ynghylch y gwaith mae pob SAU wedi’i wneud gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. At hynny, cysylltwyd ag unigolion o Gyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Llywodraeth Cymru er mwyn dysgu rhagor am ymyriadau AU ar lefel genedlaethol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal.

Yn dilyn hyn, cafodd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o bob rhan o Gymru eu nodi gan staff SAUau, staff awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am weithio gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal, a chydlynwyr dynodedig ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ysgolion uwchradd Cymru. Cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal er mwyn cael rhagor o wybodaeth am eu profiadau o addysg, yn enwedig eu barn a’u teimladau ar AU a’u profiad ohoni. Roedd gan rai o’r bobl ifanc hyn brofiad o ymyriadau EC a gynigir gan SAUau, ac mae rhai wedi mynd ymlaen i ddilyn AU.

Mae dull Cymru gyfan y Gymrodoriaeth hon yn golygu, er bod ymchwil wedi cael ei gynnal o bell oherwydd pandemig COVID-19, bod y cyfranogwyr wedi’u lleoli ledled y wlad, yn benodol yn lleoliadau lle ceir pob un o SAUau Cymru: tri yng Nghaerdydd, dau yn Abertawe, ac un yn Aberystwyth, Bangor, a Wrecsam fel ei gilydd, yn ogystal â Threfforest (cartref un o gampysau Prifysgol De Cymru), Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin (mae’r ddau ohonynt yn lleoliadau ar gampysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).

Ymhlith y data a gasglwyd yn ystod y cyfnodau hyn mae tystiolaeth ddogfennol o raglenni cymorth gan sefydliadau addysg uwch, a recordiadau o tua 50 o gyfweliadau a grwpiau ffocws. Mae’r canfyddiadau a gafwyd o’r synthesis hwn o ddata yn cael eu defnyddio i sefydlu awgrymiadau ar gyfer arfer gorau y gall SAUau eu defnyddio wrth ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Canfyddiadau

Mae canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r ymchwil hon, yn ogystal â rhai o brosiect diweddar yn ymwneud â’r sawl oedd yn gadael gofal a COVID-19 a oedd yn cynnwys pobl ifanc mewn addysg uwch a chanddynt brofiad o ofal ((Roberts at al). 2020; 2021a, 2021b), yn dangos bod pobl ifanc ac ymarferwyr fel ei gilydd yn tynnu sylw at y ffaith bod gwybodaeth ddibynadwy yn allweddol wrth geisio cael mynediad at Addysg Uwch, neu gefnogi person sydd â phrofiad o ofal i wneud hynny.

Gan geisio mynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru, defnyddiwyd y canfyddiadau hyn ar gyfer y prosiect DOSBARTH Cymru, gwefan o wybodaeth allweddol wedi’i chynllunio i helpu i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru wrth iddynt fynd ymlaen i’r brifysgol. Gydag arweiniad clir a syml, dyma siop un stop sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc eu hunain i ddod o hyd i wybodaeth ac arweiniad perthnasol sydd o gymorth yn ystod y cyfnod pontio allweddol hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am chwaer brosiect hwn yma: https://cascadewales.org/cy/research/gofal-y-brifysgol-llunio-adnodd-ar-lein-ar-gyfer-myfyrwyr-a-fu-o-dan-ofal/


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddHannah Bayfield

Academyddion ac Ymchwilwyr

DarllenyddDawn Mannay
Ysgolion CysylltiedigYgsol y Gwyddorau Cymdeithasol, Ehangu cyfranogiad ac allgymorth
CyllidwyrYmchwil Gofal a Iechyd Cymru
Dolenni cysylltiedighttps://classcymru.co.uk/cy/