Mae’r astudiaeth hon yn asesu effaith gymdeithasol, economaidd, emosiynol a pherthynas y pandemig COVID-19 ar ofalwyr di-dâl, ac yn ystyried sut y gellir cefnogi gofalwyr o’r fath yn well trwy gydol amodau pandemig ac yn y dyfodol yng Nghymru.

Arolwg

Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cefnogaeth a gofal hanfodol i aelodau teulu neu ffrindiau sy’n sâl neu’n anabl ac yn aml cyfeirir atynt fel ‘byddin gudd’ o staff gofal sy’n hanfodol i weithrediad gwasanaethau cyhoeddus. Gyda natur eu hadnodd ariannol a’u cefnogaeth yn ddibynnol iawn ar amgylchiadau personol ac Awdurdod Lleol, mae gofalwyr di-dâl yn aml yn profi anfantais ariannol a chymdeithasol sylweddol o dan amodau arferol, gan roi straen ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Maent yn aml yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth leol a darpariaeth gofal dros dro i’w galluogi i ganolbwyntio ar eu lles eu hunain ochr yn ochr â lles yr unigolyn neu’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Yn hynny o beth, mae’r grŵp hwn wedi profi effaith negyddol ychwanegol o’r pandemig COVID-19, gyda thynnu neu gyfyngu’n drwm ar lawer o’r ddarpariaeth gymorth hon, ochr yn ochr â chyfyngiadau ar fynychu gweithgareddau o bosibl, ac, weithiau, effaith ariannol ychwanegol o ganlyniad i ffyrlo neu ddiswyddo. Mae’r astudiaeth hon yn cynnal cyfweliadau lled-strwythuredig ansoddol manwl gyda deugain o ofalwyr di-dâl yng Nghymru o amrywiaeth o gefndiroedd, amgylchiadau ac ardaloedd i ddeall eu naratifau a’u profiadau unigol cyn ac yn ystod y pandemig. Bydd y canfyddiadau’n rhan o ystod o astudiaethau a fydd yn llywio’r strategaeth ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru, sydd heb eu datblygu’n ddigonol ar hyn o bryd.

Gweithgareddau a Dulliau

Cyfweliadau lled-strwythuredig ansoddol

Canfyddiadau

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio natur profiadau gofalwyr di-dâl cyn y pandemig, effaith COVID-19 ar eu profiadau o ofalu, ac effeithiau’r profiadau hyn ar eu lles. Mae ein canfyddiadau yn dangos bod gofalwyr di-dâl eisoes yn wynebu ystod o heriau a bod y pandemig yn aml wedi gwaethygu eu hanawsterau.

Sut oedd bywydau’r gofalwyr cyn i’r pandemig ddechrau?

Gall bod yn ofalwr fod yn broses gymhleth a graddol, sy’n golygu nad yw llawer o ofalwyr yn cydnabod eu bod yn ofalwyr nes byddant mewn argyfwng ac yn gofyn am gymorth gan wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol. Ymdeimlad o gariad neu gyfrifoldeb sy’n gyrru’r rhan fwyaf o ofalwyr, ond mae’n bosibl y bydd teimladau pwerus o hyd o fod yn ‘gaeth’, diffyg dewis, a rhwystredigaeth gyda’r unigolyn o dan ofal. Mae ymgymryd â rôl gofalu yn peri goblygiadau dwys i’r berthynas rhwng y gofalwr a’r unigolyn o dan ofal. Gall hyn gymhlethu deinameg teulu; er enghraifft, pan fydd rolau rhiant/plentyn yn cael eu gwrthdroi. Mae’n bwysig bod y gofalwr a’r unigolyn o dan ofal yn rhannu amseroedd o fwynhad a phleser ar y cyd, oherwydd gall y rhain wella eu perthynas a gwneud y trefniant gofalu yn fwy cynaliadwy. Myfyriodd llawer o ofalwyr yn ein hastudiaeth ar bwysigrwydd eu perthynas ofalgar a nododd rhai ymdeimlad o gyflawniad a hunan-effeithiolrwydd yn deillio o’u rôl gofalu. 

Er gwaethaf eu hymrwymiad i’r unigolyn sydd o dan ofal, a rhai profiadau cadarnhaol, nododd y rhan fwyaf o ofalwyr eu bod o dan straen oherwydd eu rôl gofalu, a bod eu hiechyd meddwl yn dioddef yn sgîl hynny. I lawer, roedd y teimlad o unigrwydd a bod wedi eich ynysu’n gymdeithasol yn broblemau hirsefydlog cyn i bandemig COVID-19 ddechrau, ac fe nododd rai yn goeglyd bod cyfnod clo wedi bod yn rhan arferol o fywyd gofalwr ers cryn amser. Yn anad dim, roedd y rhai â rhwydweithiau cymdeithasol gwannach yn tueddu i sôn am iechyd meddwl gwaeth. 

Gwaethygwyd yr effeithiau ar les gofalwyr mewn rhai achosion gan amodau byw a gofalu a allai gael eu hystyried mewn sefyllfaoedd eraill fel rhai sy’n ymyrryd â hawliau dynol e.e. nifer yr oriau a dreulir yn gofalu bob wythnos, neu bod yn agored i’r risg o niwed corfforol oherwydd codi neu ymosodiad (os oes gan anwyliaid salwch/anableddau sy’n effeithio ar eu hymddygiad). Ar ben hynny, mae’r rhan fwyaf o ofalwyr yn byw gyda lefel barhaus o ofn ac ansicrwydd e.e. os bydd cyflwr eu hanwyliaid yn gwaethygu a’r posibilrwydd y gallent ddioddef mwy yn y dyfodol. 

Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn mwynhau cymryd rhan mewn gwaith â thâl nad ydynt yn ymwneud â’u cyfrifoldebau gofalu. Gall hyn wella lles gofalwyr drwy gynnig seibiant o ofalu, hybu hunan-barch, a rhoi cyfle i gymdeithasu’n annibynnol. Cymysg oedd profiadau ein cyfweleion o ran y gefnogaeth a gawsant gan gyflogwyr i reoli eu cyfrifoldebau gofalu ochr yn ochr â’u gwaith. Rhannodd llawer o ofalwyr enghreifftiau o hyblygrwydd a dealltwriaeth gan gyflogwyr a chydweithwyr, ac roeddent yn diolchgar amdanynt gwerthfawrogi. Fodd bynnag, nododd eraill ddiffyg dealltwriaeth o’u hanghenion ac mai ychydig iawn o ystyriaeth oedd yn cael ei rhoi i’w cyfrifoldebau gofalu. Fe wnaeth sawl un gydnabod bod eu gwaith gofalu wedi effeithio ar eu cynlluniau gyrfaol, gan mai dim ond hyn a hyn o oriau y maent yn gallu gweithio a pha mor bell o gartref y maent yn gallu teithio neu fyw. Roedd hyn yn bryder i ofalwyr ifanc yn benodol. 

Yn yr un modd ag yr oedd ymatebion cyflogwyr i ofalwyr di-dâl yn gymysg, roedd profiadau gofalwyr o addysg yn amrywio’n fawr. Dywedodd llawer o ofalwyr iau nad oedd eu hysgolion yn cydnabod eu bod yn ofalwyr ifanc. Roedd hyn er eu bod yn cofio adegau a allai fod wedi rhoi’r cyfle i ysgolion drafod y gefnogaeth y gallai fod angen arnynt a’u cyfeirio at asiantaethau eraill am gefnogaeth. Ar yr adegau pan roddwyd rhywfaint o hyblygrwydd i ofalwyr oedd mewn addysg e.e. trwy bolisïau prifysgolion, fe wnaethant werthfawrogi’r hyblygrwydd a’r ystyriaeth a roddwyd iddynt o ran amser. Fodd bynnag, nid oedd polisïau o’r fath bob amser yn gwneud gwahaniaeth i’n cyfranogwyr yn ymarferol.

Nododd llawer o ofalwyr yn ein hastudiaeth eu bod wedi dioddef yn ariannol o ganlyniad i’w cyfrifoldebau a’u rôl. Roedd sawl un yn wynebu argyfwng ariannol neu anfantais economaidd anghynaladwy cyn y pandemig. Dywedodd rhai o’r gofalwyr mwy cefnog eu bod yn gwario cryn dipyn o arian o’u hadnoddau personol eu hunain i ddiwallu anghenion yr unigolyn o dan ofal, a buan iawn yr oedd y rhai â symiau cymedrol o arian yn sylwi bod eu hadnoddau’n cael eu defnyddio trwy fod yn ofalwr. Dywedodd rhai gofalwyr eu bod yn gorfod gweithio llai o oriau neu hyd yn oed roi’r gorau i weithio i allu gofalu a’u bod wedi dioddef yn ariannol yn sgîl hynny. Roedd sawl un yn teimlo’n flin ynghylch gwerth isel Lwfans Gofalwyr a’r meini prawf cul o ran pwy sy’n gymwys i’w gael.

Roedd yn ddigalon clywed am brofiadau gwael llawer o ofalwyr wrth iddynt gael eu hasesu am gefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, roeddent o’r farn nad yw gweithwyr proffesiynol yn eu cydnabod na’u gwerthfawrogi, a’u bod yn cael trafferth cael unrhyw gefnogaeth ystyrlon. Mewn cyferbyniad, roedd llawer yn canmol gwasanaethau’r sector gwirfoddol oedd yn ceisio cefnogi gofalwyr, yn enwedig os oedd canolfannau gofalwyr ar gael yn eu hardal. 

Sut mae COVID-19 wedi effeithio ar brofiadau byw gofalwyr a’r rolau y maent yn eu cyflawni?

Mae gofalwyr di-dâl wedi teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod y pandemig, gan fod gwleidyddion a’r cyfryngau wedi canolbwyntio ar gyfraniadau gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael tâl. Mae’r ymdeimlad hwn o anghyfiawnder yn anffodus yng nghyd-destun lefel ryfeddol yr aberth gan lawer o ofalwyr di-dâl, gan eu bod wedi cynyddu faint o ofal y maent wedi bod yn ei roi yn ogystal â threulio llai o amser yn gofalu am eu lles a’u diddordebau eu hunain.

Mae mesurau pellhau cymdeithasol wedi golygu nad yw’r llwybrau cymorth arferol wedi bod ar gael i lawer o ofalwyr – e.e. nid yw perthnasau wedi cael ymweld ac nid yw plant wedi cael mynd i’r ysgol. Mae hyn wedi golygu bod gofalwyr wedi cael llai o amser i’w hunain a’u bod wedi cael mwy o gyfrifoldebau i gyflawni tasgau gofalu yn ddyddiol. Un o’r agweddau mewn cysylltiad â mesurau rheoli’r pandemig sydd wedi cael effaith benodol ar ofalwyr fu’r cyngor i’r rhai mwyaf agored i niwed i ‘warchod eu hunain’. I ofalwyr, mae gwarchod eu hanwyliaid agored i niwed yn aml wedi lleihau eu rhyddid sylfaenol eu hunain hyd yn oed yn fwy nag ydoedd cyn y pandemig. Un o’r pethau penodol wnaeth beri rhwystredigaeth yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror oedd y ffaith na chafodd gofalwyr di-dâl eu blaenoriaethu ar gyfer brechiadau mor gynnar â gweithwyr cyflogedig neu eu hanwyliaid agored i niwed.

Fe wnaeth llawer o ofalwyr di-dâl sy’n gweithio groesawu’r cyfleoedd ychwanegol i weithio gartref, gan fod hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i allu cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu. Fodd bynnag, fe nododd rhai eu bod wedi gweld eisiau’r gweithle fel lle i ffwrdd o ofalu a dywedon nhw eu bod yn cael trafferth gweithio gartref yn ogystal â rhoi gofal. Roedd hyn hefyd yn wir am ofalwyr iau mewn addysg, ac roedd llawer ohonynt yn gresynu nad oeddent yn gallu dianc rhag yr hyn oedd yn tynnu eu sylw wrth geisio dilyn gwersi neu ddarlithoedd gartref. Nododd y rhai sy’n wynebu ansicrwydd ariannol (tua un o bob pump yn ein sampl) fod y pandemig wedi creu heriau ychwanegol, gan fod costau cynnal cartrefi wedi cynyddu gyda phawb gartref y rhan fwyaf o’r amser.

Mae gofalwyr di-dâl wedi gweld ei bod yn anoddach cael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig, er bod rhai wedi gweld buddion o gael mynediad at ofal iechyd o bell. Mae sefydliadau’r trydydd sector wedi parhau i roi cefnogaeth hanfodol ac wedi dangos eu bod yn gallu addasu’n effeithiol trwy newid i ddulliau cyfathrebu o bell. Fodd bynnag, er bod gofalwyr wedi gwerthfawrogi hyn, roedd ymdeimlad cyffredinol bod yn well ganddynt gwrdd yn bersonol a bod cael gwasanaethau yn yr ardal leol yn hanfodol oherwydd hynny.

Sut mae COVID-19 wedi effeithio ar les gofalwyr?

Dywedodd rhai gofalwyr fod pandemig COVID-19, a’r mesurau rheoli a orfodwyd mewn ymateb, wedi eu hysgogi i dreulio mwy o amser yn ymlacio gyda’r unigolyn o dan ofal. Roedd hyn wedi bod yn fuddiol i’w perthynas â nhw ac wedi eu hatgoffa o bwysigrwydd rhannu adegau o fwynhad. I eraill, fodd bynnag, roedd colli amser i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn o dan ofal, yn ogystal â cholli gofod personol a gweithgareddau i wella eu lles eu hunain (e.e. gan fod campfeydd ar gau) wedi arwain at fwy o densiwn a rhwystredigaeth a allai effeithio ar ba mor gynaliadwy yw eu rôl gofalu yn y tymor hir. 

Mae’r cynnydd yng nghyfrifoldebau gofalwyr a cholli llwybrau cymorth neu seibiant wedi cynyddu lefelau straen ac unigrwydd ar ofalwyr o ganlyniad i’r pandemig, yn ogystal â dirywio eu hiechyd meddwl ymhellach. Mae’r ofn y bydd eu hanwyliaid agored i niwed yn cael eu heintio â COVID-19 wedi peri pryder ychwanegol i lawer, yn ogystal â phwysau ariannol cynyddol. Yn y cyfamser, mae’r ffaith bod llai o wasanaethau statudol i’w gweld ac ar gael wedi gwneud i lawer o ofalwyr deimlo’n anweledig ac wedi’u gadael ar ôl. 

Yn y tymor byr, mae gofalwyr wedi ymateb i amodau argyfwng y pandemig gyda dewrder a stoiciaeth, ond mae hyn wedi bod ar gost bersonol enfawr. Po hiraf y disgwylir i ofalwyr ymdopi heb gefnogaeth well, mae’n fwy tebygol y bydd eu hamodau byw a gofalu yn teimlo’n anghynaladwy, gan arwain at argyfwng neu roi’r gorau i roi gofal. Fel y nodwyd uchod, roedd gofalwyr di-dâl eisoes yn wynebu heriau sylweddol i’w lles cyn i’r pandemig ddechrau. Dylai’r cyfuniad o dasgau a chyfrifoldebau gofalu ychwanegol, mwy o straen, unigrwydd a phryder gael ei ystyried yn rhybudd cynnar i lunwyr polisïau, gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol. Fel mater o flaenoriaeth, rhaid i ofalwyr gael gwell cydnabyddiaeth a chefnogaeth yng Nghymru, gan ddechrau gyda chynllun gwella ôl-bandemig cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r anfanteision i’w buddion a’u lles y maent wedi’u dioddef.

Argymhellion

  • Mae angen rhoi pwyslais penodol ar nodi gofalwyr ar adegau pan mae gwasanaethau a gofalwyr yn rhyngweithio, yn enwedig meddygon teulu a gwasanaethau iechyd. Gweithwyr proffesiynol ddylai arwain hyn er mwyn goresgyn yr hyn sy’n rhwystro gofalwyr rhag nodi eu hunain fel gofalwyr. Gallai dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) gael ei ddefnyddio i arwain y gwelliant hwn.
  • Dylai sefydliadau y gallai gofalwyr fod mewn cysylltiad â nhw adolygu’r holl ddeunyddiau a gyhoeddir sy’n hyrwyddo gwasanaethau er mwyn gwneud yn siŵr bod yr iaith sydd ynddynt yn gynhwysol h.y. iaith nad yw’n ei gwneud yn ofynnol i rywun nodi ei hun fel ‘gofalwr’ er mwyn gwerthfawrogi bod y cynnwys yn berthnasol iddynt.
  • Dylai effaith gofalu ar berthnasoedd a’r gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn cynnal lles perthnasoedd gael sylw mewn asesiadau gofalwyr. Gall gwaith therapiwtig tymor byr fod o ddefnydd er mwyn cefnogi’r gofalwr a’r unigolyn o dan ofal i ddeall a rheoli’r broses o newid i berthynas ofalgar. Efallai y bydd angen i wasanaethau cymdeithasol baratoi model ymyrraeth a allai gael ei gynnig yn rhan o gynllun gofal yn dilyn asesiad gofalwr. Byddai’n seiliedig ar theori systemau, therapi sy’n canolbwyntio ar atebion a therapi teulu.
  • Dylai asesiadau gofalwyr ar ôl y pandemig roi sylw arbennig i sut mae pellhau cymdeithasol wedi effeithio ar berthnasoedd personol yn ogystal â rhwydweithiau cymorth cymdeithasol ac ymarferol. Dylai nodi hefyd achosion o risg uwch i les gofalwr o ganlyniad i lai o gymorth cymdeithasol yn ystod y pandemig, gan gynnig ymyrraeth lle bo hynny’n briodol.
  • Dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd nodi bylchau mewn grwpiau cefnogi cymdeithasol a’u targedu drwy gynnig gwasanaethau newydd neu well gan y sector cyhoeddus neu rai statudol.
  • Dylai grwpiau gofalwyr oedolion ifanc sydd â gweithwyr cymorth ymroddedig fod ar gael yn lleol a dylai pob gofalwr o dan 25 oed yng Nghymru gael gwybod amdanynt.
  • Dylai asesiadau gofalwyr fod yn gyfle i ystyried ar y cyd a yw’r gofynion gofal sydd gan ofalwr yn rhesymol o ran eu hawliau dynol, a beth all gwasanaethau statudol neu drydydd sector ei wneud i leihau’r niwed posibl pan mae gofalwyr yn fodlon derbyn y bydd eu hawliau o dan anfantais.
  • Byddai gwasanaethau trydydd sector mewn sefyllfa addas i gynnig cwnsela arbenigol i ofalwyr, yn rhad ac am ddim, er mwyn mynd i’r afael â niwed sy’n bodoli eisoes i iechyd meddwl gofalwyr. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth wrth i’r wlad gael ei chefn ati ar ôl y pandemig.
  • Dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd nodi bylchau mewn grwpiau cefnogi cymdeithasol a’u targedu drwy gynnig gwasanaethau newydd neu well gan y sector cyhoeddus neu rai statudol.
  • Dylai grwpiau gofalwyr oedolion ifanc sydd â gweithwyr cymorth ymroddedig fod ar gael yn lleol a dylai pob gofalwr o dan 25 oed yng Nghymru gael gwybod amdanynt.
  • Dylai asesiadau gofalwyr fod yn gyfle i ystyried ar y cyd a yw’r gofynion gofal sydd gan ofalwr yn rhesymol o ran eu hawliau dynol, a beth all gwasanaethau statudol neu drydydd sector ei wneud i leihau’r niwed posibl pan mae gofalwyr yn fodlon derbyn y bydd eu hawliau o dan anfantais.
  • Byddai gwasanaethau trydydd sector mewn sefyllfa addas i gynnig cwnsela arbenigol i ofalwyr, yn rhad ac am ddim, er mwyn mynd i’r afael â niwed sy’n bodoli eisoes i iechyd meddwl gofalwyr. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth wrth i’r wlad gael ei chefn ati ar ôl y pandemig.
  • Mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd sicrhau eu bod yn mynd ati o ddifrif ac mewn modd rhagweithiol i nodi gofalwyr ar draws holl feysydd eu gwasanaethau. Gallai cofrestr genedlaethol o ofalwyr fod yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn weladwy i wasanaethau, fel y gellir ymyrryd â nhw’n fwy uniongyrchol i hyrwyddo eu hiechyd a’u lles.    
  • Mae angen i awdurdodau lleol adolygu sut mae gofalwyr yn cael gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i ofalu am yr unigolyn o dan eu gofal. Dylen nhw geisio symleiddio prosesau a gwneud gwybodaeth yn fwy eglur.
  • Dylai Timau Rhanbarthol o Ofalwyr Di-dâl gael eu sefydlu ym mhob ardal yng Nghymru – dylai’r rhain gynnwys cynrychiolwyr o nifer o asiantaethau ym meysydd gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg. Dylai’r rhain fod ar gael i ymateb i ymholiadau uniongyrchol gan ofalwyr di-dâl.
  • Mae angen mapio grwpiau cymorth lleol a gwasanaethau trydydd sector eraill ledled Cymru i nodi’r bylchau. Ar ben hynny, mae angen nodi cyllid er mwyn sicrhau mynediad teg i bob gofalwr di-dâl o ba bynnag leoliad. Dylai’r wybodaeth hon gael ei chasglu mewn man canolog ar-lein ochr yn ochr â chysylltiadau a lleoliadau. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn cael ei ddarparu trwy sefydliad cenedlaethol yn y trydydd sector.
  • Os bydd argyfyngau tebyg i bandemig COVID-19 yn y dyfodol, dylid sefydlu grŵp ymgynghori llywodraethol o ofalwyr amrywiol ar unwaith i ymgynghori ar bolisïau ac ymarfer mewn cysylltiad â’u cefnogaeth. Ar ben hynny, dylid cynllunio rhaglen allgymorth a’i rhoi ar waith lle bo angen er mwyn sicrhau nad yw gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn ystod unrhyw amodau cloi yn y dyfodol.
  • O ran amserlenni brechiadau yn y dyfodol, dylai gofalwyr di-dâl fod â’r un lefel blaenoriaeth â’r unigolyn o dan ofal.
  • Dylid ymgynghori ag ysgolion sy’n rhoi gofal i blant anabl ynghylch eu darpariaeth yn ystod COVID-19. Dylid hefyd cael eu barn o ran a fyddai’n rhesymol iddynt gynnig rhagor o leoedd i gynnal addysg plant anabl pe byddai pandemig yn y dyfodol.

Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Dan Burrows

Staff Academaidd

Cyswllt Ymchwil Dr Jen Lyttleton-Smith
Myfyrwr PHD Lucy Sheehan
Darlithydd Dr Sion Jones

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ysgolion Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Partneriaid Cysylltiedig Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Cyllidwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru