Astudiaeth ymchwil weithredol yw hon sydd wedi’i theilwra i gefnogi’r Rhaglen Troseddwyr Cam-drin Domestig i’w newid i ganolbwyntio’n fwy ar effaith trawma. Rydym wedi cynnal adolygiad o ymchwil allweddol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma ac effeithiolrwydd rhaglenni troseddwyr. Bydd yr rhain yn cael eu rhoi i reolwyr ac ymarferwyr ar ffurf adroddiadau cryno a byddwn hefyd yn cyflwyno cyfres o weminarau i helpu i ymgorffori’r dysgu. Rydym hefyd yn adolygu’r deunydd a ddefnyddir yn eu rhaglen cyflawnwyr 26 wythnos fel y gallwn weithio gyda nhw i’w newid i ganolbwyntio’n fwy ar effaith trawma.  

Arolwg

Mae Rhaglen Troseddwr Cam-drin Domestig Barnardo (DAPP) yn dilyn model Duluth i fynd i’r afael â thrais domestig. Fodd bynnag, mae’r prosiect yn cydnabod bod llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi profi rhyw fath o drawma ar ryw adeg yn eu bywydau. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â hyn trwy newid y rhaglen fel ei bod yn canolbwyntio’n fwy ar effaith trawma. Mae Barnardo’s yn gyffredinol bellach yn canolbwyntio ar fod yn fwy ymwybodol o drawma felly mae’r gwaith hwn yn gyson â’r dull newydd hwnnw.  

Gweithareddau/Dulliau

Mae’r tîm wedi datblygu dealltwriaeth o’r rhaglen trwy adolygu’r gwaith papur a chynnal chyfweliadau anffurfiol gyda chydlynwyr a chyflwynwyr y rhaglenni. Ar yr un pryd, mae’r tîm wedi adolygu’r llenyddiaeth bresennol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma ac yn cyd-gyflwyno gweithdai gyda’r tîm DAPP ar sut y gellir datblygu’r gwasanaethau ymhellach i fod yn fwy ymwybodol o drawma. Wrth i’r rhaglen ddatblygu, rydym yn gobeithio gwrando ar recordiadau o sesiynau grŵp a hefyd cynnal cyfweliadau pellach gydag ymarferwyr a’r teuluoedd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.  

Canfyddiadau

Bydd yr astudiaeth hon yn bennaf yn helpu i ddatblygu damcaniaethau ynghylch sut i weithio gyda cham-drin domestig a thystiolaeth ynghylch a all dulliau sy’n cael eu llywio gan drawma fod yn ddefnyddiol.


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd Prof. Donald Forrester

Staff Academaidd

Ymchwilydd Catrin Wallace
YmchwilyddDr. Clive Diaz

Gwybodaeth Cysylltiedig

Partneriaid Cysylltiedig Barnado’s Cymru